Module Information

Cod y Modiwl
FG11120
Teitl y Modiwl
FFISEG GLASUROL 2
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
Ffiseg Safon uwch
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 11 Darlith 2 awr (darlithoedd drwy gyfrwng y Saesneg)
Seminarau / Tiwtorialau 11 Gweithdy 1 awr a thiwtorial termau 1 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 3 Awr   70%
Asesiad Semester Taflenni enghreifftiau  i'w cwblhau yn ystod y semester addysgu.  30%
Arholiad Ailsefyll 100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr allu:

1. Deall sylfaeni electromagneteg a'u cymhwyso i systemau syml macrosgobig a microsgopig.

2. Disgrifio priodweddau sylfaenol defnyddiau deuelectrig, magnetig a rhai sy'n dargludo trydan.

3. Cyfrifo'r grym ar ronyn wedi’i wefru mewn meysydd trydanol a magnetig a disgrifio mudiant gronyn wedi'i wefru mewn maes trydanol unffurf.

4. Cyfrifo potensial system o ronynnau wedi'u gwefru.

5. Disgrifio strwythur a phwrpas gwrthyddion a chynwysyddion.

6. Defnyddio diagramau ffasor, dulliau fector a rhifau cymhlyg i ddadansoddi cylchedau AC.

Nod

Mae tarddiad ffiseg glasurol ym myd microsgopig electronau, atomau a molecylau ond gellir disgrifio nifer o ffenomenau, o leiaf yn ansoddol, drwy syniadau clasurol. Mae cysyniadau fel gwefr a cherrynt trydanol, a meysydd trydanol a magnetig ac anwythiad electromagnetig yn disgrifio sut mae cylchedau trydan a deunyddiau deuelectrig a magnetig yn gweithio.

Cyflwynir y cysyniad o wefr drydanol ac esbonnir grym, maes a photensial trydanol yn nhermau Deddf Coulomb gan ddefnyddio enghreifftiau darluniol. Cyflwynir dull amgen Deddf Gauss. Ystyrir llif gwefr sy'n arwain at Ddeddf Ohm a chysyniad gwrthiant. Ystyrir cynwysyddion a gwrthyddion a rhoddir enghreifftiau o'u defnydd mewn cylchedau trydanol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl hwn yn datblygu egwyddorion a thechnegau electrostateg, magneteg a thrydan. Rhoddir pwyslais ar ddatrys problemau, a thaflenni enghreifftiau a fydd yn cynnwys ymarferion rhifiadol. Mae'r modiwl yn fodiwl craidd i gynlluniau gradd anrhydedd mewn ffiseg ac yn paratoi myfyrwyr at fodiwlau ffiseg fodern rhan dau.

Cynnwys

ELECTROSTATEG:
1. Meysydd trydanol a chymwysiadau deddfau Coulomb a Gauss i wefrau trydanol mewn ffurfweddau geometreg gwahanol.
2. Potensial trydanol mewn perthynas â maes trydanol, arwynebau unbotensial.
3. Cynwysyddion, dwysedd egni trydanol a deunyddiau deuelectrig.

MAGNETEG:
1. Meysydd magnetig, dolenni cerrynt a deunyddiau magnetig.
2. Deddfau Biot-Savart ac Ampere wedi'u cymhwyso i geryntau trydanol mewn gwifrau a solenoidau.
3. Anwythiad electromagnetig (Deddfau Faraday a Lenz), hunan anwythiad a dwysedd egni magnetig.

TRYDAN DC:
1. Cerrynt a gwrthiant, Deddf Ohm, gwrthedd, amedrau, foltmedrau.
2. Cylchedau cerrynt union (DC) - gwrthyddion mewn cyfres a pharalel, gwrthiant mewnol, egni a phwer.
3. Cylchedau rhannu potensial a rheolau Kirchoff.

TRYDAN AC :
1. Ceryntau eiledol (AC) mewn cylchedau gwrtheddol, cynhwysaidd ac anwythaidd.
2. Adweithedd a rhwystriant.
Dadansoddiad cylchedau AC gan ddefnyddio diagramau ffasor, dulliau fector a rhifau cymhlyg.
3. Pwer ac ongl gwedd. Cylchedau RCL mewn cyfres a pharalel ac amodau cyseiniant.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl yn amlygu'r datblygiadau technolegol diweddaraf yn y meysydd ac yn cyfrannu at ddatblygu gyrfa.
Datrys Problemau Caiff sgiliau datrys problemau eu datblygu drwy gydol y modiwl a'u profi mewn aseiniadau ac yn yr arholiad ysgrifenedig.
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r pecynnau gwaith cartref electronig wedi eu cynllunio i annog dysgu hunan-gyfeiriedig ac i wella perfformiad. Asesir hwn drwy'r llyfrau graddau ar-lein.
Rhifedd Mae gan bob cwestiwn a osodir yn y taflenni enghreifftiau ac arholiadau ffurfiol broblemau rhifiadol.
Sgiliau pwnc penodol
Sgiliau ymchwil Bydd y darllen cyfeiriedig a'r pecyn gwaith cartref electronig yn galluogi myfyrwyr i ymestyn eu dealltwriaeth o'r darlithoedd. Caiff hwn ei gyfeirio gan waith cartref ar-lein. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael problemau i'w datrys yn y darlithoedd a bydd hyn yn golygu ymchwil yn y llyfrgell ac yn defnyddio'r rhyngrwyd.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio pynciau o fewn y modiwl gan ddefnyddio'r rhyngrwyd.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4