Module Information

Cod y Modiwl
HA12120
Teitl y Modiwl
Cyflwyno Hanes
Blwyddyn Academaidd
2024/2025
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Exclusive (Any Acad Year)
Rhestr Ddarllen
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Traethawd  2000 o eiriau  70%
Asesiad Ailsefyll Ymarferiad llyfryddiaethol  1000 o eiriau  30%
Asesiad Semester Ymarferiad llyfryddiaethol  1000 o eiriau  30%
Asesiad Semester Traethawd  2000 o eiriau  70%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr fedru:

gwneud ymarferion llyfryddiaethol syml ond angenrheidiol

darllen deunydd hanesyddol eilaidd gan arfer rhywfaint o grebwyll beirniadol

cydnabod yr angen i ddilyn arferion gorau wrth gynnal ymchwil

mynd i'r afael a dadleuon hanesyddol a chynnig sylwadau ar briod rinweddau safiadau hanesyddol

dangos eu bod wedi mynd i'r afael a deunydd eilaidd ar lafar (ni asesir y gwaith hwn) ac mewn gwaith ysgrifenedig (asesedig)

myfyrio'n feirniadol ar eu safbwyntiau hanesyddol eu hun ac, o astudio rhagor ar lefel gradd, ragweld pa mor berthnasol fydd meddu ar ragor o sgiliau

Disgrifiad cryno

Amcan y cwrs hwn yw rhoi i'r myfyrwyr hynny nad ydynt wedi astudio hanes ar lefel gradd rai o'r `sgiliau' pwysicaf, er mor sylfaenol ydynt, y bydd eu hangen arnynt yn ystod eu gradd. Trwy gyfres o seminarau cyflwynir i'r myfyrwyr amrediad o sgiliau, technegau ac ymarferion fydd yn cynnwys elfennau sylfaenol sydd yn ymwneud ag astudiaethau israddedig yn ogystal ag arferion yr hanesydd. Bydd darlithoedd atodol yn ychwanegu at y dull hwn sy'r seiliedig ar sgiliau ac yn nodi'r fras y materion hynny sy'r ganolog i waith yr hanesydd.

Cynnwys

.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Addasrwydd a gwydnwch Anogir myfyrwyr i ystyried y rhwystrau y gallent ddod ar eu traws a chynllunio ar gyfer y rheini, datblygu cynlluniau realistig o ran cwrdd â thargedau, arolygu a monitro eu cynnydd mewn ffordd ddisgybledig a realistig.
Cydlynu ag erail Deall y cysyniad o ddeinameg grwp; cyfrannu at osod targedau grwp; cyfrannu’n effeithiol at gynllunio gweithgareddau grwp; cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau grwp; ymarfer medrau trin a thrafod, a medrau perswad; gwerthuso gweithgareddau grwp a chyfraniad personol.
Cyfathrebu proffesiynol Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau hanfodol o ran cyflwyno syniadau mewn seminarau ac hefyd drwy'r asesiadau. Dyma un o'r sgiliau sylfaenol ar gyfer astudio ac ymchwilio hanes felly mae'n elfen bwysig yn y modiwl craidd yn y flwyddyn gyntaf. Bydd y cyfraniadau ysgrifenedig yn cael eu hasesu.
Datrys Problemau Creadigol .Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gallu digidol Bydd gweithio gyda ffynonellau digidol a dod i arfer â defnyddio nifer o adnoddau digidol yn rhan o'r modiwl.
Meddwl beirniadol a dadansoddol Wrth baratoi'r asesiadau, bydd angen i fyfyrwyr ddadansoddi deunydd amrywiol, gan bwyso a mesur beth i gynnwys, beth sy'n berthnasol a sut i lunio a chyflwyno dadl sy'n arghoeddi.
Sgiliau Pwnc-benodol Cyflwynir myfyrwyr i sgiliau hanfodol a fydd yn eu cynorthwyo drwy gydol eu cyfnod yn astudio yn yr Adran, gan osod sylfaen o ran ymarfer academaidd, dulliau astudio a ffyrdd o gyflwyno'u gwaith i gydfynd â disgwyliadau'r ddisgyblaeth.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4