Module Information

Cod y Modiwl
RG18820
Teitl y Modiwl
Sgiliau ar gyfer y Diwydiant Amaethyddol
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd  1000 o eiriau  10%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad data  2000 o eiriau  65%
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad  5 Munud  25%
Asesiad Semester Cyflwyniad  5 Munud  25%
Asesiad Semester Traethawd  1000 o eiriau  10%
Asesiad Semester Adroddiad data  2000 o eiriau  65%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Cyfleu gwybodaeth a syniadau ar ffurf adroddiadau ysgrifenedig a chyflwyniadau grŵp llafar yn dilyn y daith astudio amaethyddol i dwyrain Lloeger

Datblygu dadl resymegol a herio rhagdybiaethau

Ffurfio damcaniaethau a chwestiynau ymchwil, ymgymryd â chasglu data, a llunio dadleuon academaidd

Nodi ffynonellau data ac adnoddau gwybodaeth priodol

Datblygu sgiliau gwaith tîm ymarferol gan gynnwys gweinyddu, gosod terfynau amser a chyfathrebu

Nodi ffactorau sy'n dylanwadu ar systemau cynhyrchu ac asesu eu heffaith ar reolaeth a pherfformiad busnes

Dangos dealldwriaeth o gadwyn gyflenwi amaethyddol

Gosod ymddygiad academaidd priodol (e.e. osgoi arfer annerbyniol).

Dehongli a defnyddio data

Arddangos llythrennedd cyfrifiadurol sylfaenol.

Disgrifiad cryno

Bwriad y modiwl yw paratoi myfyrwyr gyda'r sgiliau allweddol angenrheidiol ar gyfer gyrfa academaidd a phroffesiynol lwyddiannus megis rheoli amser, meddwl yn feirniadol a dysgu myfyriol. Agwedd bwysig ar y modiwl yw cyflwyniad i ystod o faterion ymchwil megis gwerthuso llenyddiaeth, synthesis data ac asesu a chyfathrebu llafar, gweledol ac ysgrifenedig. Cyflwynir cynnwys y modiwl drwy amrywiaeth o fformatau gan gynnwys darlithoedd, gweithdai, e-ddysgu a thiwtorialau. Yn semester 2 bydd myfyrwyr yn mynd ar daith astudio wythnos o hyd yn Nwyrain Lloegr, a arferai fod yn rhan o BR1110. Yn dilyn yr ymweliad bydd y myfyrwyr yn gwneud cyflwyniad a fydd yn helpu i ddatblygu eu sgiliau gweithio mewn grŵp a chyflwyno.

Cynnwys

Semester 1

4 x 2 awr gweithdai a fydd yn ymdrin â sgiliau academaidd craidd wedi'u teilwra i'r cynllun. 4 x sesiwn tiwtorial 2 awr ar draws y semester a fydd yn ategu ac yn cefnogi’r gweithdai ac yn rhoi cyfle i roi adborth 1 i 1 ar aseiniadau.

Semester 2
4 x gweithdy 2 awr a fydd yn ymdrin â sgiliau amaethyddol penodol ac yn rhoi cyfle i ddadfriffio myfyrwyr cyn wythnos y daith astudio. Bydd gweithdy hefyd ar gyflogadwyedd/gyrfaoedd.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cydlynu ag erail Bydd myfyrwir yn weithio fel rhan o grwp ar gyfer yr aseiniad cyflwyno ac yn dablygu sgiliau cyfarthebu.
Sgiliau Pwnc-benodol Yn ystod y modiwl, bydd myfyrwyr yn dysgu am wahanol gadwyni cyflenwi a systemau cynhyrchu, yn enwedig Dwyrain Lloegr
Synnwyr byd go iawn Fydd myfyrwir yn gael sesiwn fydd yn ganolbwyntio ar gyrfa a beth sydd yn posib i ein myfyrwir ar ol prifysgol

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4