Programme Specifications

Cymraeg / Daearyddiaeth


1 : Awarding Institution / Body
Aberystwyth University

2a : Teaching Institution / University
Aberystwyth University

2b : Work-based learning (where appropriate)


Information provided by Department of Welsh:


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:



3a : Programme accredited by
Aberystwyth University

3b : Programme approved by
Aberystwyth University

4 : Final Award
Bachelor of Arts

5 : Programme title
Cymraeg / Daearyddiaeth

6 : UCAS code
LQ75

7 : QAA Subject Benchmark


Information provided by Department of Welsh:

Datganiad Meincnodi’r Gymraeg gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

Datganiad Meincnodi Daearyddiaeth a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch

8 : Date of publication


Information provided by Department of Welsh:

Medi 2023


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

Medi 2023

9 : Educational aims of the programme


Information provided by Department of Welsh:

  • Rhoi i’r myfyrwyr y cyfle i astudio’r iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth ar wastad academaidd uchel, gan roi iddynt y moddion i’w deall, eu dadansoddi a’u gwerthfawrogi fel rhan ganolog o hanes meddwl, dychymyg a mynegiant y Cymry.

  • Meithrin mewn myfyrwyr y gallu i adnabod teithi’r iaith Gymraeg, a’u galluogi  i’w mynegi eu hunain ynddi, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn hyderus, yn rhugl ac  yn gywir

  • Cynorthwyo myfyrwyr i ddeall ac i werthfawrogi grym mynegiannol iaith.

  • Meithrin dealltwriaeth o’r broses greadigol ac o werth gweithiau llenyddol.

  • Meithrin mewn myfyrwyr y gallu i feddwl drostynt eu hunain, i feithrin barn feirniadol a golygwedd hanesyddol, a, lle bo’n berthnasol, i feithrin eu doniau llenyddol.

  • Ennyn mewn myfyrwyr frwdfrydedd tuag at y pwnc.

  • Darparu profiad cyffrous a boddhaus o ran dysgu ac addysgu.

  • Meithrin sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn berthnasol i ddatblygiad personol y myfyrwyr ac a fydd yn gaffaeliad iddynt pan gyflogir hwy maes o law.

  • Paratoi myfyrwyr ar gyfer ymateb i ofynion cyflogwyr mewn gyrfaoedd lle byddant yn arddel cymhwyster yn y Gymraeg a lle disgwylir iddynt ddefnyddio’r iaith yn gyson ar wastad uchel.

  • Gosod sylfaen ar gyfer astudio pellach o fewn cwmpas y pwnc ei hun ac o fewn meysydd perthynol.

Y mae’r amcanion uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.

 

 


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

Mae Daearyddiaeth yn Aberystwyth yn archwilio natur ac effaith prosesau diwylliannol, cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a ffisegol o'r raddfa fyd-eang i'r raddfa leol. Mae’r cynllun gradd Cydanrhydedd BA Daearyddiaeth yn rhoi pwyslais ar agweddau ar Ddaearyddiaeth Ddynol, gan archwilio’r ffyrdd y mae unigolion, sefydliadau, llywodraethau a phrosesau strwythurol yn creu, siapio a chynrychioli lleoedd. Trwy eu dewis o fodiwlau, mae myfyrwyr yn gallu datblygu llwybrau sy'n canolbwyntio'n gyfan gwbl ar Ddaearyddiaeth Ddynol neu sy'n cyfuno elfennau o Ddaearyddiaeth Ddynol a Ffisegol. Mae strwythur y rhaglen Cydanrhydedd yn caniatáu i fyfyrwyr gyfuno diddordeb mewn Daearyddiaeth â diddordeb mewn ail bwnc. Nodau cynllun gradd Cydanrhydedd BA Daearyddiaeth yw:
  • Datblygu dealltwriaeth eang a dwfn o ddaearyddiaeth, ei chynnwys, ei dulliau a'i hathroniaeth

  • Darparu rhaglen gyflwyno strwythuredig sy'n drylwyr yn academaidd ac sy'n bodloni gofynion meincnodi'r presennol a'r dyfodol

  • Annog gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol dethol trwy fodiwlau dewisol Lefel 3 a arweinir gan ymchwil yn y meysydd hynny

  • Cynhyrchu graddedigion ag ystod eang o alluoedd dadansoddol, beirniadol a thechnegol o fewn daearyddiaeth.

  • Datblygu pwerau meddwl beirniadol, dadansoddol a dadl resymegol

  • Datblygu cymhwysedd mewn ystod o sgiliau pwnc-benodol a throsglwyddadwy gan gynnwys llythrennedd, llythrennedd cyfrifiadurol, graffeg, gosod problemau a datrys problemau ac ysgrifennu adroddiadau.

  • Annog astudio a meddwl annibynnol, meddyliau ymholgar, ac ymrwymiad i ysgolheictod personol o'r safon uchaf

  • Galluogi myfyrwyr i gyfuno diddordeb mewn Daearyddiaeth gyda diddordeb mewn ail bwnc.

Amcanion y cynllun gradd cydanrhydedd BA Daearyddiaeth yw:
  • Datblygu dealltwriaeth eang a dwfn o Ddaearyddiaeth, ei chynnwys, ei dulliau a’i hathroniaeth

  • Cynnig rhaglen strwythuredig sy’n academaidd drwyadl, ac sy’n bodloni’r gofynion meincnodi cyfredol a rhai’r dyfodol

  • Hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol detholedig drwy fodiwlau dewisol yn Lefel 3, ym meysydd arbenigedd yr Adran

  • Meithrin graddedigion ag ystod eang o alluoedd dadansoddol, beirniadol a thechnegol ym maes daearyddiaeth.

  • Datblygu’r gallu i feddwl yn feirniadol a dadansoddol, a dadlau’n rhesymegol yn Gymraeg a Saesneg

  • Datblygu medrau mewn ystod o sgiliau pwnc-benodol a throsglwyddadwy, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd, sgiliau cyfrifiadurol, graffigedd, gosod a datrys problemau, ysgrifennu adroddiadau, sgiliau labordy a gwaith maes

  • Hybu astudio a meddwl annibynnol, meddyliau chwilfrydig, ac ymrwymiad i ysgolheictod personol o’r safon uchaf.

  • Galluogi myfyrwyr i gyfuno diddordeb sylfaenol mewn Daearyddiaeth â diddordeb sylweddol mewn ail bwnc.

Mae adrannau 10 i 16 y ffurflen hon yn ymwneud â rhan Daearyddiaeth y rhaglenni cydanrhydedd. Mae hon yn fanyleb rhaglen generig ar gyfer cynlluniau gradd cydanrhydedd BA Daearyddiaeth.


10 : Intended learning outcomes


Information provided by Department of Welsh:

Canlyniadau Dysgu arfaethedig - mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, doniau a nodweddion eraill yn y meysydd canlynol:


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

Ar ôl gorffen y cynllun gradd cydanrhydedd BA Daearyddiaeth bydd myfyrwyr:
  • yn gallu gwerthuso syniadau, cysyniadau a dulliau daearyddol yn feirniadol, yn Gymraeg a Saesneg, ar draws y pwnc yn ei gyfanrwydd, ac o fewn canghennau penodol o Ddaearyddiaeth

  • yn gallu cyflawni gwaith ymchwil annibynnol, gan ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau cartograffig, cyfrifiannol, llenyddol a thechnegol

  • wedi datblygu ystod o sgiliau daearyddol, a’r gallu i’w cymhwyso i amrywiaeth o faterion daearyddol

  • yn gallu gweld bod eu profiad dysgu wedi cael ei atgyfnerthu drwy fod yn gysylltiedig â gwaith ymchwil

  • yn gallu gwerthuso’u perfformiad eu hunain mewn ystod o gyd-destunau addysgol ac o dan wahanol ddulliau asesu

  • yn gallu gweithio’n annibynnol ac mewn tîm, gydag ymwybyddiaeth gymdeithasol o’r cyfraniad y mae ysgolheictod ac ymchwil gymhwysol yn eu maes wedi ei wneud i reolaeth a pholisi amgylcheddol.

  • yn meddu ar y sgiliau a’r ymwybyddiaeth angenrheidiol i ddilyn amrywiaeth o yrfaoedd proffesiynol, neu gychwyn ar ymchwil ac astudiaethau uwchraddedig.

Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, rhinweddau a phriodoleddau eraill yn y meysydd canlynol: Noder: Dengys manylion cyflawni’r canlyniadau dysgu a restrir isod yn ein portffolio cyfredol o fodiwlau ar y Map Cwricwlwm atodedig.


10.1 : Knowledge and understanding


Information provided by Department of Welsh:

  • A1. Gwybodaeth drylwyr o deithi’r iaith Gymraeg.

  • A2. Gwybod sut i ddisgrifio a dadansoddi iaith gan ddefnyddio’r eirfa dechnegol briodol.

  • A3. Ymwybyddiaeth gyffredinol o ddatblygiad yr iaith Gymraeg drwy’r oesoedd ac o brif gyfnodau hanesyddol yr iaith.

  • A4. Gwybodaeth o lenyddiaeth Gymraeg hen a diweddar.

  • A5. Gwybodaeth ynghylch hanes llenyddiaeth Gymraeg ac o’r ffactorau hanesyddol, cymdeithasol a deallusol a ddylanwadodd arni drwy’r oesoedd.

  • A6. Gwybodaeth sut i drin gweithiau llenyddol yn feirniadol, gan ddefnyddio geirfa dechnegol lle bo hynny’n briodol.

  • A7. Adnabyddiaeth o wahanol ddulliau a genres llenyddol a’r teithi a’r nodweddion a berthyn iddynt.

  • A8. Ymwybyddiaeth o’r gwahanol ddulliau o astudio llenyddiaeth, gan gynnwys amgyffrediad o berthnasedd  cysyniadau beirniadol.

  • A9. Gwybodaeth ynghylch y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth Gymraeg a llenyddiaeth mewn ieithoedd eraill ac o le testunau llenyddol Cymraeg o fewn patrymau diwylliannol rhyngwladol.

  • A10. Ymwybyddiaeth o swyddogaeth iaith a llenyddiaeth mewn perthynas â meithrin, cynnal a datblygu’r hunaniaeth genedlaethol Gymreig.

  • A11. Ymwybyddiaeth o sefyllfa gymdeithasol bresennol yr iaith ac o’r dulliau a ddefnyddir i’w hyrwyddo a’i hadfer.

  • A12. Cynefindra â ffynonellau cyfeirio safonol yn ymwneud â’r Gymraeg a’i diwylliant, ar ffurf brintiedig ac electronig.

Y mae’r elfennau a nodir uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.

Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:

Darlithoedd; darllen dan gyfarwyddyd; seminarau; dosbarthiadau tiwtorial; dosbarthiadau iaith; dosbarthiadau darllen testun; gweithdai; paratoi ac ysgrifennu traethodau; gweithio ar draethawd hir neu brosiect; rhoi cyflwyniadau a thrafod cyflwyniadau myfyrwyr eraill; gwaith maes.

Dull asesu:

Arholiadau ysgrifenedig; profion llafar; gwaith cwrs (yn bennaf, traethodau); gwaith prosiect; profion iaith; traethawd estynedig; gwaith ffolio (gan gynnwys ysgrifennu creadigol, ymarferion iaith).


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

  • A1 Disgrifio’r berthynas rhwng gweithgarwch dynol a’r amgylchedd ffisegol, gan gynnwys effaith gweithgarwch dynol ar ffurf y dirwedd ac ansawdd yr amgylchedd.

  • A2 Disgrifio ac esbonio’r amrywiadau gofodol mewn ffenomenau dynol a chyfansoddiad amgylcheddau ffisegol y Ddaear ar wahanol raddfeydd gofodol ac amseryddol.

  • A3 Esbonio’r amryw ffyrdd y caiff llefydd, tirweddau ac amgylcheddau eu ffurfio a’u hail-greu’n barhaus drwy amrywiaeth o brosesau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a diwylliannol, mewn ystod o gyd-destunau, o’r lleol i’r byd-eang.

  • A4 Disgrifio’r prosesau ffisegol a chemegol sy’n gyfrifol am ffurfio amgylcheddau corfforol y Ddaear.

  • A5 Gweld y berthynas rhwng prosesau a ffurf yn y byd dynol a ffisegol.

  • A6 Gwerthuso’n feirniadol y cyfraniad y mae astudiaethau daearyddol yn ei wneud i’r pryderon sydd, ar sail gwybodaeth, am y Ddaear a’i phobl, yn nhermau academaidd, ymarferol a pholisi.

  • A7 Gwerthuso datblygiad Daearyddiaeth fel disgyblaeth arbennig, a thrafod y berthynas rhwng Daearyddiaeth a disgyblaethau eraill yn y gwyddorau ffisegol a naturiol, y celfyddydau a’r gwyddorau cymdeithasol.

  • A8 Cyfosod cyfraniadau Daearyddiaeth Dynol a Ffisegol i drafod materion rheoli amgylcheddol.

  • A9 Bod yn ymwybodol o ystod a natur y ffynonellau o ddata sydd ar gael i’r daearyddwr a defnyddio a gwerthuso’r ystod sylweddol o strategaethau arsylwi, cofnodi a dadansoddi a ddefnyddir mewn ymchwil maes daearyddol ac i ddadansoddi data.

  • A10 Disgrifio gwahanol ffyrdd o gynrychioli’r amgylchedd dynol a ffisegol – yn cynnwys testunau, mapiau, hafaliadau mathemategol, hafaliadau cemegol, delweddau gweledol, a modelau (yn cynnwys caledwedd, modelau rhifiadol a chysyniadol).

  • A11 Gwerthuso yn feirniadol yr ystod o ddulliau athronyddol a methodolegol a ddefnyddir gan ddaearyddwyr wrth ddadansoddi a dehongli amgylcheddau dynol a ffisegol y Ddaear.

  • A12 Dangos dealltwriaeth o’r ffordd y caiff ‘ffyrdd o weld’ sy’n benodol i ddaearyddiaeth eu cynhyrchu, eu damcaniaethu a’u dehongli, yn cynnwys cynrychioli llefydd drwy ddisgyrsiau academaidd, polisi a lleyg.

Dysgu: Ar lefel 1, hyrwyddir datblygiad myfyriwr tuag at ganlyniadau dysgu A1–A8 drwy’r rhaglen modiwl Daearyddiaeth craidd, a ddysgir drwy ddarlithoedd a thiwtorialau, ac a ategir gan ddosbarthiadau maes, astudio annibynnol a darllen y myfyriwr. Trafodir materion yn ymwneud â chanlyniadau dysgu A1-A8 hefyd drwy un modiwl craidd mewn darlithoedd, a ategir gan ymarferion a darllen y myfyrwyr. Hyrwyddir datblygiad myfyrwyr tuag at ganlyniadau dysgu A9-A12 o ran yr elfen ymarferol drwy gyfuniad o ddosbarthiadau ymarferol/ labordy a dosbarthiadau maes ac aseiniadau cysylltiedig ar sail gwaith ymarferol. Ar lefelau 2 a 3, mae’r rhaglen addysgu’n cynnwys pedair elfen. (i) Mae Modiwlau Gwybodaeth a Dealltwriaeth Graidd yn Lefel 2 yn datblygu galluoedd myfyrwyr mewn perthynas â chanlyniadau A1-A6 trwy ddarlithoedd a ategir gan astudio annibynnol a darllen y myfyrwyr. (ii) Mae Modiwlau Sgiliau Craidd yn Lefel 2 yn hyrwyddo canlyniadau dysgu A7-A12 trwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau ymarferol a dosbarthiadau maes, ymarferion gwaith maes wedi’u hategu mewn amrywiol ffyrdd, aseiniadau grŵp neu unigol a darllen annibynnol fel y bo’n briodol. Mae dosbarthiadau maes hefyd yn trafod materion sy’n gysylltiedig ag A1 ac A12, tra gall ymchwil a wneir gan fyfyrwyr tuag at eu Prosiect Ymchwil gyfrannu tuag at ddatblygu gwybodaeth sy’n berthnasol i rai neu bob un o ganlyniadau A1-A12. (iii) Mae modiwlau dewisol a gymerir ar Lefel 2 a Lefel 3, ac a gyflwynir drwy ddarlithoedd a seminarau a ategir gan astudio a darllen personol gan y myfyriwr, yn cyfrannu tuag at ddatblygu myfyriwr tuag at rai neu bob un o’r canlyniadau A1-A12. Asesu: Ar Lefel 1, asesir galluoedd myfyrwyr mewn perthynas â chanlyniadau dysgu A1–A12 drwy draethodau arholiadau nas gwelir ymlaen llaw, arholiadau atebion byr nas gwelir ymlaen llaw, asesiadau diwedd modiwl lle gwelir y cwestiynau o flaen llaw, traethodau, posteri academaidd, adroddiadau, portffolio gwaith cwrs, prosiect mapio a chyflwyniadau. Asesir galluoedd myfyrwyr, sy’n ymwneud â chanlyniadau A9-A12, drwy ymarferion ymarferol, labordy a maes. Ar Lefelau 2 a 3, gall galluoedd myfyrwyr sy’n ymwneud â chanlyniadau dysgu A1 i A12 gael eu hasesu mewn ffyrdd amrywiol, fel ag sy’n briodol, drwy’r Prosiect Ymchwil, adroddiadau labordy, aseiniadau gwaith maes, cyflwyniadau llafar, traethodau gwaith cwrs, cyflwyniadau seminar, portffolio ymchwil, adolygiad o lenyddiaeth, a thraethodau arholiad a welir ymlaen llaw, ac nas gwelir ymlaen llaw, ac asesiadau diwedd modiwl lle gwelir y cwestiynau o flaen llaw.


10.2 : Skills and other attributes


Information provided by Department of Welsh:

  • B1. Sgiliau ieithyddol ymarferol a fydd yn cynnwys y gallu i drafod pynciau cymhleth yn raenus, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

  • B2. Medrau dadansoddi iaith a’r defnydd ohoni mewn amrywiol sefyllfaoedd.

  • B3. Y gallu i gynnull ac i gyfleu gwybodaeth ynghylch testunau llenyddol ac i ymdrin â hwy yn feirniadol yn ysgrifenedig ac ar lafar.

  • B4. Y gallu i ymateb yn briodol i’r defnydd o iaith ac o’r dychymyg mewn llenyddiaeth.

  • B5. Y gallu i ystyried llenyddiaeth yn ei chyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a syniadol.

  • B6. Y gallu i adnabod confensiynau llenyddol ac i werthfawrogi eu defnydd a’u swyddogaeth mewn perthynas â genres  llenyddol arbennig.

  • B7. Llunio llyfryddiaethau a chyfeirio mewn modd safonol a chyson at ffynonellau.        

   

Y mae’r elfennau a nodir uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch. 

Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:

Darlithoedd; darllen dan gyfarwyddyd; seminarau; dosbarthiadau tiwtorial; dosbarthiadau iaith; dosbarthiadau darllen testun; gweithdai; paratoi ac ysgrifennu traethodau; gweithio ar draethawd hir neu brosiect; rhoi cyflwyniadau a thrafod cyflwyniadau myfyrwyr eraill; gwaith maes.

Dull asesu:

Arholiadau ysgrifenedig; profion llafar; gwaith cwrs (yn bennaf, traethodau); gwaith prosiect; profion iaith; traethawd estynedig; gwaith ffolio (gan gynnwys ysgrifennu creadigol, ymarferion iaith).


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

  • B1 Haniaethu a chyfuno gwybodaeth

  • B2 Beirniadu a gwerthuso tystiolaeth yn feirniadol

  • B3 Dehongli data a thestunau yn feirniadol

  • B4 Gwneud penderfyniadau y gellir eu cyfiawnhau

  • B5 Asesu rhinweddau theorïau, esboniadau a pholisïau cyferbyniol

  • B6 Datblygu dadl resymegol

  • B7 Dod o hyd i ffyrdd o ddatrys problemau

  • B8 Ysgrifennu mewn arddull academaidd briodol wrth ysgrifennu am, adolygu a thrafod themâu daearyddol.

  • B9 Cyfosod testunau academaidd yn briodol ac yn feirniadol, a dyfynnu a chyfeirnodi ffynonellau yn y dull cywir

  • B10 Cymryd cyfrifoldeb am eu dysg eu hunain gan adolygu a myfyrio ar y dysg hwnnw

Dysgu: Hyrwyddir datblygiad myfyrwyr tuag at ganlyniadau B1-B10 yn bennaf drwy dosbarthiadau ymarferol a dosbarthiadau maes (Lefelau 1-3), a thiwtora un i un ar gyfer y Prosiect Ymchwil (Lefel 3). Ategir y dysgu drwy ymarferion ymarferol ac ymarferion maes. Dangosir y sgiliau hyn yn cael eu cymhwyso yng nghyd-destun meysydd penodol o ymholi daearyddol drwy ddarlithoedd ar gyfer modiwlau craidd a dewisol yn Lefelau 1, 2 a 3. Er enghraifft, mae sgiliau haniaethu a chyfuno gwybodaeth, barnu a gwerthuso tystiolaeth yn feirniadol, dehongli data yn feirniadol, gwneud penderfyniadau y gellir eu cyfiawnhau, asesu rhinweddau theorïau ac esboniadau cyferbyniol, datblygu dadl resymegol a dod o hyd i ffyrdd o ddatrys problemau, oll yn bethau y gellid eu datblygu fel rhan o’r prosiectau a gyflawnir yn ystod cwrs maes Lefel 2. Asesu: Mae asesu galluoedd myfyrwyr mewn perthynas â chanlyniadau B1-B10 yn ganolog i feini prawf a ddefnyddir i werthuso ystod o ffurfiau asesu a ddefnyddir yn nhair lefel y cynllun gradd. Mae’r rhain yn cynnwys aseiniadau traethodau gwaith cwrs, ymarferion ymarferol, prosiectau gwaith maes, traethodau prosiect, cyflwyniadau seminar a llafar, prosiect ymchwil annibynnol, traethodau arholiadau a welir ymlaen llaw, nas gwelir ymlaen llaw a thraethodau amser rhydd. Ar ôl iddynt orffen y cynllun gradd bydd myfyrwyr yn gallu dangos medrau yn y sgiliau daearyddol proffesiynol canlynol:
  • C1 Cynllunio, dylunio a chyflawni darn o ymchwil neu ymholiad daearyddol, gan gynnwys cynhyrchu adroddiad terfynol.

  • C2 Cyflawni gwaith maes effeithiol (gan roi sylw priodol i ddiogelwch ac asesu risg).

  • C3 Cyflwyno data daearyddol yn effeithiol drwy ddefnyddio cyfryngau priodol gan gynnwys mapiau, diagramau, ystadegau, modelau a rhyddiaith academaidd.

  • C4 Defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu, dadansoddi a chyfuno gwybodaeth o’r byd dynol a/neu’r byd ffisegol, gan gynnwys samplu maes, arolygon gyda holiaduron, cyfweliadau a thechnegau meintiol.

  • C5 Cyfuno a dadansoddi gwahanol fathau o dystiolaeth ddaearyddol.

  • C6 Dyfeisio a defnyddio amrywiaeth o ddulliau technegol a dulliau yn y labordy i gasglu a dadansoddi data amgylcheddol.

  • C7 Dadansoddi goblygiadau daearyddol digwyddiadau cyfoes, penderfyniadau polisi, a phrosesau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a diwylliannol.

  • C8 Cwestiynu a dehongli’r broses o gynhyrchu a chyflwyno dogfennau polisi, cyfryngau print a darlledu, deunydd tirwedd a thestunol.

  • C9 Gweld y materion moesol a moesegol sydd ynghlwm wrth drafodaethau ac ymholiadau daearegol.

Dysgu: Caiff sgiliau disgyblaeth-benodol proffesiynol ac ymarferol eu dysgu mewn nifer o gyd-destunau. Mae dosbarthiadau maes yn Lefelau 1 a 2 yn cyfrannu tuag at ddatblygu sgiliau C1-C9, ac ategir dysgu gan brofiad ymarferol o ymarferion maes a phrosiectau mewn grwpiau ac yn unigol. Mae dosbarthiadau ymarferol yn Lefelau 1 a 2 yn cyfrannu tuag at ddatblygu sgiliau C3, C4, C5, C7-C9, wedi’u hategu gan ymarferion ymarferol mewn grwpiau ac yn unigol. Yn olaf, gall ymchwil annibynnol y myfyriwr ar gyfer y Prosiect Ymchwil, a’r tiwtora un i un cysylltiedig, gyfrannu tuag at ddatblygiad myfyrwyr tuag at unrhyw rai, neu bob un, o C1 i C7. Ar ben hyn, dangosir sut mae’r sgiliau hyn yn cael eu rhoi ar waith yng nghyd-destun meysydd penodol o ymchwil daearyddol drwy ddarlithoedd ar gyfer modiwlau craidd a dewisol yn Lefelau 1, 2 a 3. Asesu: Asesir y sgiliau uchod drwy amrywiaeth o ddulliau ar bob un o dair lefel y cynllun gradd. Mae aseiniadau sy’n gofyn am adroddiadau ar ymarferion a gweithgareddau gwaith maes – a all gynnwys adroddiadau ysgrifenedig, llyfrau nodiadau a dyddiaduron maes, a chyflwyniadau llafar – yn asesu galluoedd myfyrwyr yn sgiliau C1-C9. Yn yr un modd, gall y Prosiect Ymchwil, yn dibynnu ar y pwnc, asesu unrhyw un o ganlyniadau C1-C9, neu bob un ohonynt. Mae ymarferion grŵp ac unigol sy’n ymwneud â dosbarthiadau ymarferol yn asesu sgiliau C3-C5 ac C9. Gall traethodau gwaith cwrs, traethodau prosiect a thraethodau arholiadau oll asesu C3-C9 fel sy’n briodol yng nghyd-destun yr asesiad.


10.3 : Transferable/Key skills


Information provided by Department of Welsh:

  • D1. Gallu mynegiant graenus yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig.

  • D2. Gallu i gyfleu dadleuon yn gydlynus ac yn groyw ac mewn modd argyhoeddiadol.

  • D3. Gallu i feddwl yn annibynnol.

  • D4. Gallu i ymagweddu’n feirniadol ac i ddadansoddi a chrynhoi dadleuon a safbwyntiau a gyflwynir gan eraill.

  • D5. Gallu i weithio’n annibynnol ac i gywain gwybodaeth yn drefnus a phwrpasol o amryw ffynonellau, i’w chloriannu’n feirniadol gan ddethol elfennau arwyddocaol a dilys, a’i chyflwyno i eraill ar ffurf gydlynus ac ystyrlon.

  • D6. Gallu i ddeall ac i ddatblygu cysyniadau cymhleth ac i ymdrin â hwynt yn feirniadol ac yn ddadansoddol.

  • D7. Gallu i weithio yn fanwl ac yn drylwyr.

  • D8. Medrau trefniadol mewn perthynas â thasgau gosodedig, gan gynnwys rheoli amser yn effeithiol.

  • D9. Sgiliau technoleg gwybodaeth sylfaenol, gan gynnwys prosesu geiriau, a’r gallu i gywain gwybodaeth o ffynonellau electronig.

  • D10. Golygu gwaith cyn ei gyflwyno mewn diwyg clir a graenus.

  • D11. Gallu i ddeall hanfodion deunydd a luniwyd mewn iaith arall/ieithoedd eraill ac i’w gyfieithu i’r Gymraeg neu ei ailfynegi yn y Gymraeg.

Y mae’r elfennau a nodir uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch. 

Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:

Yn gyffredinol dysgir sgiliau trosglwyddadwy/allweddol drwy ddilyn y modiwlau a astudir, hynny yw, y mae eu meithrin yn gysylltiedig â dulliau dysgu’r modiwlau.    

Ymhlith y dulliau hynny y mae darlithiau, darllen dan gyfarwyddyd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial, paratoi ac ysgrifennu traethodau, a rhoi cyflwyniadau.

Asesir y sgiliau hyn mewn arholiadau ffurfiol, profion iaith, gwaith cwrs, ac asesu llafar.

Y mae mesur gallu’r myfyrwyr i’w mynegi eu hunain yn raenus yn y Gymraeg yn rhan o asesu pob modiwl. 


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

Ar ôl cwblhau’r rhaglen bydd y myfyriwr yn gallu cymryd cyfrifoldeb amdanynt eu hunain a’u gwaith. Bydd y myfyriwr yn medru dangos gallu yn y sgiliau allweddol canlynol sy’n drosglwyddadwy i gyd-destun y tu allan i academia: D1 Gweithio’n annibynnol D2 Gweithio fel rhan o dîm D3 Parchu safbwyntiau, credoau, barn a gwerthoedd eraill D4 Gwrando ar siaradwyr eraill, a thrafod â hwy D5 Cyfathrebu’n effeithiol ar lafar mewn ystod o sefyllfaoedd, yn cynnwys trafodaethau a dadleuon grŵp a chyflwyniadau ffurfiol. D6 Cyfathrebu’n effeithiol yn ysgrifenedig mewn amrywiaeth o ffyrdd. D7 Defnyddio technolegau gwybodaeth i brosesu, cadw, a chyflwyno gwybodaeth, gan gynnwys taenlenni, cronfeydd data, prosesu geiriau, e-bost a’r we fyd-eang. D8 Darganfod a chael gafael ar wybodaeth, a’i threfnu a’i thrin o ffynonellau traddodiadol ac electronig, gan gynnwys llyfrgelloedd, adnoddau cyfrifiadurol ar-lein a’r we fyd-eang. D9 Rheoli amser a rheoli trefniadau eu gwaith eu hun. D10 Ymchwilio i faterion a datrys problemau D11 Addasu i newid D12 Gallu darllen, deall a dehongli ystod eang o ddeunydd ysgrifenedig. D13 Sgiliau arsylwi. D14 Coladu, prosesu, dehongli a chyflwyno data rhifiadol. D15 Nodi llwybrau gyrfa priodol a datblygu’r gallu i gystadlu’n effeithiol am gyfleoedd i gael swyddi. Dysgu: Nod y rhaglen yw hyrwyddo, datblygu a meithrin ymwybyddiaeth a medrau myfyrwyr yn y sgiliau trosglwyddadwy allweddol hyn – sgiliau y bydd myfyrwyr eisoes yn eu medru i raddau mwy neu lai. Mae rhai o’r sgiliau hyn yn rhan annatod o weithgareddau dysgu ar draws y rhaglen (D1, D4, a D7-D12). Datblygir eraill drwy fodiwlau a gweithgareddau dysgu penodol, gan gynnwys gwaith maes (D2, D10 a D13), dosbarthiadau ac ymarferion ymarferol/ labordy (D14), cyflwyniadau llafar (D5). Asesu: Mae asesu galluoedd myfyrwyr mewn perthynas â nifer o’r canlyniadau uchod (D6-D10 a D12) yn ganolog i’r meini prawf a ddefnyddir i werthuso ystod o ffurfiau asesu a ddefnyddir yn nhair lefel y cynllun gradd. Mae’r rhain yn cynnwys traethodau gwaith cwrs, ymarferion ymarferol, prosiectau gwaith maes, traethodau prosiect, prosiect ymchwil annibynnol a thraethodau a welir ymlaen llaw, nas gwelir ymlaen llaw a thraethodau arholiadau amser rhydd. Ar ben hynny, asesir nifer o’r sgiliau uchod yn benodol ar wahanol bwyntiau yn ystod y rhaglen trwy ystod o ddulliau, gan gynnwys y Prosiect Ymchwil annibynnol (D1), adroddiadau ar y prosiect gwaith maes grŵp (D2), cyflwyniad llafar ar y prosiect gwaith maes (D5), ymarferion gwaith maes (D13), ac ymarferion ymarferol (D14).

11 : Program Structures and requirements, levels, modules, credits and awards



BA Cymraeg / Daearyddiaeth [LQ75]

Academic Year: 2023/2024Joint Honours scheme - available from 2000/2001

Duration (studying Full-Time): 3 years

Part 1 Rules

Year 1 Core (60 Credits)

Compulsory module(s).

Semester 1
DA10000

Byw mewn Byd Peryglus

DA10520

Newid a gwrthdaro: Cynhyrchu gofodau gwledig a threfol

Semester 2
DA10020

Byw mewn Byd Peryglus

GS14220

Place and Identity

Year 1 Timetable Core/Student Option

Rhaid i bob myfyriwr iaith gyntaf gymryd y modiwlau hyn:

Semester 1
CY11400

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

CY13120

Sgiliau Astudio Iaith a Llên

Semester 2
CY11420

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

Year 1 Timetable Core/Student Option

Rhaid i bob myfyriwr ail iaith gymryd y modiwlau hyn:

Semester 1
CY10900

Trafod y Byd Cyfoes twy'r Gymraeg

CY11700

Ysgrifennu Cymraeg Graenus

Semester 2
CY10920

Trafod y Byd Cyfoes twy'r Gymraeg

CY11720

Ysgrifennu Cymraeg Graenus

Year 1 Timetable Core/Student Option

Rhaid i bob myfyriwr ail iaith astudio 20 credyd o blith y modiwlau canlynol:

Semester 1
CY11500

Llenyddiaeth Gymraeg: cyfoes a hanesyddol

CY13120

Sgiliau Astudio Iaith a Llên

Semester 2
CY11520

Llenyddiaeth Gymraeg: cyfoes a hanesyddol

Year 1 Timetable Core/Student Option

Rhaid i bob myfyriwr iaith gyntaf ddewis modiwlau gwerth 20 credyd o blith y canlynol:

Semester 1
CY11120

Themau a Ffigurau Llen c.550-1900

Semester 2
CY11220

Beirdd a Llenorion o 1900 hyd heddiw

Part 2 Rules

Year 2 Core (20 Credits)

Compulsory module(s).

Semester 1
DA25400

Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes

Semester 2
DA25420

Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes

Year 2 Timetable Core/Student Option

Mae Gloywi Iaith yn orfodol i fyfyrwyr Iaith Gyntaf yn eu hail flwyddyn:

Semester 1
CY20100

Gloywi Iaith

Semester 2
CY20120

Gloywi Iaith

Year 2 Timetable Core/Student Option

Mae CY20520 a CY21420 yn orfodol i fyfyrwyr Ail Iaith yn eu hail flwyddyn:

Semester 1
CY20520

Cymraeg y Gweithle Proffesiynol

CY21400

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

Semester 2
CY21420

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

Year 2 Options

Mae'n rhaid i fyfyrwyr ddewis 40 credyd o'r modiwlau isod:

Semester 1
DA20820

Astudio Cymru Gyfoes

GS22920

Placing Culture

GS23810

Quantitative Data Analysis

Semester 2
DA23020

Lleoli Gwleidyddiaeth

GS20410

Concepts for Geographers

GS28910

Geographical Perspectives on the Sustainable Society

Year 2 Options

Dewiswch rhwng 20 a 40 o gredydau o blith modiwlau Lefel 2 yr Adran / Choose between 20 and 40 credits of Level 2 modules in the Department

Year 3 Core (20 Credits)

Compulsory module(s).

Semester 1
DA34200

Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/Prif Bwnc

Semester 2
DA34220

Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/Prif Bwnc

Year 3 Options

Mae'n rhaid i fyfyrwyr ddewis 40 credyd o'r modiwlau isod.

Semester 1
DA32220

Cenedlaetholdeb a chymdeithas

GS33320

Everyday Social Worlds

GS37520

Urban Risk and Environmental Resilience

GS37920

Memory Cultures: heritage, identity and power

Semester 2
DA31720

Rheoli'r Amgylchedd Gymreig

GS30020

The psychosocial century

GS36820

The Global Countryside: Geographical and Sociological Perspectives

GS39120

Contemporary Global Migration

Final Year Timetable Core/Student Option

Mae'r modiwl yma yn orfodol i fyfyrwyr Ail Iaith yn eu blwyddyn olaf:

Semester 1
CY31100

Gloywi Iaith yr Ail Iaith

Semester 2
CY31120

Gloywi Iaith yr Ail Iaith

Final Year Options

Dewiswch rhwng 40 a 60 o gredydau o blith modiwlau Lefel 3 yr Adran / Choose between 40 and 60 credits of Level 3 modules in the Department


12 : Support for students and their learning
Every student is allocated a Personal Tutor. Personal Tutors have an important role within the overall framework for supporting students and their personal development at the University. The role is crucial in helping students to identify where they might find support, how and where to seek advice and how to approach support to maximise their student experience. Further support for students and their learning is provided by Information Services and Student Support and Careers Services.

13 : Entry Requirements
Details of entry requirements for the scheme can be found at http://courses.aber.ac.uk

14 : Methods for evaluating and improving the quality and standards of teaching and learning
All taught study schemes are subject to annual monitoring and periodic review, which provide the University with assurance that schemes are meeting their aims, and also identify areas of good practice and disseminate this information in order to enhance the provision.

15 : Regulation of Assessment
Academic Regulations are published as Appendix 2 of the Academic Quality Handbook: https://www.aber.ac.uk/en/aqro/handbook/app-2/.

15.1 : External Examiners
External Examiners fulfill an essential part of the University’s Quality Assurance. Annual reports by External Examiners are considered by Faculties and Academic Board at university level.

16 : Indicators of quality and standards
The Department Quality Audit questionnaire serves as a checklist about the current requirements of the University’s Academic Quality Handbook. The periodic Department Reviews provide an opportunity to evaluate the effectiveness of quality assurance processes and for the University to assure itself that management of quality and standards which are the responsibility of the University as a whole are being delivered successfully.