Module Information

Cod y Modiwl
RG27600
Teitl y Modiwl
Agronomeg a Gwelliant Cnydau
Blwyddyn Academaidd
2023/2024
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   Arholiad  1.5 Awr  40%
Arholiad Semester 2 Awr   Arholiad  2 Awr  40%
Asesiad Ailsefyll Cynllun Rheoli Glaswelltir  2000 o eiriau  35%
Asesiad Ailsefyll Cynllun Gwarchod Cnydau  2000 Words  25%
Asesiad Semester Cynllun Rheoli Glaswelltir  2000 o eiriau  35%
Asesiad Semester Cynllun Gwarchod Cnydau  2000 Words  25%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

Esbonio'r mecanweithiau y tu ôl i'r prif elfennau biotig sy’n cyfyngu ar gynhyrchiant cnydau yn y DU.

Disgrifio’r gofynion agronomegol sydd gan ystod o gnydau âr a phorthiant nad ydynt yn rawn.

Rhoi disgrifiad a dadansoddiad beirniadol o systemau cynhyrchu cnydau.

Adnabod a chloriannu strategaethau priodol ar gyfer gwarchod cnydau.

Disgrifio rhaglenni a strategaethau bridio planhigion a chloriannu eu gwerth i systemau cynhyrchu cnydau, yn y gorffennol ac i’r dyfodol.

Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl yn disgrifio agronomeg sylfaenol ystod o gnydau torri âr a’r rhai y gellir eu cynaeafu â chombein, gan gynnwys tatws, betys siwgr, rêp had olew a ffa maes. Ymhlith y nodweddion agronomegol mae cylchdroi, math o bridd, hau a sefydlu planhigion, maeth, gwarchod cnydau, cynaeafu a storio cnydau ar ôl eu cynaeafu. Bydd systemau gwrthgyferbyniol o gynhyrchu cnydau a glaswelltir yn cael eu trafod, a bydd effeithlonrwydd y systemau hyn yn cael eu cloriannu. Bydd cyfyngiadau biotig ar gynhyrchu yn canolbwyntio ar effaith clefydau, chwyn a phlâu ar gnydau âr, gan gynnwys mecanwaith a maint colledion cynnyrch, ymwrthedd cnydau, rheoli cemegol a biolegol, rheoli cnydau integredig. Yn olaf, bydd amcanion a chyflawniadau gwaith bridio cnydau âr, glaswellt a chodlysiau yn cael eu hadolygu.

Bydd y darlithoedd hyn yn cynnwys trafodaeth am yr amrywiaeth o weithdrefnau datblygu, cofrestru, lluosi ac ardystio, ac effaith debygol datblygiadau mewn biotechnoleg ar gynhyrchu a rheoli cnydau yn y dyfodol.

Nod

Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus dylai'r myfyrwyr allu:
1. Esbonio'r mecanweithiau y tu ôl i'r prif elfennau biotig sy’n cyfyngu ar gynhyrchiant cnydau yn y DU.
2. Disgrifio’r gofynion agronomegol sydd gan ystod o gnydau âr a phorthiant nad ydynt yn rawn.
3. Rhoi disgrifiad a dadansoddiad beirniadol o systemau cynhyrchu cnydau.
4. Adnabod a chloriannu strategaethau priodol ar gyfer gwarchod cnydau.
5. Disgrifio rhaglenni a strategaethau bridio planhigion a chloriannu eu gwerth i systemau cynhyrchu cnydau, yn y gorffennol ac i’r dyfodol.

Cynnwys

Systemau sy’n ymdrin â chnydau âr, glaswellt a phorthiant
Cylchdroi cnydau a chynllunio cylchdroi
Rheoli cnydau mewn modd integredig

Ar gyfer glaswelltir a phorthiant:
Systemau rheoli, cynhyrchu a gwarchod yr amgylchedd
Rheoli pori
Cadwraeth porthiant
Cnydau porthiant

Ar gyfer planhigion cnydau gan gynnwys rêp had olew, tatws, betys siwgr a ffa maes:
Gofynion y farchnad
Nodweddion amrywiaethau o borfeydd a sut y cânt eu defnyddio
Cylchdroi, paratoi pridd a sefydlu hadau
Maeth
Gwarchod planhigion: chwyn, afiechydon a rheoli plâu
Cynaeafu a thrin a storio ar ôl y cynhaeaf

Gwarchod cnydau
Sut mae clefydau’n datblygu ac epidemioleg
Strategaethau rheoli clefydau
Plâu a difrod gan blâu
Strategaethau rheoli plâu
Bioleg a chystadleuaeth chwyn
Rheoli chwyn
Gwarchod cnydau integredig

Bridio planhigion

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu proffesiynol Bydd yr adroddiadau cnydau a glaswelltiroedd yn gofyn I’r myfyrwyr greu adroddiad mewn dull penodol.
Gallu digidol Bydd gofyn i'r myfyrwyr ddefnyddio'r we yn gyson i ganfod gwybodaeth ar gyfer gwaith i'w asesu.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Bydd gofyn i'r myfyrwyr i gyfirfo amrywiaeth o gyfrifiadau er enghraifft, dwyster stocio, cyflenwad silwair a rholaeth maetholion.
Synnwyr byd go iawn Mae'r ddau aseiniad yn rhoi cyfle i'r myfyrwyr wneud gwaith sydd yn debyg i sefyllfa go iawn.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5