Module Information

Cod y Modiwl
BG16820
Teitl y Modiwl
Sgiliau ar gyfer Biolegwyr
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd  1000 Words  10%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad  2000 Words  65%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad llafar  5 Munud  25%
Asesiad Semester Traethawd  1000 Words  10%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar  5 Munud  25%
Asesiad Semester Adroddiad  2000 Words  65%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Cyfleu gwybodaeth a syniadau ar ffurf cyflwyniadau llafar ac ysgrifenedig.

Datblygu dadl resymegol a herio rhagdybiaethau.

Ffurfio damcaniaethau a chwestiynau ymchwil, ymgymryd â chasglu data, a llunio dadleuon academaidd.

Adnabod ffynonellau data ac adnoddau gwybodaeth priodol.

Meithrin ymddygiad academaidd priodol (e.e. osgoi arfer annerbyniol).

Dehongli a defnyddio data.

Arddangos llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol.

Dilyn protocol arbrofol

Cofnodi, dehongli ac adrodd ar ddata arbrofol yn briodol

Cyflwyno data/cysyniadau trwy amrywiaeth o gyfryngau

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw paratoi myfyrwyr gyda'r sgiliau allweddol angenrheidiol ar gyfer gyrfa academaidd a phroffesiynol lwyddiannus megis rheoli amser, meddwl yn feirniadol a dysgu myfyriol. Agwedd bwysig o'r modiwl yw i roi cyflwyniad i ystod o faterion ymchwil megis gwerthuso llenyddiaeth, asesu data ansoddol a meintiol a chyfathrebu llafar, gweledol ac ysgrifenedig. Cyflwynir cynnwys y modiwl drwy amrywiaeth o fformatau gan gynnwys darlithoedd, gweithdai, e-ddysgu a thiwtorialau. Yn semester 2 bydd myfyrwyr yn ymgymryd â chyfres o arbrofion cysylltiedig a fydd yn datblygu sgiliau ymarferol sylfaenol sydd eu hangen ar gyfer ymchwil ar draws bioleg. Datblygir sgiliau gweithio mewn grŵp trwy diwtorialau, a fydd hefyd yn rhoi arweiniad ar gyflwyno/dehongli data arbrofol.

Nod

Trwy gyfuniad o ddarlithoedd rhagarweiniol ffurfiol, wedi'u hategu gan sesiynau tiwtorial gyda thiwtoriaid personol, nod y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i a gwella eu sgiliau astudio a chyfathrebu. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: Sgiliau ysgrifennu a chyflwyno, Gwerthuso ffynonellau gwybodaeth, Meddwl yn feirniadol, rhesymu anwythol a diddwythol, Moeseg ymchwil a Thrin a dadansoddi data

Mae angen cyflwyniad cynnar i set o sgiliau labordy moleciwlaidd sylfaenol ar fyfyrwyr sy'n astudio gwyddorau biolegol. Bydd y modiwl hwn hefyd yn defnyddio cyfres o arbrofion integredig i gyflwyno myfyrwyr i'r technegau sylfaenol hyn. Bydd sgiliau gweithio mewn grŵp yn cael eu datblygu trwy diwtorialau, a fydd hefyd yn darparu arweiniad ar gyfer cyflwyno/dehongli data arbrofol.

Cynnwys

Semester 1
x5 o ddarlithoedd 1 awr rhagarweiniol ffurfiol dros 5 wythnos gyntaf semester 1
6 sesiwn tiwtorial 2 awr ar draws y Semester (heb ei amserlennu'n ganolog)

Semester 2
6 sesiwn tiwtorial 2 awr ar draws y Semester (heb ei amserlennu'n ganolog)
Yn wythnos 1, bydd myfyrwyr yn mynychu cyfres o ddosbarthiadau labordy cysylltiedig bob prynhawn

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, bydd disgwyl i fyfyrwyr ymchwilio i ddeunyddiau, rheoli amser a chwrdd â therfynau amser. Bydd yr elfennau astudio dan gyfarwyddyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio eu harddulliau a'u hoffterau dysgu eu hunain a nodi eu hanghenion a'u rhwystrau i ddysgu. Bydd myfyrwyr yn gallu adolygu a monitro eu cynnydd a chynllunio ar gyfer gwella perfformiad personol.
Cydlynu ag erail Gwneir yr ymchwil ar gyfer y prosiect mewn grwpiau tiwtor personol i gyflwyno myfyrwyr i'r cysyniadau o weithio mewn tîm, ac, yn seiliedig ar adborth gan y grŵp, mae'n ofynnol i diwtoriaid roi sylwadau ar gyfraniad aelodau unigol o'r grŵp tuag at gyflawni'r allbynnau grŵp gofynnol.
Cyfathrebu proffesiynol Mae'r traethawd ffurfiannol, adroddiad prosiect a chyflwyniad seminar, gyda'r adborth manwl a ddarperir gan diwtoriaid personol, wedi'u cynllunio i helpu i ddatblygu a gwella sgiliau cyfathrebu.
Datrys Problemau Creadigol Gellir cyflwyno myfyrwyr i gysyniadau datrys problemau wrth ddatblygu’r ddamcaniaeth i danategu eu prosiect ymchwil, ond ni fydd datrys problemau yn elfen bwysig o ddatblygu sgiliau yn y modiwl hwn.
Gallu digidol Ar draws yr aseiniadau amrywiol, mae gofyn i fyfyrwyr ddangos defnydd effeithiol o ystod o becynnau meddalwedd TG perthnasol (Word, Excel, PowerPoint).
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd gofyn i fyfyrwyr gynllunio a chyflawni prosiect ymchwil bach a chynhyrchu adroddiad academaidd briodol lle bydd disgwyl iddynt hefyd wneud sylwadau beirniadol ar y dulliau arbrofol a fabwysiadwyd.
Sgiliau Pwnc-benodol Cymhwyso rhif: Casglu a chraffu ar ddata o ran ansawdd a swm. Dehongli data. Bydd cysyniadau pwnc-benodol yn ymwneud â biocemeg, geneteg a microbioleg yn cael eu datblygu. Bydd myfyrwyr yn gallu dangos dealltwriaeth o arbrofi mewn labordy, a defnyddio dulliau labordy cyffredin yn briodol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4