Module Information

Module Identifier
CY35940
Module Title
PROSIECT HIR
Academic Year
2011/2012
Co-ordinator
Semester
Intended for use in future years
Mutually Exclusive
Pre-Requisite

Course Delivery

Delivery Type Delivery length / details
Lecture 3 darlith 2 awr
Other 2 weithdy 2 awr
Seminars / Tutorials 8 awr tiwtorialau (2 awr Sem 1 + 6 awr Sem 2)
Workload Breakdown 18 awr o oriau cyswllt 36 awr o baratoi, ymchwilio ac ysgrifennu'r cynllun ymchwil manwl 346 awr o baratoi, ymchwilio a llunio'r prosiect hir Cyfanswm = 400 awr
 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Cynllun ymchwil manwl 1500 o eiriau  20%
Semester Assessment Prosiect hir  Prosiect hir 8,500-10,000 o eiriau yn achos traethawd neu swmp o waith cyfatebol yn achos prosiect arall  80%
Supplementary Assessment Ailgyflwyno elfennau a fethwyd 

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

trefnu a chydlynu prosiect seiliedig ar ymchwil wreiddiol.

datblygu eu gallu i reoli amser a gweithio'n effeithiol o fewn terfynau amser

arddangos dealltwriaeth feirniadol o'r ffynonellau cynradd ac eilradd perthnasol.

cynhyrchu prosiect sy'n cyd-fynd o ran cyflwyniad â safonau academaidd addas.

Aims

Galluogi myfyrwyr i ddatblygu sgiliau ymchwil annibynnol, gan adeiladu ar eu profiad dysgu blaenorol o fewn yr Adran. Bydd y modiwl hwn yn arwain myfyrwyr drwy'r broses o baratoi, cynllunio ac ysgrifennu darn estynedig yn y Gymraeg (neu waith prosiect cyfatebol yn y Gymraeg) ar bwnc perthnasol i'w cynllun gradd.

Content

Semester Un: 6 sesiwn (12 awr):
Sesiwn 1: Cyflwyniad Cyffredinol (2 awr)
Sesiwn 2: Cyfarfod unigol gyda'r goruchwylwyr (2 awr)
Sesiwn 3: TG a Sgiliau Gwybodaeth (2 awr)
Sesiwn 4: Ffynonellau ac Ymchwil (2 awr)
Sesiwn 5: Gweithdy I, i fyfyrwyr gyflwyno a thrafod eu syniadau (2 awr)
Sesiwn 6: Gweithdy II, i fyfyrwyr gyflwyno a thrafod eu syniadau (2 awr)
Semester Dau: Cyfarfodydd unigol pythefnosol (6 awr) gyda'r goruchwyliwr.

Brief description

Cynigia rhan gyntaf y modiwl ragbaratoad i fyfyrwyr er mwyn cynllunio ac ymchwilio ar gyfer prosiect hir ar lefel israddedig. Seilir y proseict ar ymchwil wreiddiol ac y mae datblygu dulliau ymchwil effeithiol yn rhan hanfodol o'r modiwl. Yn ystod y semester cyntaf bydd myfyrwyr yn diffinio'u testun gan ymgynghori gyda goruchwyliwr cymwys o blith staff yr Adran ac yn cyflwyno cynllun o'r prosiect arfaethedig. Darperir darlithoedd a gweithdai yn Semester 1 yn trafod sut i ddewis a diffinio testun prosiect hir a sut i gynllunio'r ymchwil a'r ysgrifennu. Cynigir hyfforddiant i ddod o hyd i ffynonellau ac i lunio llyfryddiaeth. Erbyn diwedd Semester 1 bydd y myfyrwyr yn cyflwyno cynllun manwl (tua 1,500 o eiriau). Yn Semester 2 bydd myfyrwyr yn cyfarfod a^'u goruchwylwyr mewn cyfarfodydd unigol wrth iddynt fwrw ymlaen gydag ymchwilio a chyflawni'r prosiect hir.

Module Skills

Skills Type Skills details
Application of Number
Communication Datblygir medru cyfathrebu drwy gyfrwng y gweithdai a'r sesiynau tiwtorial lle mae gofyn i fyfyrwyr drafod eu ffynonellau, eu methodoleg au cynnydd, ynghyd â thrwy'r broses o lunio'r prosiect hir.
Improving own Learning and Performance Disgwylir i fyfyrwyr fedru trefnu'u gwaith ac adrodd yn ôl i'w goruchwyliwr ar eu cynnydd. Drwy'r broses hon, disgwylir iddynt ddatblygu'r gallu i fyfyrio'n feirniadol ar eu gwaith.
Information Technology Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-ROM, ac i'w ddefnyddio mewn ffordd addas er mwyn darganfod ffynonellau addas ar gyfer eu testun ymchwil. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth ysgrifennu
Personal Development and Career planning Datblygu ymwybyddiaeth o fedrau, safbwyntiau a nodweddion personol; profiad uniongyrchol o gynllunio a chyflwyno gwaith estynedig a all fod o ddefnydd ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Problem solving Rhoddir cyfarwyddyd i fyfyrwyr i'w cynorthwyo i adnabod y problemau posibl a all godi wrth gynllunio ac ymchwilio i brosiect ymchwil a byddant yn trafod problemau ac atebion posibl yn y gweithdai a chyda'r goruchwylwyr.
Research skills Seilir y proseict ar ymchwil wreiddiol ac y mae datblygu dulliau ymchwil effeithiol yn rhan hanfodol o'r modiwl.
Subject Specific Skills
Team work

Notes

This module is at CQFW Level 6