Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 14 Hours. 14 x 1 awr |
Seminarau / Tiwtorialau | 8 Hours. 4 x 2 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Perfformiad Seminar | 10% |
Asesiad Semester | Traethawd 2,500 o eiriau | 30% |
Arholiad Semester | 2 Awr (1x arholiad 2 awr) (Gall myfyrwyr, gyda chaniatad y Gyfadran, gael y cyfle i ailsefyll y modiwl hwn, yn ystod cyfnod yr arholiadau ychwanegol fel arfer. Am eglurhad pellach, cysyllter ar Gweinyddydd Academaidd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.) | 60% |
Disgrifiad cryno
Prif amcan y modiwl yw sicrhau fod gan fyfyrwyr ddealltwriaeth o'r prif ddamcaniaethau sy'n ymwneud a gwrieddiau, datblygiad a rol y 'genedl' mewn gwleidyddiaeth gyfoes. Bydd y darlithoedd yn edrych ar gwahanol ffyrdd y mae mobileiddo cenedlaetholol wedi digwydd mewn gwahanol rannau o'r byd, ac yn edrych ar y math o geisiadau sydd wedi cael eu gwneud yn enw'r genedl. Bydd y modiwl hefyd yn ystyried beth yw goblygiadau globaleiddio ag integreiddio Ewropeaidd ar gyfer y ffordd y mae cysyniadau megis hunaniaeth, tiriogaethedd a grym gwleidyddol yn cael eu deall yn y byd modern.
Cynnwys
- Problemmau damcaniaethol a chysyniadol sy'r codi wrth astudio'r `genedl?
- Gwahanol esboniadau o darddiad cenedlaetholdeb fel ffenomenon wleidyddol gyfoes
- Pwy sy'r ffurfio'r genedl? Damcaniaethau primordaidd a dinesig o'r genedl
- Cenedlaetholdeb leiafrifol a'r broses o 'rodi-cenedl? yn erbyn y wladwriaeth
- Cenedlaetholdeb yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop
- Goblygiadau globaleiddio ag integreiddio Ewrop i'r genedl a chenedlaetholdeb
- Moesoldeb cenedlaetholdeb a hawliau ymwahaniad
Sgiliau trosglwyddadwy
Trwy gydol y cwrs, bydd cyfleoedd i ymarfer a gwella sgiliau darllen, dealltwriaeth a meddwl. Yn y darlithoedd, bydd myfyrwyr yn gwella eu gallu i wrando'r ofalus a chymryd nodiadau. Mewn seminarau, bydd myfyrwyr yn gweithio mewn grwpiau ac yn defnyddio eu sgiliu dadansoddol a rhesymegol. Bydd gofyn iddynt baratoi cyflwyniadau wedi eu selio ar waith ymchwil annibynol a bydd yn defnyddio gwybodaeth o ffynonhellau amrywiol. Byddant yn defnyddio technoleg gwybodaeth wrth gyfleu'r wybodaeth yma, ac yn ymarfer sgiliau cyfathrebu llafar. Trwy ysgrifennu traethawd ag arholiad, bydd cyfle i fyfyrwyr ddangos eu gallu ysgrifennedig ag analytig.
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6