Module Information

Module Identifier
VS20120
Module Title
Astudiaethau Proffesiynol a Meddygaeth ar Sail Tystiolaeth (blwyddyn 2)
Academic Year
2023/2024
Co-ordinator
Semester
Semester 2 (Taught over 2 semesters)
Exclusive (Any Acad Year)
Other Staff

Course Delivery

 

Assessment

Assessment Type Assessment length / details Proportion
Semester Assessment Traethawd Myfyriol  1500 o eiriau  30%
Semester Assessment Arolwg Ymchwil  3000 o eiriau  40%
Semester Exam Cyflwyniad llafar  10 Munud  30%
Supplementary Assessment Arolwg Ymchwil  3000 o eiriau  40%
Supplementary Assessment Traethawd Myfyriol  1500 o eiriau  30%
Supplementary Exam Cyflwyniad llafar  10 Munud  30%

Learning Outcomes

On successful completion of this module students should be able to:

Cydnabod pwysigrwydd cyfathrebu llafar a dieiriau mewn ymgynghoriad milfeddygol ac yn dangos y sgiliau hyn

Datblygu sgiliau clinigol sylfaenol sy'n ymwneud ag archwilio rhywogaethau rhagnodedig yn glinigol

Deall pwysigrwydd meddygaeth filfeddygol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac mae'n berthnasol i bractis milfeddygol clinigol

Dangos dull systematig o weithio drwy broblemau biofoesegol gan ddefnyddio fframwaith model.

Gallu dangos sut y gellir defnyddio cynnwys modiwl i leoliadau clinigol a sut mae'n integreiddio â modiwlau eraill

Brief description

Mae Astudiaethau Proffesiynol a Meddygaeth ar Sail Tystiolaeth yn rhedeg drwy gydol Blwyddyn 2 ac mae'n bwrw ymlaen â'r themâu a gwmpaswyd ym mlwyddyn 1 sy'n ymwneud â chyfathrebu ym maes milfeddygaeth, safonau proffesiynol, moeseg a gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth. Bydd Blwyddyn 2 yn canolbwyntio ar ddatblygu'ch dealltwriaeth o'r rhan y mae milfeddygon yn ei chwarae mewn ymchwil, llunio cynnig ymchwil a sut i ddadansoddi data, a'i ddehongli a'i gyfleu. Ar ben hynny, fe ddysgwch fwy am yr ystod o sgiliau y bydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd milfeddygol.

Content

Mae ar Filfeddygon angen ystod o sgiliau proffesiynol er mwyn llwyddo yn yr ystod eang o swyddi sydd ar gael ledled y maes. Mae'r modiwl hwn yn parhau â'ch datblygiad proffesiynol drwy ddarparu mwy o hyfforddiant mewn sgiliau ymarferol clinigol a chyfathrebu, drwy drafod yr heriau moesegol ym maes milfeddygaeth a thrwy feithrin eich dealltwriaeth am sut mae arbrofion ymchwil yn cael eu dylunio, eu dadansoddi a'u cyfleu gan ymchwilwyr milfeddygol er mwyn gwella iechyd anifeiliaid. Fe wneir hyn drwy sesiynau grŵp lle y dysgir ar sail problemau, yn ogystal â gweithdai, darlithoedd, cyflwyniadau a chynnig ymchwil a arweinir gan y myfyriwr a fydd yn cyfuno gwahanol agweddau a ddysgir drwy'r modiwl.

Module Skills

Skills Type Skills details
Adaptability and resilience Y tu allan i'r oriau cyswllt ffurfiol, disgwylir i'r myfyrwyr wneud ymchwil, rheoli eu hamser a chyflwyno gwaith cwrs erbyn y dyddiadau cau. Nid asesir yr agwedd hon.
Co-ordinating with others Drwy ddysgu mewn grwpiau bychain, anogir y myfyrwyr i gyfleu gwybodaeth, ei hasesu a'i chyflwyno mewn tîm. Nid asesir yr agwedd hon.
Creative Problem Solving Bydd dysgu mewn grwpiau bach/dosbarthiadau ymarferol a gwaith cwrs yn golygu datrys problemau.
Critical and analytical thinking Bydd y gwaith cwrs yn gofyn i fyfyrwyr ymchwilio i bynciau ymchwil yn ddyfnach a'r tu hwnt i gwmpas deunydd y darlithoedd. Defnyddir gwybodaeth o amrywiaeth o ffynonellau. Asesir y sgiliau ymchwil yn y gwaith cwrs.
Digital capability Defnyddio'r we i gael ffynonellau dibynadwy o wybodaeth a defnyddio cronfeydd data i ddod o hyd i destunau perthnasol wrth baratoi at y gwaith cwrs.
Professional communication Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig effeithiol yn y gwaith cwrs, a chyfathrebu ar lafar yn y cyflwyniad llafar, lle y'u hasesir. Rhoddir adborth ar hyn.
Real world sense Bydd gan y myfyrwyr gyswllt â milfeddygon ac ymchwilwyr bioleg a fydd yn rhoi iddynt ddealltwriaeth am y sectorau hyn. Bydd agweddau ar hyn yn cael eu dysgu a'u hasesu.
Subject Specific Skills Yn ystod y modiwl fe fydd y myfyrwyr yn dysgu terminoleg filfeddygol a biolegol; ac asesir hynny yn y gwaith cwrs.

Notes

This module is at CQFW Level 5