Module Information

Cod y Modiwl
RG20700
Teitl y Modiwl
Gwyddor a Thechnoleg mewn Amaethyddiaeth
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Cyflwyniad lleoliad gwaith  10 Munud  20%
Asesiad Ailsefyll Adroddiad technoleg amaethyddol  1000 o eiriau  30%
Asesiad Ailsefyll Maeth Anifeiliaid - asesu porthiant a dogni  3500 o eiriau  50%
Asesiad Semester Cyflwyniad lleoliad gwaith  10 Munud  20%
Asesiad Semester Adroddiad technoleg amaethyddol  1000 o eiriau  30%
Asesiad Semester Maeth Anifeiliaid - asesu porthiant a dogni  3500 o eiriau  50%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Asesu rôl gwyddoniaeth a thechnoleg yn y gweithle amaethyddol a gwerthuso eu perthnasedd i yrfa yn y dyfodol.

Adnabod a thrafod egwyddorion gwyddonol a data i gyfres o broblemau ar y fferm.

Gwerthuso priodweddau maethol bwydydd anifeiliaid a llunio dognau ar gyfer da byw.

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn nodi enghreifftiau o sut y gellir defnyddio technoleg a gwyddoniaeth i gynorthwyo yn y broses o wneud penderfyniadau o fewn systemau cynhyrchu amaethyddol.

Cynnwys

Egwyddorion cyffredinol yn ymwneud â bwydydd anifeiliaid fferm, dadansoddi porthiant, anatomeg treulio, rheoli archwaeth, protein, egni, mwynau a fitaminau. Trafodir gofynion maethol enghreifftiau dethol o dda byw o ran anghenion egni, protein, fitaminau a mwynau, a fe fydd ffocws hefyd ar ddogni porthiant, ac ar anhwylderau maeth.

Bydd y modiwl hefyd yn trafod offer sydd yn sefydlu lefelau addas o fewnbynnau a dulliau o fesur cynhyrchiant ar ffermydd. Gall y pynciau a drafodir yma gynnwys enghreifftiau o systemau cynhyrchu cnydau a da byw manwl gywir.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu proffesiynol Cyflwyniad fel asesiad
Datrys Problemau Creadigol Bydd angen datrus problemau i greu dognau i anifeiliaid
Gallu digidol Defnydd o feddalwedd GIS, excel a powerpoint
Synnwyr byd go iawn Senario gwir fywyd yn cael ei ddefnyddio wrth gwblhau asesiad dogni

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5