Module Information

Cod y Modiwl
CY10920
Teitl y Modiwl
Trafod y Byd Cyfoes twy'r Gymraeg
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll Arholiad llafar  (10 munud)  40%
Arholiad Semester Arholiad llafar  (10 munud)  40%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad llafar  (5 munud)  20%
Asesiad Ailsefyll Asesiad gwrando a deall  (20 munud)  20%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad llafar ar bwnc arall  (5 munud)  20%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar  (5 munud)  20%
Asesiad Semester Asesiad gwrando a deall  (20 munud)  20%
Asesiad Semester Arwain trafodaeth mewn seminar  (un pwnc seminar fesul myfyriwr)  10%
Asesiad Semester Asesu parhaus  Cyfrannu at ddosbarthiadau llafar ac ymarferol  10%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

1. Trafod newyddion, materion cyfoes a diwylliannol yn ymwneud â Chymru a’r byd yn hyderus yn y Gymraeg.

2. Deall a defnyddio ystod eang o eirfa briodol ac addas ar gyfer gwahanol feysydd cyfoes a diwylliannol, wrth siarad ac wrth wrando.

3. Dangos dealltwriaeth o gyweiriau’r Gymraeg a’r modd y mae’r iaith yn gweithio mewn gwahanol gyfryngau print a digidol.

4. Defnyddio cywair iaith priodol wrth gyfathrebu ar lafar.

Disgrifiad cryno

Modiwl ymarferol yw hwn a fydd yn cadarnhau ac yn atgyfnerthu sgiliau llafar myfyrwyr Ail Iaith er mwyn eu paratoi ar gyfer trafod ystod eang o bynciau ffurfiol ac anffurfiol yn hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg. Dysgir y derminoleg a’r eirfa gysyniadol sy’n angenrheidiol wrth astudio’r Dyniaethau yn y Brifysgol ac yn y gweithle Cymraeg ei iaith.
Rhoddir sylw i’r iaith lafar safonol a chanolbwyntir ar faterion cyfoes sy’n ymwneud â Chymru a’r byd cyfoes yn gyffredinol.

Cynnwys

Trafodir pynciau amrywiol ac iddynt ffocws ar ddiwylliant a’r dyniaethau mewn gweithdy wythnosol, e.e. tafodieithoedd Cymru; cyweiriau’r Gymraeg; nodweddion yr iaith lafar a’r iaith lenyddol; yr Eisteddfod; diwylliant poblogaidd a cherddorol Cymru; Llywodraeth Cymru a datganoli; byd natur a bywyd gwyllt; beirniadu llenyddiaeth.
Bydd Seminar wythnosol yn gyfle i ganolbwyntio ar drafod pynciau llosg a newyddion y dydd. Defnyddir adnoddau print ac electronig, e.e. erthyglau ar Golwg, Golwg360, Barn, Cymru Fyw, ac ati.
Cynhelir dau Weithdy wythnosol ychwanegol i ganolbwyntio ar sgiliau gwrando a chyflwyno.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Rhesymeg y modiwl yw galluogi myfyrwyr i’w mynegi eu hunain yn hyderus ar lafar mewn Cymraeg cyfoes.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Trwy ymgyfarwyddo â materion cyfoes a newyddion, a dysgu sut i addasu deunydd i’w gyflwyno i eraill ar lafar. Trwy fagu hyder i gyfathrebu ar lafar yn y Gymraeg.
Datrys Problemau Rhesymeg y modiwl yw trin a thrafod nodweddion llafar Cymraeg cyfoes. Bydd myfyrwyr yn wynebu heriau o safbwynt geirfa, cystrawen a mynegiant.
Gwaith Tim Bydd myfyrwyr yn cydweithio ag eraill yn y gweithdai a’r seminiarau, wrth baratoi cyflwyniad llafar, ac wrth arwain trafodaeth.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Trwy dderbyn ac ymateb i adborth gan staff dysgu mewn gweithdai a seminarau.
Rhifedd
Sgiliau pwnc penodol Dysgir am gyweiriau’r Gymraeg a chanolbwyntir yn y modiwl hwn ar deithi Cymraeg llafar safonol a’r modd y defnyddir hi.
Sgiliau ymchwil Disgwylir i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau’r llyfrgell ac adnoddau arlein wrth fynd i’r afael â’r modiwl hwn.
Technoleg Gwybodaeth Disgwylir i fyfyrwyr ymchwilio geirfa a straeon am ddigwyddiadau cyfoes ar-lein, e.e. Golwg360, Cymru Fyw, Twitter.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4