Module Information

Cod y Modiwl
CY30720
Teitl y Modiwl
Beirdd a Noddwyr: Llên a Hanes c.1300 - 1500
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd  1000 o eiriau  25%
Asesiad Ailsefyll Prosiect  3000 o eiriau  75%
Asesiad Semester Prosiect  3000 o eiriau  75%
Asesiad Semester Traethawd  1000 o eiriau  25%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

​1. Deall pwysigrwydd barddoniaeth fel tystiolaeth lenyddol a hanesyddol – cofnod o fywyd, felly, mewn man a chyfnod arbennig – wrth roi golwg ar gyfnod o hanes;

2. Dadansoddi cysyniadau haniaethol a’u hadolygu’n feirniadol er mwyn dangos ymwybyddiaeth ddofn o hanesyddiaeth barddoniaeth Cymru’r oesoedd canol a’r modd y mae haneswyr wedi defnyddio’r farddoniaeth honno;

3. Datblygu’r gallu i adnabod, dadansoddi a gwerthuso’n feirniadol ffynonellau gwreiddiol yn ddeallus ac yn feirniadol;

4. Adeiladu deongliadau llenyddol a dadansoddiadau hanesyddol – ar lafar mewn grŵp ac yn ysgrifenedig – yn hyderus, yn llafar ac yn ysgrifenedig, drwy ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol yn ogystal â ffynonellau eilaidd.

Disgrifiad cryno

Mae corff mawr ac amrywiol o farddoniaeth wedi goroesi o Gymru’r oesoedd canol: o’r doniol i’r difrifol, o’r rhywiol i’r crefyddol, o ganmol i wawdio. Dyma destunau cyfoethog a gwerthfawr, ac eto maent yn ein dysgu am fywyd y cyfnod ac yn taflu goleuni ar agweddau gwahanol ar y gymdeithas: cyfoeth, eiddo, rhyfel, gwleidyddiaeth, diwylliant, hunaniaeth, cred, emosiynau a dioddefaint. Sut mae clywed lleisiau’r oesoedd canol? A oes posibl cael syniad cywir o sut roedd pobl yn teimlo a sut roeddent yn meddwl? Pa mor ‘ffeithiol’ yw’r ffynonellau hyn? Bydd y modiwl hwn yn trafod pa mor agos y mae barddoniaeth Cymru’r cyfnod yn dod â ni at adnabod y bobl a’r gymdeithas a’u cynhyrchodd. Wrth astudio’r ffynonellau, yn eu ffurf wreiddiol ac ar ffurf diweddariadau, daw myfyrwyr i werthfawrogi pwysigwydd barddoniaeth a’r modd y gellir ei defnyddio i ddeall hanes a chael golwg ar deimladau, ar syniadau ac ar ffeithiau’r gorffennol.


Dysgir myfyrwyr Rhan 2 a Rhan 3 gyda’i gilydd yn y modiwl hwn.

Cynnwys

Ymhob un o’r seminarau ceir cyfle i astudio cyfres o gerddi Cymraeg o’r oesoedd canol diweddar a’u deall fel testunau llenyddol ac fel ffynonellau hanesyddol.

Seminar 1: Cyflwyniad i farddoniaeth a hanes Cymru’r oesoedd canol diweddar

Seminar 2: Astudio’r testunau gwreiddiol mewn llawysgrifau yn y Llyfrgell Genedlaethol

Mae’r gwaith yn Seminarau 3–9, prif sylwedd y modiwl, yn canolbwyntio ar genres gwahanol, gyda’r nod o’u dadansoddi fel testunau llenyddol ac fel ffynonellau hanesyddol. Canolbwyntir ar genres sylfaenol bwysig – mawl/marwnad, serch a natur a chrefydd – a rhoir sylw penodol hefyd i is-genres: gofyn a diolch, cerddi iacháu a cherddi i adeiladau ac i drefi. Ceir cyfle i ddadansoddi’r hyn gallant ein dysgu am themâu megis hunaniaeth, diwylliant materol, ffydd, rhyfel a gwleidyddiaeth.

Seminar 10: Casgliad

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Cyfathrebu’n effeithiol wrth wneud gwaith grŵp, yn benodol wrth drafod gwendidau a rhagoriaethau gwahanol ffynonellau hanesyddol a llenyddol
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygu ymwybyddiaeth o fedrau personol, o safbwyntiau ac o nodweddion personol, yng nghyd-destun dilyniant cwrs; cynllunio a pharatoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd greadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Deall y cysyniad o ddeinameg grŵp; cyfrannu at osod targedau grŵp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gwaithgareddau grŵp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grŵp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswâd; gwerthuso gweithgareddau grŵp a chyfraniad personol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dangos ymwybyddiaeth o ddulliau dysgu, hoffterau ac anghenion personol, a’r rhwystrau rhag dysgu; cynllunio a gweithredu strategaethau dysgu a hunanreolaeth realistig; creu cynllun gweithredu personol a fydd yn cynnwys targedau tymor byr a thymor hir; arolygu a monitro cynnydd, gan adolygu’r cynllun gweithredu yn ôl y galw, er mwyn gwella perfformiad cyffredinol.
Sgiliau pwnc penodol Datblygu’r gallu i astudio, i ddadansoddi ac i drafod barddoniaeth fel ffynhonnell lenyddol a hanesyddol.
Sgiliau ymchwil Deall ystod o ddulliau ymchwil; cynllunio a chyflawni ymchwil; cynhyrchu adroddiadau academaidd addas.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio amrywiaeth o becynnau meddalwedd a ddefnyddir yn gyffredin; paratoi a mewngofnodi data; rheoli systemau storio; cyflwyno gwybodaeth a data; defnyddio’r we yn briodol ac yn effeithiol.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6