Programme Specifications

Daearyddiaeth / Hanes Cymru


1 : Awarding Institution / Body
Aberystwyth University

2a : Teaching Institution / University
Aberystwyth University

2b : Work-based learning (where appropriate)


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:


Information provided by Department of History and Welsh History:



3a : Programme accredited by
Aberystwyth University

3b : Programme approved by
Aberystwyth University

4 : Final Award
Bachelor of Arts

5 : Programme title
Daearyddiaeth / Hanes Cymru

6 : UCAS code
LVT1

7 : QAA Subject Benchmark


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

Datganiad Meincnodi Daearyddiaeth a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch

Information provided by Department of History and Welsh History:

Datganiad Meincnodi Hanes gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.



8 : Date of publication


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

Medi 2023

Information provided by Department of History and Welsh History:

Medi 2023



9 : Educational aims of the programme


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

Mae Daearyddiaeth yn Aberystwyth yn archwilio natur ac effaith prosesau diwylliannol, cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a ffisegol o'r raddfa fyd-eang i'r raddfa leol. Mae’r cynllun gradd Cydanrhydedd BA Daearyddiaeth yn rhoi pwyslais ar agweddau ar Ddaearyddiaeth Ddynol, gan archwilio’r ffyrdd y mae unigolion, sefydliadau, llywodraethau a phrosesau strwythurol yn creu, siapio a chynrychioli lleoedd. Trwy eu dewis o fodiwlau, mae myfyrwyr yn gallu datblygu llwybrau sy'n canolbwyntio'n gyfan gwbl ar Ddaearyddiaeth Ddynol neu sy'n cyfuno elfennau o Ddaearyddiaeth Ddynol a Ffisegol. Mae strwythur y rhaglen Cydanrhydedd yn caniatáu i fyfyrwyr gyfuno diddordeb mewn Daearyddiaeth â diddordeb mewn ail bwnc. Nodau cynllun gradd Cydanrhydedd BA Daearyddiaeth yw:
  • Datblygu dealltwriaeth eang a dwfn o ddaearyddiaeth, ei chynnwys, ei dulliau a'i hathroniaeth

  • Darparu rhaglen gyflwyno strwythuredig sy'n drylwyr yn academaidd ac sy'n bodloni gofynion meincnodi'r presennol a'r dyfodol

  • Annog gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol dethol trwy fodiwlau dewisol Lefel 3 a arweinir gan ymchwil yn y meysydd hynny

  • Cynhyrchu graddedigion ag ystod eang o alluoedd dadansoddol, beirniadol a thechnegol o fewn daearyddiaeth.

  • Datblygu pwerau meddwl beirniadol, dadansoddol a dadl resymegol

  • Datblygu cymhwysedd mewn ystod o sgiliau pwnc-benodol a throsglwyddadwy gan gynnwys llythrennedd, llythrennedd cyfrifiadurol, graffeg, gosod problemau a datrys problemau ac ysgrifennu adroddiadau.

  • Annog astudio a meddwl annibynnol, meddyliau ymholgar, ac ymrwymiad i ysgolheictod personol o'r safon uchaf

  • Galluogi myfyrwyr i gyfuno diddordeb mewn Daearyddiaeth gyda diddordeb mewn ail bwnc.

Amcanion y cynllun gradd cydanrhydedd BA Daearyddiaeth yw:
  • Datblygu dealltwriaeth eang a dwfn o Ddaearyddiaeth, ei chynnwys, ei dulliau a’i hathroniaeth

  • Cynnig rhaglen strwythuredig sy’n academaidd drwyadl, ac sy’n bodloni’r gofynion meincnodi cyfredol a rhai’r dyfodol

  • Hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth arbenigol detholedig drwy fodiwlau dewisol yn Lefel 3, ym meysydd arbenigedd yr Adran

  • Meithrin graddedigion ag ystod eang o alluoedd dadansoddol, beirniadol a thechnegol ym maes daearyddiaeth.

  • Datblygu’r gallu i feddwl yn feirniadol a dadansoddol, a dadlau’n rhesymegol yn Gymraeg a Saesneg

  • Datblygu medrau mewn ystod o sgiliau pwnc-benodol a throsglwyddadwy, gan gynnwys llythrennedd, rhifedd, sgiliau cyfrifiadurol, graffigedd, gosod a datrys problemau, ysgrifennu adroddiadau, sgiliau labordy a gwaith maes

  • Hybu astudio a meddwl annibynnol, meddyliau chwilfrydig, ac ymrwymiad i ysgolheictod personol o’r safon uchaf.

  • Galluogi myfyrwyr i gyfuno diddordeb sylfaenol mewn Daearyddiaeth â diddordeb sylweddol mewn ail bwnc.

Mae adrannau 10 i 16 y ffurflen hon yn ymwneud â rhan Daearyddiaeth y rhaglenni cydanrhydedd. Mae hon yn fanyleb rhaglen generig ar gyfer cynlluniau gradd cydanrhydedd BA Daearyddiaeth.

Information provided by Department of History and Welsh History:

Nod y Rhaglen yw datblygu diddordeb y sawl sy’n astudio Hanes Cymru, a meithrin ynddynt wybodaeth a dealltwriaeth ddyfnach o’r pwnc. Mae’r Rhaglen yn cynnig i fyfyrwyr ddewis eang o ran cyfnodau a themâu hanesyddol o’r oesoedd canol hyd heddiw, gan gynnwys cyfleoedd i astudio agweddau ar hanes gwleidyddol, cymdeithasol, diwylliannol neu economaidd. Mae’r modiwlau craidd yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau ymchwilio hanes sylfaenol ac ar ddealltwriaeth o faterion hanesyddiaethol. Drwy hyn, nod y Rhaglen yw cynhyrchu graddedigion a fydd yn meddu ar sgiliau ymchwilio a dehongli o safon uchel, ac a fydd wedi cael blas ar werthfawrogi gwerth Hanes i gymdeithas, a fydd yn aros gyda hwy gydol eu hoes.



10 : Intended learning outcomes


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

Ar ôl gorffen y cynllun gradd cydanrhydedd BA Daearyddiaeth bydd myfyrwyr:
  • yn gallu gwerthuso syniadau, cysyniadau a dulliau daearyddol yn feirniadol, yn Gymraeg a Saesneg, ar draws y pwnc yn ei gyfanrwydd, ac o fewn canghennau penodol o Ddaearyddiaeth

  • yn gallu cyflawni gwaith ymchwil annibynnol, gan ddefnyddio amrywiaeth o sgiliau cartograffig, cyfrifiannol, llenyddol a thechnegol

  • wedi datblygu ystod o sgiliau daearyddol, a’r gallu i’w cymhwyso i amrywiaeth o faterion daearyddol

  • yn gallu gweld bod eu profiad dysgu wedi cael ei atgyfnerthu drwy fod yn gysylltiedig â gwaith ymchwil

  • yn gallu gwerthuso’u perfformiad eu hunain mewn ystod o gyd-destunau addysgol ac o dan wahanol ddulliau asesu

  • yn gallu gweithio’n annibynnol ac mewn tîm, gydag ymwybyddiaeth gymdeithasol o’r cyfraniad y mae ysgolheictod ac ymchwil gymhwysol yn eu maes wedi ei wneud i reolaeth a pholisi amgylcheddol.

  • yn meddu ar y sgiliau a’r ymwybyddiaeth angenrheidiol i ddilyn amrywiaeth o yrfaoedd proffesiynol, neu gychwyn ar ymchwil ac astudiaethau uwchraddedig.

Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, rhinweddau a phriodoleddau eraill yn y meysydd canlynol: Noder: Dengys manylion cyflawni’r canlyniadau dysgu a restrir isod yn ein portffolio cyfredol o fodiwlau ar y Map Cwricwlwm atodedig.

Information provided by Department of History and Welsh History:



10.1 : Knowledge and understanding


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

  • A1 Disgrifio’r berthynas rhwng gweithgarwch dynol a’r amgylchedd ffisegol, gan gynnwys effaith gweithgarwch dynol ar ffurf y dirwedd ac ansawdd yr amgylchedd.

  • A2 Disgrifio ac esbonio’r amrywiadau gofodol mewn ffenomenau dynol a chyfansoddiad amgylcheddau ffisegol y Ddaear ar wahanol raddfeydd gofodol ac amseryddol.

  • A3 Esbonio’r amryw ffyrdd y caiff llefydd, tirweddau ac amgylcheddau eu ffurfio a’u hail-greu’n barhaus drwy amrywiaeth o brosesau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a diwylliannol, mewn ystod o gyd-destunau, o’r lleol i’r byd-eang.

  • A4 Disgrifio’r prosesau ffisegol a chemegol sy’n gyfrifol am ffurfio amgylcheddau corfforol y Ddaear.

  • A5 Gweld y berthynas rhwng prosesau a ffurf yn y byd dynol a ffisegol.

  • A6 Gwerthuso’n feirniadol y cyfraniad y mae astudiaethau daearyddol yn ei wneud i’r pryderon sydd, ar sail gwybodaeth, am y Ddaear a’i phobl, yn nhermau academaidd, ymarferol a pholisi.

  • A7 Gwerthuso datblygiad Daearyddiaeth fel disgyblaeth arbennig, a thrafod y berthynas rhwng Daearyddiaeth a disgyblaethau eraill yn y gwyddorau ffisegol a naturiol, y celfyddydau a’r gwyddorau cymdeithasol.

  • A8 Cyfosod cyfraniadau Daearyddiaeth Dynol a Ffisegol i drafod materion rheoli amgylcheddol.

  • A9 Bod yn ymwybodol o ystod a natur y ffynonellau o ddata sydd ar gael i’r daearyddwr a defnyddio a gwerthuso’r ystod sylweddol o strategaethau arsylwi, cofnodi a dadansoddi a ddefnyddir mewn ymchwil maes daearyddol ac i ddadansoddi data.

  • A10 Disgrifio gwahanol ffyrdd o gynrychioli’r amgylchedd dynol a ffisegol – yn cynnwys testunau, mapiau, hafaliadau mathemategol, hafaliadau cemegol, delweddau gweledol, a modelau (yn cynnwys caledwedd, modelau rhifiadol a chysyniadol).

  • A11 Gwerthuso yn feirniadol yr ystod o ddulliau athronyddol a methodolegol a ddefnyddir gan ddaearyddwyr wrth ddadansoddi a dehongli amgylcheddau dynol a ffisegol y Ddaear.

  • A12 Dangos dealltwriaeth o’r ffordd y caiff ‘ffyrdd o weld’ sy’n benodol i ddaearyddiaeth eu cynhyrchu, eu damcaniaethu a’u dehongli, yn cynnwys cynrychioli llefydd drwy ddisgyrsiau academaidd, polisi a lleyg.

Dysgu: Ar lefel 1, hyrwyddir datblygiad myfyriwr tuag at ganlyniadau dysgu A1–A8 drwy’r rhaglen modiwl Daearyddiaeth craidd, a ddysgir drwy ddarlithoedd a thiwtorialau, ac a ategir gan ddosbarthiadau maes, astudio annibynnol a darllen y myfyriwr. Trafodir materion yn ymwneud â chanlyniadau dysgu A1-A8 hefyd drwy un modiwl craidd mewn darlithoedd, a ategir gan ymarferion a darllen y myfyrwyr. Hyrwyddir datblygiad myfyrwyr tuag at ganlyniadau dysgu A9-A12 o ran yr elfen ymarferol drwy gyfuniad o ddosbarthiadau ymarferol/ labordy a dosbarthiadau maes ac aseiniadau cysylltiedig ar sail gwaith ymarferol. Ar lefelau 2 a 3, mae’r rhaglen addysgu’n cynnwys pedair elfen. (i) Mae Modiwlau Gwybodaeth a Dealltwriaeth Graidd yn Lefel 2 yn datblygu galluoedd myfyrwyr mewn perthynas â chanlyniadau A1-A6 trwy ddarlithoedd a ategir gan astudio annibynnol a darllen y myfyrwyr. (ii) Mae Modiwlau Sgiliau Craidd yn Lefel 2 yn hyrwyddo canlyniadau dysgu A7-A12 trwy gyfuniad o ddarlithoedd, dosbarthiadau ymarferol a dosbarthiadau maes, ymarferion gwaith maes wedi’u hategu mewn amrywiol ffyrdd, aseiniadau grŵp neu unigol a darllen annibynnol fel y bo’n briodol. Mae dosbarthiadau maes hefyd yn trafod materion sy’n gysylltiedig ag A1 ac A12, tra gall ymchwil a wneir gan fyfyrwyr tuag at eu Prosiect Ymchwil gyfrannu tuag at ddatblygu gwybodaeth sy’n berthnasol i rai neu bob un o ganlyniadau A1-A12. (iii) Mae modiwlau dewisol a gymerir ar Lefel 2 a Lefel 3, ac a gyflwynir drwy ddarlithoedd a seminarau a ategir gan astudio a darllen personol gan y myfyriwr, yn cyfrannu tuag at ddatblygu myfyriwr tuag at rai neu bob un o’r canlyniadau A1-A12. Asesu: Ar Lefel 1, asesir galluoedd myfyrwyr mewn perthynas â chanlyniadau dysgu A1–A12 drwy draethodau arholiadau nas gwelir ymlaen llaw, arholiadau atebion byr nas gwelir ymlaen llaw, asesiadau diwedd modiwl lle gwelir y cwestiynau o flaen llaw, traethodau, posteri academaidd, adroddiadau, portffolio gwaith cwrs, prosiect mapio a chyflwyniadau. Asesir galluoedd myfyrwyr, sy’n ymwneud â chanlyniadau A9-A12, drwy ymarferion ymarferol, labordy a maes. Ar Lefelau 2 a 3, gall galluoedd myfyrwyr sy’n ymwneud â chanlyniadau dysgu A1 i A12 gael eu hasesu mewn ffyrdd amrywiol, fel ag sy’n briodol, drwy’r Prosiect Ymchwil, adroddiadau labordy, aseiniadau gwaith maes, cyflwyniadau llafar, traethodau gwaith cwrs, cyflwyniadau seminar, portffolio ymchwil, adolygiad o lenyddiaeth, a thraethodau arholiad a welir ymlaen llaw, ac nas gwelir ymlaen llaw, ac asesiadau diwedd modiwl lle gwelir y cwestiynau o flaen llaw.

Information provided by Department of History and Welsh History:

  • A1 Gwybodaeth a dealltwriaeth o gymdeithasau dynol yn y gorffennol drwy astudio ystod o gyfnodau a themâu hanesyddol mewn sawl cyd-destun diwylliannol gwahanol.

  • A2 Y gallu i lunio cwestiynau hanesyddol, ac i chwilio a chanfod amryfal fathau o dystiolaeth eilaidd a gwreiddiol briodol, gan gynnwys y ffurf electronig.

  • A3 Y gallu i ddarllen a defnyddio ystod o destunau eilaidd a ffynonellau gwreiddiol yn feirniadol ac yn empathig.

  • A4 Gwerthfawrogi natur gymhleth ac amrywiol sefyllfaoedd, digwyddiadau a dulliau meddwl y gorffennol.

  • A5 Deall yr anawsterau cynhenid wrth ddehongli tystiolaeth hanesyddol, a’r modd y mae haneswyr yn ymdrin ag amwysedd, gwybodaeth annigonol a safbwyntiau gwahanol.

  • A6 Gwerthfawrogi sgiliau beirniadol sylfaenol yr hanesydd wrth bennu a defnyddio rheolau tystiolaeth ac wrth brofi dilysrwydd datganiadau drwy ddatblygu dealltwriaeth ymarferol o sut y defnyddir technegau ymchwilio a holi profedig i gynhyrchu a dehongli gwybodaeth hanesyddol.

  • A7 Annibyniaeth ddeallusol wrth osod a datrys problemau, dysgu sgiliau bywgraffyddiaethol, y gallu i gasglu, dewis, dethol, trefnu a chyfuno tystiolaeth hanesyddol, a’r gallu i lunio cwestiynau priodol ac i gynnig atebion iddynt gan ddefnyddio tystiolaeth a dadleuon dilys a pherthnasol.

  • A8 Ymwybyddiaeth atblygol a beirniadol o rymoedd newidiadau hanesyddol a’r ffyrdd y’u hesbonnir mewn dadleuon hanesyddiaethol.

  • A9 Trefnu dadleuon eglur a chydlynol ar lafar ac ar bapur, a’r gallu i wrando ac ymateb i ddadleuon eraill.

  • A10 Deall gwerth cymdeithasol Hanes, a meithrin mwynhad oesol ohono fel pwnc.

Dulliau a strategaethau dysgu/addysgu:

Dysgir 1 drwy ddarlithoedd, seminarau a gwaith cwrs a asesir. Mae’r adnoddau a geir yn Llyfrgell y Brifysgol ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn rhoi cymorth ychwanegol. Dysgir 2-10 drwy gyfuniad o fodiwlau Dewis gydag ystod o fodiwlau sgiliau a modiwl craidd hanesyddiaethol. Drwy hyn oll, disgwylir i fyfyrwyr gadarnhau ac ymestyn eu gwybodaeth drwy ddarllen yn annibynnol.

Asesu:

Asesir yn ffurfiannol drwy waith cwrs (1-9) a chynigir adborth ar hyn i fyfyrwyr yn rheolaidd. Asesir yn gyfansymiol drwy gyfuniad o arholiadau amser-rhydd (1-4, 8, 9) a phrosiectau (2, 6). Gellir hefyd ymgymryd â thraethawd estynedig (1-9). Nid yw cyflwyniadau llafar yn cael eu hasesu’n ffurfiol ar hyn o bryd, ond fe’u datblygir mewn gwaith seminar.



10.2 : Skills and other attributes


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

  • B1 Haniaethu a chyfuno gwybodaeth

  • B2 Beirniadu a gwerthuso tystiolaeth yn feirniadol

  • B3 Dehongli data a thestunau yn feirniadol

  • B4 Gwneud penderfyniadau y gellir eu cyfiawnhau

  • B5 Asesu rhinweddau theorïau, esboniadau a pholisïau cyferbyniol

  • B6 Datblygu dadl resymegol

  • B7 Dod o hyd i ffyrdd o ddatrys problemau

  • B8 Ysgrifennu mewn arddull academaidd briodol wrth ysgrifennu am, adolygu a thrafod themâu daearyddol.

  • B9 Cyfosod testunau academaidd yn briodol ac yn feirniadol, a dyfynnu a chyfeirnodi ffynonellau yn y dull cywir

  • B10 Cymryd cyfrifoldeb am eu dysg eu hunain gan adolygu a myfyrio ar y dysg hwnnw

Dysgu: Hyrwyddir datblygiad myfyrwyr tuag at ganlyniadau B1-B10 yn bennaf drwy dosbarthiadau ymarferol a dosbarthiadau maes (Lefelau 1-3), a thiwtora un i un ar gyfer y Prosiect Ymchwil (Lefel 3). Ategir y dysgu drwy ymarferion ymarferol ac ymarferion maes. Dangosir y sgiliau hyn yn cael eu cymhwyso yng nghyd-destun meysydd penodol o ymholi daearyddol drwy ddarlithoedd ar gyfer modiwlau craidd a dewisol yn Lefelau 1, 2 a 3. Er enghraifft, mae sgiliau haniaethu a chyfuno gwybodaeth, barnu a gwerthuso tystiolaeth yn feirniadol, dehongli data yn feirniadol, gwneud penderfyniadau y gellir eu cyfiawnhau, asesu rhinweddau theorïau ac esboniadau cyferbyniol, datblygu dadl resymegol a dod o hyd i ffyrdd o ddatrys problemau, oll yn bethau y gellid eu datblygu fel rhan o’r prosiectau a gyflawnir yn ystod cwrs maes Lefel 2. Asesu: Mae asesu galluoedd myfyrwyr mewn perthynas â chanlyniadau B1-B10 yn ganolog i feini prawf a ddefnyddir i werthuso ystod o ffurfiau asesu a ddefnyddir yn nhair lefel y cynllun gradd. Mae’r rhain yn cynnwys aseiniadau traethodau gwaith cwrs, ymarferion ymarferol, prosiectau gwaith maes, traethodau prosiect, cyflwyniadau seminar a llafar, prosiect ymchwil annibynnol, traethodau arholiadau a welir ymlaen llaw, nas gwelir ymlaen llaw a thraethodau amser rhydd. Ar ôl iddynt orffen y cynllun gradd bydd myfyrwyr yn gallu dangos medrau yn y sgiliau daearyddol proffesiynol canlynol:
  • C1 Cynllunio, dylunio a chyflawni darn o ymchwil neu ymholiad daearyddol, gan gynnwys cynhyrchu adroddiad terfynol.

  • C2 Cyflawni gwaith maes effeithiol (gan roi sylw priodol i ddiogelwch ac asesu risg).

  • C3 Cyflwyno data daearyddol yn effeithiol drwy ddefnyddio cyfryngau priodol gan gynnwys mapiau, diagramau, ystadegau, modelau a rhyddiaith academaidd.

  • C4 Defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu, dadansoddi a chyfuno gwybodaeth o’r byd dynol a/neu’r byd ffisegol, gan gynnwys samplu maes, arolygon gyda holiaduron, cyfweliadau a thechnegau meintiol.

  • C5 Cyfuno a dadansoddi gwahanol fathau o dystiolaeth ddaearyddol.

  • C6 Dyfeisio a defnyddio amrywiaeth o ddulliau technegol a dulliau yn y labordy i gasglu a dadansoddi data amgylcheddol.

  • C7 Dadansoddi goblygiadau daearyddol digwyddiadau cyfoes, penderfyniadau polisi, a phrosesau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a diwylliannol.

  • C8 Cwestiynu a dehongli’r broses o gynhyrchu a chyflwyno dogfennau polisi, cyfryngau print a darlledu, deunydd tirwedd a thestunol.

  • C9 Gweld y materion moesol a moesegol sydd ynghlwm wrth drafodaethau ac ymholiadau daearegol.

Dysgu: Caiff sgiliau disgyblaeth-benodol proffesiynol ac ymarferol eu dysgu mewn nifer o gyd-destunau. Mae dosbarthiadau maes yn Lefelau 1 a 2 yn cyfrannu tuag at ddatblygu sgiliau C1-C9, ac ategir dysgu gan brofiad ymarferol o ymarferion maes a phrosiectau mewn grwpiau ac yn unigol. Mae dosbarthiadau ymarferol yn Lefelau 1 a 2 yn cyfrannu tuag at ddatblygu sgiliau C3, C4, C5, C7-C9, wedi’u hategu gan ymarferion ymarferol mewn grwpiau ac yn unigol. Yn olaf, gall ymchwil annibynnol y myfyriwr ar gyfer y Prosiect Ymchwil, a’r tiwtora un i un cysylltiedig, gyfrannu tuag at ddatblygiad myfyrwyr tuag at unrhyw rai, neu bob un, o C1 i C7. Ar ben hyn, dangosir sut mae’r sgiliau hyn yn cael eu rhoi ar waith yng nghyd-destun meysydd penodol o ymchwil daearyddol drwy ddarlithoedd ar gyfer modiwlau craidd a dewisol yn Lefelau 1, 2 a 3. Asesu: Asesir y sgiliau uchod drwy amrywiaeth o ddulliau ar bob un o dair lefel y cynllun gradd. Mae aseiniadau sy’n gofyn am adroddiadau ar ymarferion a gweithgareddau gwaith maes – a all gynnwys adroddiadau ysgrifenedig, llyfrau nodiadau a dyddiaduron maes, a chyflwyniadau llafar – yn asesu galluoedd myfyrwyr yn sgiliau C1-C9. Yn yr un modd, gall y Prosiect Ymchwil, yn dibynnu ar y pwnc, asesu unrhyw un o ganlyniadau C1-C9, neu bob un ohonynt. Mae ymarferion grŵp ac unigol sy’n ymwneud â dosbarthiadau ymarferol yn asesu sgiliau C3-C5 ac C9. Gall traethodau gwaith cwrs, traethodau prosiect a thraethodau arholiadau oll asesu C3-C9 fel sy’n briodol yng nghyd-destun yr asesiad.

Information provided by Department of History and Welsh History:

  • B1 Arfer â natur gymhleth ac amrywiol y pwnc a chymharu mewn ffordd ddeallus ar draws ffiniau amser a lle

  • B2 Rhesymu yn feirniadol

  • B3 Defnyddio dulliau a chysyniadau hanesyddol

  • B4 Dangos annibyniaeth barn

  • B5 Lledaenu gwybodaeth a syniadau i eraill, ar lafar ac ar bapur

Dulliau a strategaethau dysgu/addysgu:

Datblygir sgiliau deallusol gydol y Rhaglen mewn amrywiol ffyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu sgiliau gwrando mewn darlithoedd a sgiliau deall wrth ddarllen a chymryd nodiadau (1), seminarau, a gwaith cwrs (1-5)

Asesu:

Mae pob un o’r dulliau asesu yn mesur gallu’r myfyriwr ym mhob un o’r sgiliau deallusol uchod drwy ymatebion ysgrifenedig mewn amryw ffurf. Nid yw cyflwyniadau llafar yn cael eu hasesu’n ffurfiol ar hyn o bryd, ond fe’u datblygir mewn gwaith seminar.

Sgiliau ymarferol

  • C1 Chwilio, dewis, cymhathu a chyflwyno casgliadau o dystiolaeth hanesyddol o amryw ffynonellau

  • C2 Arddangos hunanddisgyblaeth wrth reoli amser a’r gallu i weithio yn annibynnol a chyda phobl eraill

  • C3 Darllen ffynonellau eilaidd yn feirniadol

  • C4 Dadansoddi ffynonellau gwreiddiol mewn ffyrdd cymhleth, gan gynnwys y gallu i olrhain eu tarddiad, i ddadansoddi eu cynnwys a’u hiaith, ac i’w croesgyfeirio â ffynonellau gwreiddiol ac eilaidd eraill

Dulliau a strategaethau dysgu/addysgu:

Cyflwynir y sgiliau ymarferol hyn i bob myfyriwr drwy fodiwlau craidd Blwyddyn 1, ac fe’u datblygir ymhellach ym Mlynyddoedd 2 a 3 ym mhob modiwl. Mae llawlyfrau modiwlau yn cynnig arweiniad pellach. Caiff Sgiliau Asesu 1-3 eu hasesu’n bennaf drwy waith cwrs ac arholiadau, ac asesir 4, sy’n elfen bwysig wrth asesu pob modiwl, yn bennaf drwy draethodau, prosiectau ac arholiadau nas gwelwyd o’r blaen.



10.3 : Transferable/Key skills


Information provided by Department of Geography and Earth Sciences:

Ar ôl cwblhau’r rhaglen bydd y myfyriwr yn gallu cymryd cyfrifoldeb amdanynt eu hunain a’u gwaith. Bydd y myfyriwr yn medru dangos gallu yn y sgiliau allweddol canlynol sy’n drosglwyddadwy i gyd-destun y tu allan i academia: D1 Gweithio’n annibynnol D2 Gweithio fel rhan o dîm D3 Parchu safbwyntiau, credoau, barn a gwerthoedd eraill D4 Gwrando ar siaradwyr eraill, a thrafod â hwy D5 Cyfathrebu’n effeithiol ar lafar mewn ystod o sefyllfaoedd, yn cynnwys trafodaethau a dadleuon grŵp a chyflwyniadau ffurfiol. D6 Cyfathrebu’n effeithiol yn ysgrifenedig mewn amrywiaeth o ffyrdd. D7 Defnyddio technolegau gwybodaeth i brosesu, cadw, a chyflwyno gwybodaeth, gan gynnwys taenlenni, cronfeydd data, prosesu geiriau, e-bost a’r we fyd-eang. D8 Darganfod a chael gafael ar wybodaeth, a’i threfnu a’i thrin o ffynonellau traddodiadol ac electronig, gan gynnwys llyfrgelloedd, adnoddau cyfrifiadurol ar-lein a’r we fyd-eang. D9 Rheoli amser a rheoli trefniadau eu gwaith eu hun. D10 Ymchwilio i faterion a datrys problemau D11 Addasu i newid D12 Gallu darllen, deall a dehongli ystod eang o ddeunydd ysgrifenedig. D13 Sgiliau arsylwi. D14 Coladu, prosesu, dehongli a chyflwyno data rhifiadol. D15 Nodi llwybrau gyrfa priodol a datblygu’r gallu i gystadlu’n effeithiol am gyfleoedd i gael swyddi. Dysgu: Nod y rhaglen yw hyrwyddo, datblygu a meithrin ymwybyddiaeth a medrau myfyrwyr yn y sgiliau trosglwyddadwy allweddol hyn – sgiliau y bydd myfyrwyr eisoes yn eu medru i raddau mwy neu lai. Mae rhai o’r sgiliau hyn yn rhan annatod o weithgareddau dysgu ar draws y rhaglen (D1, D4, a D7-D12). Datblygir eraill drwy fodiwlau a gweithgareddau dysgu penodol, gan gynnwys gwaith maes (D2, D10 a D13), dosbarthiadau ac ymarferion ymarferol/ labordy (D14), cyflwyniadau llafar (D5). Asesu: Mae asesu galluoedd myfyrwyr mewn perthynas â nifer o’r canlyniadau uchod (D6-D10 a D12) yn ganolog i’r meini prawf a ddefnyddir i werthuso ystod o ffurfiau asesu a ddefnyddir yn nhair lefel y cynllun gradd. Mae’r rhain yn cynnwys traethodau gwaith cwrs, ymarferion ymarferol, prosiectau gwaith maes, traethodau prosiect, prosiect ymchwil annibynnol a thraethodau a welir ymlaen llaw, nas gwelir ymlaen llaw a thraethodau arholiadau amser rhydd. Ar ben hynny, asesir nifer o’r sgiliau uchod yn benodol ar wahanol bwyntiau yn ystod y rhaglen trwy ystod o ddulliau, gan gynnwys y Prosiect Ymchwil annibynnol (D1), adroddiadau ar y prosiect gwaith maes grŵp (D2), cyflwyniad llafar ar y prosiect gwaith maes (D5), ymarferion gwaith maes (D13), ac ymarferion ymarferol (D14).

Information provided by Department of History and Welsh History:

  • D1 Arddangos arweiniad ac ysgogiad, hunangyfeiriad a hunangymhelliant

  • D2 Arddangos hyblygrwydd ac annibyniaeth barn

  • D3 Arddangos sgiliau cyflwyno a chyfathrebu effeithiol, ar lafar ac ar bapur

  • D4 Rheoli amser a chadw at ddyddiadau cau

  • D5 Chwilio a chanfod gwybodaeth mewn amrywiaeth eang o ffynonellau

  • D6 Rhoi ffurfiau amrywiol o wybodaeth (sy’n aml yn anghyflawn) yn eu cyd-destun, eu gwerthuso a’u croesgyfeirio

  • D7 Gweithio’n adeiladol mewn grwpiau, ac asesu gwerth a pherthnasedd syniadau a dadleuon eraill.

Dulliau a strategaethau dysgu/addysgu:

Mae’r Rhaglen yn datblygu’r rhinweddau hyn yn gynyddol, a thrwy nifer o ffyrdd. Dysgir 1 a 2 yn bennaf drwy baratoi traethodau a seminarau a a thrafodaethau seminar; dysgir 3 a 4 drwy ysgrifennu traethodau/prosiectau, a chyflwyno syniadau mewn dosbarthiadau seminarau. Datblygir 5 drwy bob ymarfer y gwneir gwaith ymchwil ar ei gyfer, gan gynnwys paratoi traethodau a seminarau. Mae 6-7 yn elfennau cryf ym mhob agwedd o’r Rhaglen.

Asesu:

Mae meini prawf marcio’r Rhaglen yn gwobrwyo safon a ddangosir drwy 1-3 a 5 a 6. Nid asesir 4 yn ffurfiol, ond cosbir gwaith cwrs a gyflwynir ar ôl y dyddiad cyflwyno a gytunwyd. Nid asesir 7 yn ffurfiol.



11 : Program Structures and requirements, levels, modules, credits and awards



BA Daearyddiaeth / Hanes Cymru [LVT1]

Academic Year: 2023/2024Joint Honours scheme - available from 1999/2000

Duration (studying Full-Time): 3 years
Last intake year: 2021/2022

Part 1 Rules

Year 1 Core (60 Credits)

Compulsory module(s).

Semester 1
DA10000

Byw mewn Byd Peryglus

DA10520

Newid a gwrthdaro: Cynhyrchu gofodau gwledig a threfol

Semester 2
DA10020

Byw mewn Byd Peryglus

GS14220

Place and Identity

Year 1 Core (40 Credits)

Compulsory module(s).

Semester 1
HA12120

Cyflwyno Hanes

Semester 2
HA10420

Cydio mewn Hanes: Ffynonellau a'u Haneswyr

Year 1 Options

RHAID i fyfyrwyr gymryd 20 credyd arall yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru:

Semester 1
HC11120

Concwest, Uno a Hunaniaeth yng Nghymru 1200-1800

HY11420

Medieval and Early Modern Britain and Europe, 1000-1800

HY11820

The Modern World, 1789 to the present

Semester 2
HA11420

Ewrop a'r Byd, 1000-2000

HC11820

Cymdeithas, Pobl a Gwleidyddiaeth: Cymru, 1800-1999

HY12420

Europe and the World, 1000-2000

WH11720

People, Power and Identity: Wales 1200-1999

Part 2 Rules

Year 2 Core (20 Credits)

Compulsory module(s).

Semester 1
DA25400

Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes

Semester 2
DA25420

Dylunio Ymchwil a Sgiliau Gwaith Maes

Year 2 Options

RHAID i holl fyfyrwyr yr Ail Flwyddyn gymryd modiwl CRAIDD Rhan Dau yr Adran:

Semester 1
HA20120

Llunio Hanes

Semester 2

Year 2 Options

RHAID i fyfyrwyr yr Ail Flwyddyn gymryd gwerth 40 credyd arall o fodiwlau yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru o blith y modiwlau SGILIAU (Semester Dau) a DEWISOL a restrwyd isod:

Semester 2
CY20720

Beirdd a Noddwyr: Llên a Hanes c.1300-1500

HY23120

Reading a Building

HY23420

History as myth-Making: the 'Myth of the Blitz'

HY24320

Interdisciplinary and decolonial history

HY24420

Seals in Their Context in Medieval England and Wales

HY24620

Victorian Visions: Exploring Nineteenth-Century Exhibitions

HY25020

Recounting Racism: Oral History and Modern American Race Relations.

Year 2 Options

Mae'n rhaid i fyfyrwyr ddewis 40 credyd o'r modiwlau isod:

Semester 1
DA20820

Astudio Cymru Gyfoes

GS22920

Placing Culture

GS23810

Quantitative Data Analysis

Semester 2
DA23020

Lleoli Gwleidyddiaeth

GS20410

Concepts for Geographers

GS28910

Geographical Perspectives on the Sustainable Society

Year 2 Options

Modiwl DEWISOL yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru:

Semester 1
HA29320

Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid

HC23520

Cymru a'r Tuduriaid

HY25520

Famine in Medieval England

HY26720

War, Politics and People: England in Context in the Fourteenth Century

HY28520

Between Revolution and Reform: China since 1800

HY28920

Roads to Modernity: Germany and Japan in the Age of Empires, 1860s-1930s

HY29120

Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene

HY29320

Culture, Society and the Victorians

WH23520

Wales under the Tudors

Semester 2
HA21820

Concro'r Byd: Twf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc

HA24520

Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu

HY22020

The British Isles in the Long Eighteenth Century

HY25620

Medieval England and Germany, c. 1050-1250

HY26520

The European Reformation

HY29220

From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948

HY29420

The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945

WH20120

Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417

Year 3 Core (20 Credits)

Compulsory module(s).

Semester 1
DA34200

Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/Prif Bwnc

Semester 2
DA34220

Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/Prif Bwnc

Year 3 Options

Mae'n rhaid i fyfyrwyr ddewis 40 credyd o'r modiwlau isod.

Semester 1
DA32220

Cenedlaetholdeb a chymdeithas

GS33320

Everyday Social Worlds

GS37520

Urban Risk and Environmental Resilience

GS37920

Memory Cultures: heritage, identity and power

Semester 2
DA31720

Rheoli'r Amgylchedd Gymreig

GS30020

The psychosocial century

GS36820

The Global Countryside: Geographical and Sociological Perspectives

GS39120

Contemporary Global Migration

Final Year Options

RHAID i fyfyrwyr y Flwyddyn Olaf gymryd gwerth 60 credyd o fodiwlau yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru o blith y modiwlau DEWISOL a restrwyd isod:

Semester 1
HA39320

Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid

HC33520

Cymru a'r Tuduriaid

HY35520

Famine in Medieval England

HY36720

War, Politics and People: England in Context in the Fourteenth Century

HY38520

Between Revolution and Reform: China since 1800

HY38920

Roads to Modernity: Germany and Japan in the Age of Empires, 1860s-1930s

HY39120

Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene

HY39320

Culture, Society and the Victorians

WH33520

Wales under the Tudors

Semester 2
HA31820

Concro'r Byd: Tŵf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc

HA34520

Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu

HY30120

The British Isles in the Long Eighteenth Century

HY35620

Medieval England and Germany, c. 1050-1250

HY36520

The European Reformation

HY39220

From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948

HY39420

The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945

WH30120

Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417

Available both years Electives

Mae'r Adran Hanes a Hanes Cymru yn disgwyl i fyfyrwyr ar gynlluniau cyfrwng Cymraeg astudio o leiaf 60 credyd y flwyddyn drwy gyfrwng y Gymraeg (40 credyd i fyfyrwyr anrhydedd is-bwnc). Cofier hefyd fod yn rhaid i fyfyrwyr sydd wedi derbyn ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol astudio 80 credyd y flwyddyn trwy gyfrwng y Gymraeg.


12 : Support for students and their learning
Every student is allocated a Personal Tutor. Personal Tutors have an important role within the overall framework for supporting students and their personal development at the University. The role is crucial in helping students to identify where they might find support, how and where to seek advice and how to approach support to maximise their student experience. Further support for students and their learning is provided by Information Services and Student Support and Careers Services.

13 : Entry Requirements
Details of entry requirements for the scheme can be found at http://courses.aber.ac.uk

14 : Methods for evaluating and improving the quality and standards of teaching and learning
All taught study schemes are subject to annual monitoring and periodic review, which provide the University with assurance that schemes are meeting their aims, and also identify areas of good practice and disseminate this information in order to enhance the provision.

15 : Regulation of Assessment
Academic Regulations are published as Appendix 2 of the Academic Quality Handbook: https://www.aber.ac.uk/en/aqro/handbook/app-2/.

15.1 : External Examiners
External Examiners fulfill an essential part of the University’s Quality Assurance. Annual reports by External Examiners are considered by Faculties and Academic Board at university level.

16 : Indicators of quality and standards
The Department Quality Audit questionnaire serves as a checklist about the current requirements of the University’s Academic Quality Handbook. The periodic Department Reviews provide an opportunity to evaluate the effectiveness of quality assurance processes and for the University to assure itself that management of quality and standards which are the responsibility of the University as a whole are being delivered successfully.