Module Information

Cod y Modiwl
CT30820
Teitl y Modiwl
Cyfraith a Pholisi Cymru
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Pre-Requisite
CT10120, CT20120, LC10120 neu LC20120 Rhaid bod myfyrwyr wedi dewis un o'r modiwlau hyn cyn cymryd y modiwl.
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad llafar  Gofynnir i fyfyrwyr baratoi cyflwyno cyflwyniad llafar o hyd at 20 munud a 10 munud ar gyfer cwestiynau, yn trafod agwedd o gyfraith ddatganoledig. Rhaid i'r cyflwyniad fod ar bwnc gwahanol i'r prosiect. 30 Munud  50%
Asesiad Ailsefyll Prosiect ymchwil  Gofynnir y fyfyrwyr ymchwilio agwedd o gyfraith ddatganoledig, a chyflwyno traethawd yn ei drafod. 2000 o eiriau  50%
Asesiad Semester Cyflwyniad llafar  Gofynnir i fyfyrwyr baratoi cyflwyno cyflwyniad llafar o hyd at 20 munud a 10 munud ar gyfer cwestiynau, yn trafod agwedd o gyfraith ddatganoledig. Rhaid i'r cyflwyniad fod ar bwnc gwahanol i'r prosiect. 30 Munud  50%
Asesiad Semester Prosiect ymchwil  Gofynnir y fyfyrwyr ymchwilio agwedd o gyfraith ddatganoledig, a chyflwyno traethawd yn ei drafod. 2000 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Deall a thrafod agweddau penodol a manwl o gyfraith a pholisi datganoledig Cymru mewn modd sydd yn briodol ar gyfer gwaith academaidd

Dangos gwybodaeth o'r gwahaniaethau mewn sylwedd rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr, ac oblygiadau hynny mewn ymarfer.

Dangos gwybodaeth o bolisiau Cymreig yng nghyd-destun cyfreithiau rhanbarthau eraill y du, Cymru a Lloegr fel awdurdodaeth a'r DU fel gwladwriaeth.

Egluro arwyddocad cyfreithiau a pholisiau datganoledig, ac sut mae newidiadau yn yr rhain yn effeithio ar hawliau a budddiannau yr unigolyn.

Dangos tystiolaeth o ymchwil annibynnol, a dadansoddi arwyddocad yr ymchwil hwnnw, gyda chyfeirnodi priodol.

Dangos dealltwriaeth o gryfderau a gwendidau cyfraith a pholisi Cymru o fewn cyd-destun y setliad datganoli.

Datblygu dealltwriaeth o ragolygon Cyfraith Cymru at y dyfodol.

Disgrifiad cryno

Ers 1999, y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gallu deddfu ar sawl maes cyfreithiol, ac erbyn hyn y mae sawl agwedd o gyfraith Cymru sydd yn wahanol iawn i gyfraith Lloegr. Amcan y modiwl hwn felly fydd i drin a thrafod rhai o’r materion hyn, sef cyfraith gofal iechyd, cyfraith addysg, cyfraith tai, a dwyieithrwydd yn y gyfraith.

Nod

Amcanion y modiwl yw i feithrin dealltwriaeth o'r gwahaniaethau rhwng cyfraith Cymru a chyfreithiau yn rhannau eraill y DU. Anogir cymharu gwahanol bolisiau, a'u gwerthuso o ran blaenoriaethau ac amcanion.

Cynnwys

1. Cymru – y setliad datganoli
2. Iechyd a chyfraith a pholisi iechyd
3. Addysg yng Nghymru
4. Cartrefi a hai
5. Dwyieithrwydd cyfreithiol a hawliau ieithyddol
6. Pynciau penodol ym maes datganoli a chyfraith ddatganoledig.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu proffesiynol Cyflwyno gwaith llafar ac ysgrifenedig mewn modd priodol ar gyfer cynulleidfaoedd cyfreithiol
Meddwl beirniadol a dadansoddol Canfod deunyddiau penodol, a'u gwerthuso. Cymharu polisiau a gweithdrefnau. Ystyried oblygiadau gwahanol fesurau a blaenoriaethau.
Sgiliau Pwnc-benodol Datblygu sgiliau ymchwil, dadansoddi, cyflwyno gwybodaeth ac ysgrifennu a chyflwyno ar lafar mewn modd briodol i gynulleidfa proffesiynol ym maes y gyfraith a chyfiawnder.
Synnwyr byd go iawn Datblygu ymwybyddiaeth o wahanol flaenoriaethau mewn gwahanol rannau o'r DU.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6