Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Eraill | 5 x Gweithdai 6 awr 5 x Sesiwn Hyfforddi 4 awr (wedi’u harwain gan diwtor) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Cyflwyniad Ymarferol Grŵp (Gofynnir i’r myfyriwr ymgynnull grŵp er mwyn ail sefyll yr asesiad er mwyn llunio a chyflwyno perfformiad rhyngweithiol byr o 30 munud ar thema rhagbenodedig) | 60% |
Asesiad Ailsefyll | Sylwebaeth feirniadol ar gyfraniad yr unigolyn i’r prosiect gorffenedig: 2,000 o eiriau | 40% |
Asesiad Semester | Cyflwyniad Ymarferol mewn Grŵp (Gofynnir i’r myfyrwyr ymrannu’n grwpiau bychain er mwyn llunio a chyflwyno perfformiad rhyngweithiol byr o 30 munud ar thema rhagbenodedig;. Caiff y cyflwyniad ei ddogfennu er mwyn ei ddangos i’r arholwr allanol a’i gadw fel rhan o gofnodion y myfyriwr yn yr Adran. Fe ddefnyddir system o ddatgrynhoi marciau grŵp wrth asesu’r cyflwyniad hwn.) | 60% |
Asesiad Semester | Sylwebaeth feirniadol ar gyfraniad yr unigolyn i’r prosiect gorffenedig: 2,000 o eiriau | 40% |
Canlyniadau Dysgu
Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:
1. Arddangos dealltwriaeth o strategaethau a thechnegau cymhleth ar gyfer dyfeisio digwyddiad perfformiadol / cyfryngol / rhyngweithiol, gan gynnwys arddangos meistrolaeth o fethodolegau storiol sy'n briodol ar gyfer y rhychwant o gyfryngau dyfeisio a chyflwyno yn y digwyddiad hwnnw;.
2. Arddangos gallu i gymryd cyfrifoldeb dros weithredu egwyddorion methodolegol a chynrychioliadol mewn ffordd drefnus ac ystyrlon, a defnyddio sgiliau datblygedig wrth gyflawni ymchwil annibynnol a chreadigrwydd gweithredol a fydd yn arwain at gyflwyniad ymarferol;
3. Arddangos gallu i weithio'n effeithiol a chydweithredol mewn sefyllfa gymunol, a fydd yn cynnwys gweithredu a goruchwylio, cymryd cyfrifoldeb wrth reoli a llywio profiad unigol a phrofiad grwp mewn sefyllfa greadigol;
4. Gwerthuso strategaethau a thechnegau cyfansoddi, strwythuro, llwyfannu a chyflwyno wrth greu estheteg berfformiadol / gyfryngol unigol;
Nod
a) i gyflwyno ac archwilio ystod eang o strategaethau a methodau o greu a chyflwyno deunydd ymarferol (gwaith corfforol byw a/neu waith a gyflwynir trwy'r cyfryngau). Fe fydd y strategaethau a methodau hyn yn hyrwyddo prosesau cysyniadol, cyfansoddi ac ymarfer;
b) i ddarparu sail ddeallusol ac ymarferol ar gyfer creu gwaith perfformio a chynhyrchu cyfoes trwy gyfrwng cyfres o wahanol fethodau dyfeisio;
c) i ddarparu cyfleoedd i weithredu'r strategaethau cyfansoddiadol a chysyniadol a archwilir yn ystod y gwaith cwrs;
d) i hyrwyddo a galluogi'r broses o lunio, datblygu a chyflwyno darnau o waith perfformiadol a chyfryngol.
Disgrifiad cryno

Cynnwys

Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Disgwylir i'r myfyrwyr ddatblygu'r sgiliau hyn trwy ofyn iddynt ystyried a dangos proses a chanlyniadau ymchwil yn yr aseiniadau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Fe rydd y modiwl gyfle i'r myfyrwyr wylio gwaith ymarferwyr gwadd. Fe fydd hefyd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu medrau perfformio a chymathu egwyddorion ymarferol a all fod o ddefnydd mewn gyrfa broffesiynol. Nid asesir yr agweddau proffesiynol hyn fel rhan o'r modiwl, fodd bynnag |
Datrys Problemau | Fe fydd y modiwl yn helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau hyn trwy eu herio i geisio ymgorffori'r deunydd a'r egwyddorion a gyflwynwyd ac wrth geisio cwrdd a'r brîff rhagosodedig yn yr aseiniad ymarferol ac ysgrifenedig. |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Fe fydd y modiwl yn cymell myfyrwyr i ddatblygu ac i werthuso allbwn creadigol personol effeithiol a gwreiddiol. Gofynnir iddynt hefyd i asesu perthnasedd yr arbrawf ymarferol yn y modiwl hwn ar gyfer eu gwaith pellach. |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | Fe fydd y modiwl yn helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau hyn trwy ofyn iddynt ystyried a dangos proses a chanlyniadau ymchwil yr aseiniadau. |
Technoleg Gwybodaeth |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7