Module Information

Cod y Modiwl
DA25420
Teitl y Modiwl
Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Adolygiad o’r Llenyddiaeth  1500 o eiriau  25%
Asesiad Ailsefyll Cynnig Prosiect  1500 o eiriau  25%
Asesiad Ailsefyll Ysgrifennu darn unigol am y Prosiect Grŵp  2500 o eiriau  50%
Asesiad Semester Adolygiad o’r Llenyddiaeth  1500 o eiriau  25%
Asesiad Semester Cynnig Prosiect  1500 o eiriau  25%
Asesiad Semester Ysgrifennu darn unigol am y Prosiect Grŵp  2500 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Nodi problemau ymchwil amserol a pherthnasol ym maes Daearyddiaeth.

Dylunio strategaethau ymchwil ar gyfer casglu a dadansoddi data sy'n berthnasol i gwestiynau ymchwil penodol.

Dangos hyfedredd mewn amrywiaeth o dechnegau casglu/dadansoddi data.

Cyfleu canfyddiadau ymchwil.

Disgrifiad cryno

Trwy ddadansoddi themâu perthnasol ac amserol mewn daearyddiaeth ddynol, cymdeithaseg, daearyddiaeth ffisegol, gwyddor yr amgylchedd ac ar y rhyngwyneb dynol/ffisegol, bydd y modiwl yn mynd i’r afael â’r amcanion canlynol:
- Ysgogi gallu myfyrwyr i nodi problem neu gwestiwn ymchwil, a datblygu dulliau o ddatrys neu ateb hyn trwy brofi rhagdybiaethau, dylunio ymchwil a chasglu data.
- Rhoi cyfle i gymhwyso dulliau damcaniaethol, technegol a/neu ddulliau labordy gwyddonol i'r amgylchedd maes mwy cymhleth, sydd heb ei reoli, a gwerthfawrogi sut mae prosesau y gellir eu hystyried yn 'gyffredinol' yn cael eu cyfryngu gan gymeriad cymdeithasol ac amgylcheddol lle penodol.
- Ystyried agweddau moesegol prosesau ymchwil
- Ystyried diogelwch gwaith maes
- Datblygu ymdeimlad o le, ymwybyddiaeth o wahaniaeth, a goddefgarwch tuag at eraill.
- Hyrwyddo rhai sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen mewn gwaith ymarferol a seminarau, gan gynnwys gwaith tîm, arsylwi, adnabod problemau

Cynnwys

Bydd amcanion y modiwl yn cael eu cyflwyno trwy gyfres o ddarlithoedd, seminarau, a gweithdai ymarferol/ymweliadau maes. Bydd y rhain yn arwain at gyfnod estynedig o waith maes. Bydd y pynciau a drafodir a’r technegau a ddatblygir yn amrywio yn ôl carfan y myfyrwyr, gan gynnwys y canlynol:
- Effeithiau pobl ar yr amgylchedd
- Peryglon naturiol
- Dehongli'r dirwedd ddynol a ffisegol, a rhyngweithiad y ddau
- Agweddau ar newid diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd o fewn cymunedau ac sy'n amlwg mewn bywyd o ddydd i ddydd
- Newid a rheoleiddio amgylcheddol

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Diffinio’r termau hyn.
Cyfathrebu proffesiynol Mae gwaith maes yn rhyngweithiol yn ei hanfod gyda nifer uchel o oriau cyswllt rhwng staff a myfyrwyr. Mae hyn yn sicrhau bod sgiliau cyfathrebu cryf yn cael eu datblygu, gyda digonedd o gyfleoedd am drafodaethau un-i-un a thrafodaethau mewn grŵp.
Datrys Problemau Creadigol Mae datrys problemau yn faen prawf allweddol ar gyfer y cwrs hwn. Mae hyn yn cynnwys adeiladu sail resymegol ar gyfer ymchwil a chynllunio ymchwil gan gyfeirio at lenyddiaeth/dadleuon/ffynonellau data sydd eisoes yn bod
Gallu digidol Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio technoleg gwybodaeth i gynorthwyo â gwaith darllen pellach wrth gwblhau aseiniadau, gan gynnwys chwilio am destunau ar-lein a’u syntheseiddio, technoleg prosesu geiriau, a pharatoi ffotograffau a mapiau digidol
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau maes arsylwi a dehongli. Bydd sgiliau meddwl beirniadol yn cael eu datblygu drwy seminarau rhyngweithiol ac ymarferion maes.
Myfyrdod Bydd myfyrwyr yn datblygu cyfle i fyfyrio ar ddyluniad ymchwil a gwaith maes a wnaed yn rhan gyntaf y modiwl yn sail ar gyfer casglu a dadansoddi data yn ail ran/elfen gwaith maes estynedig y modiwl
Sgiliau Pwnc-benodol Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno sgiliau sy’n ymwneud â phynciau penodol gyda’r nod o wneud ein graddedigion yn gyflogadwy ar draws amrywiaeth o sectorau

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5