Module Information
Course Delivery
Delivery Type | Delivery length / details |
---|---|
Lecture | 3 darlith 2 awr |
Other | 2 weithdy 2 awr |
Seminars / Tutorials | 8 awr tiwtorialau (2 awr Sem 1 + 6 awr Sem 2) |
Workload Breakdown | 18 awr o oriau cyswllt 36 awr o baratoi, ymchwilio ac ysgrifennu'r cynllun ymchwil manwl 346 awr o baratoi, ymchwilio a llunio'r prosiect hir Cyfanswm = 400 awr |
Assessment
Assessment Type | Assessment length / details | Proportion |
---|---|---|
Semester Assessment | Cynllun ymchwil manwl 1500 o eiriau | 20% |
Semester Assessment | Prosiect hir Prosiect hir 8,500-10,000 o eiriau yn achos traethawd neu swmp o waith cyfatebol yn achos prosiect arall | 80% |
Supplementary Assessment | Ailgyflwyno elfennau a fethwyd |
Learning Outcomes
On successful completion of this module students should be able to:
trefnu a chydlynu prosiect seiliedig ar ymchwil wreiddiol.
datblygu eu gallu i reoli amser a gweithio'n effeithiol o fewn terfynau amser
arddangos dealltwriaeth feirniadol o'r ffynonellau cynradd ac eilradd perthnasol.
cynhyrchu prosiect sy'n cyd-fynd o ran cyflwyniad â safonau academaidd addas.
Aims
Galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol, gan adeiladu ar eu profiad dysgu blaenorol o fewn yr Adran. Bydd y modiwl hwn yn arwain myfyrwyr drwy'r broses o baratoi, cynllunio ac ysgrifennu darn estynedig yn y Gymraeg (neu waith prosiect cyfatebol yn y Gymraeg) ar bwnc perthnasol i'w cynllun gradd.
Content
Sesiwn 1: Cyflwyniad Cyffredinol (2 awr)
Sesiwn 2: Cyfarfod unigol gyda'r goruchwylwyr (2 awr)
Sesiwn 3: TG a Sgiliau Gwybodaeth (2 awr)
Sesiwn 4: Ffynonellau ac Ymchwil (2 awr)
Sesiwn 5: Gweithdy I, i fyfyrwyr gyflwyno a thrafod eu syniadau (2 awr)
Sesiwn 6: Gweithdy II, i fyfyrwyr gyflwyno a thrafod eu syniadau (2 awr)
Semester Dau: Cyfarfodydd unigol pythefnosol (6 awr) gyda'r goruchwyliwr.
Brief description
Cynigia rhan gyntaf y modiwl ragbaratoad i fyfyrwyr er mwyn cynllunio ac ymchwilio ar gyfer prosiect hir ar lefel israddedig. Seilir y proseict ar ymchwil wreiddiol ac y mae datblygu dulliau ymchwil effeithiol yn rhan hanfodol o'r modiwl. Yn ystod y semester cyntaf bydd myfyrwyr yn diffinio'u testun gan ymgynghori gyda goruchwyliwr cymwys o blith staff yr Adran ac yn cyflwyno cynllun o'r prosiect arfaethedig. Darperir darlithoedd a gweithdai yn Semester 1 yn trafod sut i ddewis a diffinio testun prosiect hir a sut i gynllunio'r ymchwil a'r ysgrifennu. Cynigir hyfforddiant i ddod o hyd i ffynonellau ac i lunio llyfryddiaeth. Erbyn diwedd Semester 1 bydd y myfyrwyr yn cyflwyno cynllun manwl (tua 1,500 o eiriau). Yn Semester 2 bydd myfyrwyr yn cyfarfod a^'u goruchwylwyr mewn cyfarfodydd unigol wrth iddynt fwrw ymlaen gydag ymchwilio a chyflawni'r prosiect hir.
Module Skills
Skills Type | Skills details |
---|---|
Application of Number | |
Communication | Datblygir medru cyfathrebu drwy gyfrwng y gweithdai a'r sesiynau tiwtorial lle mae gofyn i fyfyrwyr drafod eu ffynonellau, eu methodoleg au cynnydd, ynghyd â thrwy'r broses o lunio'r prosiect hir. |
Improving own Learning and Performance | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trefnu'u gwaith ac adrodd yn ôl i'w goruchwyliwr ar eu cynnydd. Drwy'r broses hon, disgwylir iddynt ddatblygu'r gallu i fyfyrio'n feirniadol ar eu gwaith. |
Information Technology | Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-ROM, ac i'w ddefnyddio mewn ffordd addas er mwyn darganfod ffynonellau addas ar gyfer eu testun ymchwil. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth ysgrifennu |
Personal Development and Career planning | Datblygu ymwybyddiaeth o fedrau, safbwyntiau a nodweddion personol; profiad uniongyrchol o gynllunio a chyflwyno gwaith estynedig a all fod o ddefnydd ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. |
Problem solving | Rhoddir cyfarwyddyd i fyfyrwyr i'w cynorthwyo i adnabod y problemau posibl a all godi wrth gynllunio ac ymchwilio i brosiect ymchwil a byddant yn trafod problemau ac atebion posibl yn y gweithdai a chyda'r goruchwylwyr. |
Research skills | Seilir y proseict ar ymchwil wreiddiol ac y mae datblygu dulliau ymchwil effeithiol yn rhan hanfodol o'r modiwl. |
Subject Specific Skills | |
Team work |
Notes
This module is at CQFW Level 6