Module Information

Cod y Modiwl
ADM3020
Teitl y Modiwl
Arwain Newid Sefydliadol
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Testun clytwaith  4000 Words  100%
Asesiad Semester Testun clytwaith  4000 Words  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Archwilio’n feirniadol gyfraniad arweinwyr at newid a gwelliant sefydliadol llwyddiannus.

Gwerthuso dadleuon allweddol ynglŷn â damcaniaethau newid a rheoli newid ar lefel ysgol a system.

Archwilio’r galluoedd arwain sy’n ofynnol i arwain a gweithredu newid yn effeithiol ar lefel ysgol a system.

Gwerthuso’r ffactorau mewnol ac allanol, gan gynnwys gofynion polisi, sy’n effeithio ar newid a gwelliant sefydliadol.

Cymharu’n feirniadol a myfyrio ar wahanol ddulliau o weithredu newid sefydliadol yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a’u cymhwyso i gyd-destun y myfyrwyr eu hunain.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl hwn yn canolbwyntio ar brosesau ac ymarferoldeb arwain newid sefydliadol ar lefel ysgol a system. Bydd yn archwilio dadleuon allweddol ynghylch damcaniaethau newid a rheoli newid mewn cysylltiad â gwelliant sefydliadol. Bydd y modiwl hwn yn paratoi myfyrwyr i archwilio’n feirniadol gyfraniad arweinwyr yn ystod adegau o newid sefydliadol ac ansicrwydd. Bydd yn rhoi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth iddynt am arweinyddiaeth fel y gallant arwain a gweithredu newid yn effeithiol yn eu cyd-destun. Bydd y modiwl yn cymharu gwahanol ddulliau o gyflawni newid sefydliadol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, a’r gofynion polisi sy’n dylanwadu ar newidiadau o’r fath.

Nod

Nod y modiwl hwn yw galluogi myfyrwyr i archwilio’n feirniadol gyfraniad arweinwyr yn ystod adegau o newid sefydliadol ac ansicrwydd, i sicrhau bod ganddynt y gallu i arwain er mwyn arwain a gweithredu newid yn effeithiol yn eu cyd-destun eu hunain.

Cynnwys

  • Archwilio prif ddamcaniaethau newid a rheoli newid ar lefel ysgol a system.
  • Edrych ar y llenyddiaeth ryngwladol a’r dystiolaeth empirig ynghylch arwain newid sefydliadol a gwella sefydliadol llwyddiannus
  • Archwilio’r galluoedd, y rhinweddau a’r arferion arwain sydd eu hangen i arwain a gweithredu newid yn effeithiol ar lefel ysgol a system.
  • Gwerthuso’r ffactorau mewnol ac allanol, gan gynnwys gofynion polisi, sy’n effeithio ar unrhyw newid sefydliadol ar wahanol lefelau.
  • Dadansoddi’n feirniadol y gwahanol ddulliau o weithredu newid sefydliadol a sut y gellid eu defnyddio yng nghyd-destun y myfyrwyr eu hunain.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i safon uchel. Bwriad holl gynnwys y modiwl yw herio myfyrwyr i ailystyried yr hyn y maent yn credu eu bod yn ei wybod, mabwysiadu meddylfryd beirniadol a bod yn barod i addasu’r hyn y maent yn ei wneud yng ngoleuni’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth newydd y maent yn eu cael yn ystod y modiwl.
Cyfathrebu proffesiynol Ymdrin â materion cymhleth mewn modd systematig a chreadigol, llunio barn gadarn heb ddata cyflawn, a chyfleu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd arbenigol a rhai nad ydynt yn arbenigol.
Datrys Problemau Creadigol Arddangos hunangymhelliant a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys a gweithredu’n annibynnol wrth gynllunio a chyflawni tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Dealltwriaeth gysyniadol sy’n galluogi’r myfyriwr: - i werthuso’n feirniadol ymchwil ac ysgolheictod uwch presennol yn y ddisgyblaeth - i werthuso dulliau, datblygu beirniadaethau ohonynt, a phan fo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
Sgiliau Pwnc-benodol Dealltwriaeth systematig o wybodaeth, ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu ddirnadaeth newydd, gyda llawer o hyn yn waith blaengar yn eu disgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol, neu’n cael ei lywio gan hynny. Caiff myfyrwyr eu hasesu am eu gwybodaeth a’u hymwybyddiaeth feirniadol yn ymwneud â phwnc y modiwl. Bydd disgwyl i bob myfyriwr gysylltu hyn â’u harfer eu hunain.
Synnwyr byd go iawn Bydd gan y rhai sydd â’r cymhwyster y rhinweddau a’r sgiliau trosglwyddadwy sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy’n gofyn am y canlynol: - cymhelliant a chyfrifoldeb personol - y gallu i wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth ac anrhagweladwy - y gallu sydd ei angen i ddysgu’n annibynnol Drwy gydol y modiwl, caiff myfyrwyr eu hannog: a. I ddod i gasgliadau ynghylch eu harfer eu hunain er mwyn iddynt fod yn fwy hyderus wrth

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7