Module Information

Cod y Modiwl
BG24720
Teitl y Modiwl
Sgiliau Ymarferol a Proffesiynol ym Microbioleg
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Yr un fath ag uchod.  Rhaid i fyfyrwyr sefyll elfennau o'r asesiad sy'n cyfateb i'r rhai a arweiniodd at fethu'r modiwl.  100%
Asesiad Semester Adroddiad grŵp:  Erthygl fer ar ddulliau dadansoddi nad ydynt yn dibynnu ar dyfiant (1500 gair)  20%
Asesiad Semester Cyflwyno gwybodaeth ar bwnc llosg  yn ymwneud â microbau sy’n berthnasol i bolisi cyhoeddus  40%
Asesiad Semester Adroddiad ar ynysu'r gymysgedd o ficrobau  (2000 gair)  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Gweithio'n ddiogel ac effeithiol mewn labordy microbioleg.

Defnyddio amrywiaeth o ddulliau annibynnol a dulliau sy'n dibynnu ar dyfiant ar gyfer disgrifio microbau.

Adrodd canlyniadau ymchwiliadau i ficrobau a chymunedau microbau gan ddefnyddio ystod o ddulliau ysgrifennu gwyddonol a ddefnyddir gan ficrobiolegwyr proffesiynol.

Cyfathrebu perthnasedd gwyddoniaeth microbau i bolisiau cyfredol a hanfodion cymdeithasol.

Disgrifiad cryno

Nod y modiwl yw arfogi’r myfyrwyr â’r sgiliau sylfaenol sy’n ddisgwyliedig oddi wrth berson graddedig sy’n gweithio mewn maes cysylltiedig â microbioleg. Yn gyntaf, bydd y myfyrwyr yn cael eu trwytho mewn sesiynau labordy a sesiynau maes a gynlluniwyd i gyflwyno’r myfyriwr i ystod eang o ddulliau annibynnol, a dulliau sy’n seiliedig ar dyfiant, o ddisgrifio microbau. Yn ail, bydd y myfyrwyr yn dehongli data o ddadansoddi meintiol a biowybodaeth gan ddefnyddio amrywiaeth o ffurfiau ysgrifennu gwyddonol. Yn drydydd, bydd y myfyrwyr yn datblygu eu safbwyntiau ar y rhyngwyneb rhwng mibrobioleg a chymdeithas a pholisi, gan archwilio pynciau llosg ym maes gwyddor microbau i gyfleu casgliadau ymchwil i gynulleidfaoedd an-arbenigol.

Cynnwys

Bydd sesiynau seminar yn cyflwyno pynciau llosg dethol ym maes gwyddor microbau gan edrych ar eu goblygiadau i feysydd polisi a gwyddoniaeth. Bydd y rhain yn ddeinamig eu natur ac yn ymateb i ddigwyddiadau cyfoes.
Yn ystod sesiynau ymarferol, cyflwynir amrywiaeth eang o ddulliau microbiolegol a ddefnyddir yn y maes ac yn y labordy, gan gynnwys samplu amgylcheddol, techneg aseptig a gwaith diogel gyda microbau, tyfiannau, technegau microsgopig a biocemegol ar gyfer adnabod microbau, arbrofion i ddarlunio ffisioleg microbau, ac yn olaf y technegau molecylaidd diweddaraf ar gyfer dadansoddi cymunedau microbau.

Bydd y sesiynau gweithdy yn cyflwyno dulliau ar gyfer dadansoddi microbau a chymunedau microbau yn feintiol a thrwy fiowybodeg (e.e. dadansoddi genynnau RNA ribosomol 16S). Bydd y data hyn a DNA y gymuned microbau a ddadansoddir yn y sesiynau ymarferol yn ymwneud a diddordebau ymchwil cyfredol y staff, ac yn deillio ohonynt.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Llunio adroddiadau gwyddonol mewn gwahanol ffurfiau ysgrifenedig a thargedu gwahanol gynulleidfaoedd. Sgiliau gwrando a thrafod ar gyfer y seminarau. Cyfathrebu’n effeithiol yn bersonol ac yn electronig i lunio'r adroddiad cryno ar y cyd.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd myfyrwyr yn magu hyder yn eu gallu i werthuso problemau microbiolegol ac asesu'n wrthrychol ansawdd atebion arfaethedig mewn gwahanol gyd-destunau: labordy, maes a chyfathrebu gwyddoniaeth microbau er lles y cyhoedd. Ar ben hyn, bydd y myfyrwyr yn dod i werthfawrogi pwysigrwydd gwyddoniaeth microbau mewn amrywiaeth o yrfaoedd gwahanol.
Datrys Problemau Bydd y dosbarthiadau ymarferol yn galluogi myfyrwyr i ennill profiad wrth gynllunio, gweithredu a dehongli data o arbrofion, ac yn arbennig wrth adnabod microbau o ystod o brofion. Yn y seminarau bydd gofyn i’r myfyrwyr werthuso problemau cymhleth a llunio crynodebau effeithiol o’r pynciau dan sylw.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn gweithio mewn parau/grwpiau bychain yn ystod sesiynau ac yn cydweithredu wrth ysgrifennu'r adroddiad cryno ar y cyd. Bydd angen iddynt weithio'n effeithiol fel rhan o dîm er mwyn llunio'r gwaith cwrs hwn. Bydd gwaith tîm yn hanfodol i gyflawni'r gwaith maes ar gyfer y prosiect grŵp yn ddiogel ac yn effeithiol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio deunyddiau, rheoli amser a chyrraedd dyddiadau cau, y tu allan i oriau cyswllt arferol.
Rhifedd Bydd gwaith ymarferol yn cynnwys cyfrif a dadansoddi ystadegol gan ddefnyddio'r data a gasglwyd.
Sgiliau pwnc penodol Bydd myfyrwyr yn cael profiad o weithio'n ddiogel ac yn effeithiol ar gyfer cymhwyso ystod o sgiliau labordy microbiolegol traddodiadol a molecylaidd i ddadansoddi microbau. Bydd y myfyrwyr yn datblygu eu hymwybyddiaeth o ymrwymiadau proffesiynol a chymdeithasol gwyddonwyr microbau cyfoes.
Sgiliau ymchwil Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i bynciau ehangach na chwmpas y deunyddiau a ddarperir ac yn gwerthuso data a thestunau o'r cronfeydd data cyhoeddus sydd ar gael ar gyfer holl elfennau'r modiwl.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio'r we i ddod o hyd i ffynonellau gwybodaeth a defnyddio cronfeydd data i chwilio am brif destunau a dadansoddi cyfresi DNA.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5