Module Information

Cod y Modiwl
CB25540
Teitl y Modiwl
Dadansoddi Busnes Strategol a Gwydnwch Gweithrediadau
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Adroddiad Unigol 2  (Adroddiad 4000 gair)  65%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniadau Unigol 1  10%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad Unigol  5%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniadau Unigol 2  10%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad Unigol 1  (Cynnig Busnes 500 gair)  10%
Asesiad Semester Cyflwyniad Grwp  5%
Asesiad Semester Adroddiad Cryno Unigo  (Adroddiad 2000 gair)  15%
Asesiad Semester Prosiect Grwp  (Adroddiad 12500 gair)  65%
Asesiad Semester Cyflwyniad Grwp  5%
Asesiad Semester Adroddiad Grwp  (Cynnig Busnes 1500 gair)  10%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Adolygu'n feirniadola chloriannuswyddogaethau, offer a systemau cyfredol;gweithrediadau, y gadwyn gyflenwi ac arloesedd o fewn eichcwmni.

2. Asesu'n feirniadol a thrafod pwysigrwydd ac effaith newidiadautechnolegoli weithrediadau busnes, fel y'ucymhwyswydi'r cwmni, ganamlinellu sut y gellir defnyddio'r technolegau hyn i wneud y busnes yn fwy gwydn.

3. Asesu pwysigrwydd entrepreneuriaeth a chreu mentrau newydd yn yr economi ehangach, yn enwedig eu rol wrthsicrhaugwydnwch a chynaliadwyedd yn y cwmni.

4. Nodi a thrafod y prif broblemausy'n gysylltiedig âsefydlu a rhedeg busnes newydd, a datblygu cynnyrch a gwasanaethau arloesol o safbwyntcysylltiadau rhwng y cyflogwr a'r gweithwyr, marchnata a rheolaeth ariannol yn y cwmni, a chydbwyso hyn a dadansoddiad o'r ffactorau sy'n peri ifusnesau bachfethu, ac i ba raddau y mae hyn yn digwydd.

5. Datblygu cynllun perfformiad i ddiogelu'r cwmniar gyfer y dyfodol, yncynnwys manylionam ymaterion sy'n berthnasol i ddatblygiadau intreac entrepreneuraidd,ganamlinellu unrhyw gyfleoedd sydd ar gael ifusnesau newydd, anodiunrhyw gynlluniauposibl gan y Llywodraeth (aceraill) i gynorthwyo mentrauo'r fath.

6. Datblygu sgiliau cynllunio prosiectasgiliau personol, gan gynnwys sgiliau meithrin tim a chyflwyno.

Disgrifiad cryno

Caiff y modiwl hwn eigyflwynoar ffurf dysgu gweithredol, ac mae'ncynnigcyflwyniad i ddatblygu a chymhwyso gweithrediadau, y gadwyn gyflenwi, entrepreneuriaeth a systemau datblygu busnes mewn cwmnïau er mwynarwain twf yn effeithiol a sicrhau bod busnesau yn wydn. Bydd y myfyrwyr yn gweithio mewn timau bach (n=4)i gwblhau prosiectau 'bywyd go iawn' wrthymgynghorigydabusnesau, afydd yn bodloni canlyniadau dysgu'r modiwl hwn.

Cynnwys

• Rheoli gweithrediadau, ennill cwsmeriaid a chystadlu'n effeithiol, gweithrediadau, prosesau a chylchredau oes, a rheoli cadwyni cyflenwi
• Rheoli deunyddiau, capasiti a pherfformiad stocrestr
• Rheoli bodlonrwydd cwsmeriaid a rheoli ansawdd
• Datblygu mentrau busnes, cynnyrcha gwasanaethau, a modelau entrepreneuriaethnewydd
• Cynllunio prosesau a defnyddio technoleg
• Systemau busnes, ariannu, cychwyn busnesau, risg a methiant
• Systemau marchnata a dadansoddi cadwyni galw
• Diogelubusnes ar gyfer ydyfodol, twf busnes, datblygu a chynlluniocynaeafu
• Arloesi a gwella'n barhaus
• Rheoli prosiectau

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Rhaid darparu adroddiadau o ansawdd uchel a chyflwyniadau cadarn, wedi'u datblygu'n dda, ar y materion allweddol sy'n ymwneud a'r prosiect.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Rhaid i fyfyrwyr ddangossgiliau myfyriol beirniadol ganaddasu a gwella atebion ac ansawdd yr adroddiadau yn barhaus.
Datrys Problemau Prosiectau 'bywyd go iawn' lle bydd gofyn i’r myfyrwyr nodi ac yna datrys y problemau a osodir gan gwmniau sy'n cymryd rhan yn y prosiect hwn.
Gwaith Tim Bydd angen i fyfyrwyr ddangos eu bod yn gallu gweithio fel tim, yn enwedig yng nghyfnodcynnar y prosiect ac wrth ddatrys ymaterion a amlygir.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'n ofynnol i'r myfyrwyr addasu eu strategaethau a'u dulliau wrthddod o hyd iateb addas i'r broblem neu'r mater dan sylw, ganddangos sgiliau arwain cryf er mwyn darparu ateb effeithiol i'r materion hynny. Gwaith dadansoddi ar brosiectau busnes byw, sy’n gofyn am ymatebion realistigi ddatrys problemau.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Mae'r modiwl hwn yn datblygu dealltwriaeth a gwerthfawrogiad y myfyrwyr o ddamcaniaethau rheoli busnes a sut y gellir eu defnyddio wrth fynd i'r afael a materion busnes.
Sgiliau ymchwil Mae'r modiwl yn mynnu bod y myfyrwyryn cymhwyso sgiliau dadansoddol i resymu a deall natur heriol prosiectau 'bywyd go iawn'. Drwy gyflwyno amrywiaeth o bynciau damcaniaethol yn ogystal a rhai empirig, mae'r modiwl yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu’r gallu i feddwl yn greadigol wrth ddatrys problemau. Bydd rhaid cymhwyso'r sgiliau hyn yn ysesiynau goruchwylio, ac wrth baratoi gwaith cwrs a chyflwyniadau.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o adnoddau electronig, sydd i'w caelar y we ac yn y Llyfrgell, i weld pawybodaeth sydd ar gael ac i ddod o hyd i wybodaeth berthnasol. Defnyddio sgiliauprosesu geiriaua thaenlenni yn yr aseiniad.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5