Module Information

Cod y Modiwl
CT22220
Teitl y Modiwl
Cyflwyniad i Droseddeg
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad ar lein  Nid yw'r arholiad yn cael ei weld ymlaen llaw  50%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad Ar Lein  Arholiad sydd ddim yn caelei weld ymlaen llaw  50%
Asesiad Ailsefyll Traethawd  (2,500 gair) Rhaid i ymgeiswyr wneud yr elfennau hynny or asesiad syn cyfateb ir rheiny a arweiniodd at fethur modiwl  50%
Asesiad Semester Traethawd  (2,500 gair)  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth ddatblygedig o ddamcaniaethau troseddegol craidd;

Nodi a chloriannu sail ontolegol ac epistemolegol ystod eang o ddamcaniaethau ym maes troseddeg;

Dangos gwerthfawrogiad o sut y mae datblygiadau mewn theori droseddegol yn esblygu;

Deall a chloriannu sut y mae troseddeg ddamcaniaethol wedi helpu i siapio’r system a’r prosesau cyfiawnder troseddol cyfoes;

Nodi a dadansoddi’r cryfderau a’r cyfyngiadau o ran potensial esboniadol theori.

Disgrifiad cryno

Mae’r modiwl hwn yn ystyried safbwyntiau damcaniaethol allweddol sy’n helpu i esbonio troseddu ac anrhefn gymdeithasol mewn cymdeithas. Mae’n gosod safbwyntiau troseddegol yn eu cyd-destunau cymdeithasol a gwleidyddol gan ystyried eu perthnasedd a’u cymhwysiad yn y gymdeithas gyfoes a sut y maent wedi llywio systemau a phrosesau cyfiawnder troseddol.

Cynnwys

Bydd y prif themâu a ystyrir yn cynnwys:

Cyflwyniad i Droseddeg

Troseddeg Glasurol a Dewis Rhesymegol

Troseddeg Fiolegol a’r Ysgol Bositifaidd

Troseddeg Gymdeithasegol

Durkheim a Ffwythiannaeth Strwythurol

Damcaniaethau Straen Cymdeithasol

Ecoleg Gymdeithasol ac Anhrefn Gymdeithasol

Troseddeg Is-ddiwylliannol

Damcaniaeth Rheolaeth Gymdeithasol

Labelu

Troseddeg Feirniadol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Llafar: Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu llafar trwy gymryd rhan mewn trafodaethau seminar. Byddant yn dysgu i fod yn glir ac yn uniongyrchol wrth drafod. (Dim asesiad) Ysgrifenedig: Bydd disgwyl i'r myfyrwyr gyflwyno eu gwaith wedi’i eirbrosesu ac asesir eu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ar sail eu gallu i fynegi syniadau’n effeithiol, sgiliau iaith da a dadl resymegol.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Gwell gallu i feddwl yn annibynnol ac yn feirniadol. Sgiliau rheoli amser da wrth baratoi ar gyfer seminarau a chyflwyno gwaith yn brydlon.
Datrys Problemau Bydd cymathu ystod o ddamcaniaethau cymhleth yn datblygu gallu myfyrwyr i ddatrys problemau, a bydd ystod o ymarferion rhyngweithiol yn y darlithoedd, y seminarau a'r aseiniad yn annog meddwl ochrol.
Gwaith Tim Bydd gweithio mewn grwpiau bach a seminarau grŵp o fewn y seminarau yn meithrin sgiliau gweithio mewn tîm.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd darlithoedd a seminarau rhyngweithiol yn annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol ac yn ochrol, gydag ymarferion a gynlluniwyd i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd i ddysgu cysyniadau haniaethol, a chaniatáu i fyfyrwyr fyfyrio ynghylch eu dysgu eu hunain.
Rhifedd Bydd deall a chloriannu data ymchwil meintiol perthnasol yn elfen bwysig o’r modiwl.
Sgiliau pwnc penodol Mae’r modiwl hwn yn darparu cyfle i’r myfyrwyr nodi, dadansoddi, cloriannu ac ymarfer cyfres o sgiliau yn ymwneud â deall theori troseddegol.
Sgiliau ymchwil Datblygir sgiliau ymchwil trwy ddod o hyd i destunau ar wahanol ddamcaniaethau troseddegol a’u dadansoddi’n feirniadol er mwyn llunio a chyflwyno trafodaeth wybodus ar gyfer yr asesiadau. Bydd y myfyrwyr hefyd yn datblygu sgiliau ymchwil wrth baratoi ar gyfer y seminarau, fel unigolion ac fel grŵp.
Technoleg Gwybodaeth Bydd paratoi ar gyfer seminarau, yr aseiniadau a’r arholiad oll yn golygu bod angen defnyddio cronfeydd data’r llyfrgell a chronfeydd data electronig eraill.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5