Module Information

Cod y Modiwl
MT14010
Teitl y Modiwl
DYNAMEG GLASUROL
Blwyddyn Academaidd
2011/2012
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Rhagofynion
Mathemateg Safon Uwch
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 18 darlith 1 awr (darlithoedd drwy gyfrwng y Saesneg)
Seminarau / Tiwtorialau 4 gweithdy 1 awr a thiwtorial termau 1 awr
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Semester 2 awr: arholiad ysgrifenedig  70%
Asesiad Semester Gwaith cwrs: 2 daflen asesiad  30%
Asesiad Ailsefyll Ailsefyll cydrannau sydd wedi eu methu  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

1. Disgrifio egwyddorion sylfaenol dynameg, osgiliadau a thonnau.

2. Datrys problemau rhifiadol mewn dynameg, osgiliadau a thonnau a dehongli’r canlyniadau yn y cyd-destun ffisegol.

3. Dangos dealltwriaeth o gadwraeth momentwm a chadwraeth egni.

4. Dangos dealltwriaeth o fudiant tonnau a thonnau unfan a sut mae’r cysyniadau yn berthnasol i ffiseg fodern.

5. Deall cysyniad cyseiniant a’i gymhwysiad mewn systemau mecanyddol a thrydanol.

6. Modelu problemau mewn dynameg, osgiliadau a thonnau gyda hafaliadau mathemategol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn darparu cyflwyniad i theori glasurol dynameg. Mae dwy brif ran i'r modiwl, sy'n dilyn crynodeb fer o brosesau fector. Mae'r cynaf yn ystyried cinemateg glasurol, Deddfau Mudiant Newton, momentwm, grymoedd, gwaith, egni mecanyddol a mudiant mewn maes disgyrchol. Mae'r ail ran yn cyflwyno theori osgiliadau a thonnau, gan ystyried yr osgiliadur harmonig clasurol, cyseiniant, hafaliad ton, arosodiad tonnau a'r effaith Doppler.


Nod

Mae'r modiwl yn datblygu dealltwriaeth y myfyriwr o egwyddorion a thechnegau dynameg. Rhoddir pwyslais ar ddatrys problemau, a darperir enghreifftiau rhifiadol i'r myfyriwr ymarfer. Mae'r modiwl yn addas fel modiwl craidd blwyddyn-gyntaf cynlluniau gradd anrhydedd Ffiseg a Mathemateg, ac mae'n paratoi'r myfyriwr ar gyfer defnyddio'r testunau mewn astudiaethau uwch ym modiwlau rhan 2.

Cynnwys

Fectorau (dwyn i gof)
Mesurau fector a sgalar. Fector safle. Fectorau uned orthogonal.
Trin fectorau: adio, cydrannu, lluosymiau sgalar a fector.

Dynameg Sylfaenol
1. Cinemateg gronyn: cyflymiad cyson, mudiant teflyn.
2. Deddfau Mudiant Newton: momentwm, pwysau, grymoedd cyffwrdd ar solidau, ffrithiant, mudiant mewn cylch a grym mewngyrchol, grym gwrthiannol.
3. Gwaith ac Egni: gwaith a wneir gan rym, egni cinetig, pŵer, grym cadwrol, egni potensial (disgyrchol a sbring), cadwraeth egni mecanyddol.
4. Cadwraeth momentwm: craidd màs, gwrthdrawiadau, cyfernod adfer, gwthiad roced.
5. Disgyrchiant: Deddfau Kepler, Deddf Disgyrchiant Newton, egni potensial disgyrchol.

Osgiliadau
1. Mudiant Harmonig Syml: cyfnod, osgled, cyflymder, cyflymiad, egni.
2. Mudiant Harmonig Syml mewn systemau mecanyddol.
3. Osgiliadau gwanychol a gorfodol, cyseiniant.

Tonnau
1. Tonnau teithiol: tonfedd, amledd, cyflymder gwedd.
2. Hafaliad ton.
3. Ffenomenau ton: arosodiad tonnau, tonnau unfan, yr effaith Doppler.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu
Datblygu personol a chynllunio gyrfa
Datrys Problemau Datblygir sgiliau datrys problemau drwy gydol y modiwl a chant eu asesu drwy aseiniadau ac arholiad ysgrifenedig.
Gwaith Tim
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Anogir addysgu hunan-gyfeiriedig a gwella perfformiad drwy daflenni enghreifftiau a phecyn gwaith cartref electronig. Darperir datrysiadau i'r taflenni enghreifftiau. Caiff y gwaith cartref electronig ei asesu drwy lyfrau graddau ar-lein.
Rhifedd Mae problemau rhifiadol ar daflenni enghreifftiau a phapur arholiad yn datblygu sgiliau rhifedd.
Sgiliau pwnc penodol Mae dynameg yn destun craidd mewn Ffiseg a Mathemateg.
Sgiliau ymchwil Bydd darllen cyfeiriedig a'r pecyn gwaith cartref electronig yn galluogi'r myfyriwr i ymchwilio'r testunau a ystyrir yn y modiwl.
Technoleg Gwybodaeth

Rhestr Ddarllen

Testun A Cyffredinol
Jewett, John W. (c2010.) Physics for scientists and engineers with modern physics. /John W. Jewett, Raymond A. Serway, with contributions from Vah e Peroomian. 8th ed., International ed. Brooks/Cole Cengage Learning Chwilio Primo Tipler, Paul Allen (c2008.) Physics for scientists and engineers :with modern physics /Paul A. Tipler, Gene Mosca. 6th ed. W.H. Freeman Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4