Programme Specifications

Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd


1 : Awarding Institution / Body
Aberystwyth University

2a : Teaching Institution / University
Aberystwyth University

2b : Work-based learning (where appropriate)


Information provided by Department of Welsh:



3a : Programme accredited by
Aberystwyth University

3b : Programme approved by
Aberystwyth University

4 : Final Award
Bachelor of Arts

5 : Programme title
Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd

6 : UCAS code
Q562

7 : QAA Subject Benchmark


Information provided by Department of Welsh:

Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.



8 : Date of publication


Information provided by Department of Welsh:

Medi 2023



9 : Educational aims of the programme


Information provided by Department of Welsh:

  • Rhoi i’r myfyrwyr y cyfle i astudio’r iaith Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd eraill a’u llenyddiaethau ar wastad academaidd uchel, gan roi iddynt y moddion i’w deall, eu dadansoddi a’u gwerthfawrogi fel rhan ganolog o hanes meddwl,dychymyg a mynegiant y Cymry a’r cenhedloedd eraill.

  • Meithrin mewn myfyrwyr y gallu i adnabod teithi’r iaith Gymraeg a’r ieithoedd Celtaidd, a’u galluogi i’w mynegi eu hunain ynddynt, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn hyderus, yn rhugl ac yn gywir.

  • Cynorthwyo myfyrwyr i ddeall ac i werthfawrogi grym mynegiannol iaith.

  • Meithrin dealltwriaeth o’r broses greadigol ac o werth gweithiau llenyddol.

  • Meithrin mewn myfyrwyr y gallu i feddwl drostynt eu hunain, i feithrin barn feirniadol a golygwedd hanesyddol, a, lle bo’n berthnasol, i feithrin eu doniau llenyddol.

  • Ennyn mewn myfyrwyr frwdfrydedd tuag at y pwnc.

  • Darparu profiad cyffrous a boddhaus o ran dysgu ac addysgu.

  • Meithrin sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn berthnasol i ddatblygiad personol y myfyrwyr ac a fydd yn gaffaeliad iddynt pan gyflogir hwy maes o law.

  • Paratoi myfyrwyr ar gyfer ymateb i ofynion cyflogwyr mewn gyrfaoedd lle byddant yn arddel cymhwyster yn y Gymraeg neu yn yr ieithoedd Celtaidd eraill a lle disgwylir iddynt ddefnyddio’r ieithoedd yn gyson ar wastad uchel.

  • Gosod sylfaen ar gyfer astudio pellach o fewn cwmpas y pwnc ei hun ac o fewn meysydd perthynol.



10 : Intended learning outcomes


Information provided by Department of Welsh:

Canlyniadau Dysgu arfaethedig - mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, doniau a nodweddion eraill yn y meysydd canlynol:



10.1 : Knowledge and understanding


Information provided by Department of Welsh:

  • A1. Gwybodaeth drylwyr o deithi'r iaith Gymraeg a'r ieithoedd Celtaidd.

  • A2. Gwybod sut i ddisgrifio a dadansoddi iaith gan ddefnyddio'r eirfa dechnegol briodol.

  • A3. Ymwybyddiaeth gyffredinol o ddatblygiad yr iaith Gymraeg a'r ieithoedd Celtaidd drwy'r oesoedd ac o'u prif gyfnodau hanesyddol.

  • A4. Gwybodaeth o lenyddiaeth Gymraeg a Cheltaidd hen, diweddar a modern.

  • A5. Gwybodaeth ynghylch hanes llenyddiaeth Gymraeg a Cheltaidd ac o'r ffactorau hanesyddol, cymdeithasol a deallusol a ddylanwadodd arni drwy'r oesoedd.

  • A6. Gwybodaeth sut i drin gweithiau llenyddol yn feirniadol, gan ddefnyddio geirfa dechnegol lle bo hynny'n briodol.

  • A7. Adnabyddiaeth o wahanol ddulliau a genres llenyddol a'r teithi a'r nodweddion a berthyn iddynt.

  • A8. Ymwybyddiaeth o'r gwahanol ddulliau o astudio llenyddiaeth ac iaith, gan gynnwys amgyffrediad o berthnasedd cysyniadau beirniadol.

  • A9. Gwybodaeth ynghylch y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth Gymraeg a Cheltaidd a llenyddiaeth mewn ieithoedd eraill ac o le testunau llenyddol Cymraeg a Cheltaidd o fewn patrymau diwylliannol rhyngwladol.

  • A10. Ymwybyddiaeth o swyddogaeth iaith a llenyddiaeth mewn perthynas â meithrin cynnal a datblygu'r hunaniaeth genedlaethol Gymreig a Cheltaidd.

  • A11. Ymwybyddiaeth o sefyllfa gymdeithasol bresennol yr ieithoedd ac o'r dulliau a ddefnyddir i'w hyrwyddo a'u hadfer.

  • A12. Cynefindra â ffynonellau cyfeirio safonol yn ymwneud â'r Gymraeg a'r ieithoedd Celtaidd a'u diwylliant, ar ffurf brintiedig ac electronig.

Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos canlyniadau dysgu a anelir atynt:

Darlithoedd; darllen dan gyfarwyddyd; seminarau; dosbarthiadau tiwtorial; dosbarthiadau iaith; dosbarthiadau darllen testun; gweithdai; paratoi ac ysgrifennu traethodau; gweithio ar draethawd hir neu brosiect; rhoi cyflwyniadau a thrafod cyflwyniadau myfyrwyr eraill; gwaith maes.

Dull asesu:

Arholiadau ysgrifenedig; profion llafar; gwaith cwrs (yn bennaf, traethodau); gwaith prosiect; profion iaith; traethawd estynedig; gwaith ffolio (gan gynnwys ysgrifennu creadigol, ymarferion iaith).



10.2 : Skills and other attributes


Information provided by Department of Welsh:

  • B1. Sgilliau ieithyddol ymarferol a fydd yn cynnwys y gallu i drafod pynciau cymhleth yn raenus, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

  • B2. Medrau dadansoddi iaith a'r defnydd ohoni mewn amrywiol sefyllfaoedd.

  • B3. Y gallu i gynnull ac i gyfleu gwybodaeth ynghylch testunau llenyddol ac i ymdrin â hwy yn feirniadol yn ysgrifenedig ac ar lafar.

  • B4. Y gallu i ymateb yn briodol i'r defnydd o iaith ac o'r dychymyg mewn llenyddiaeth.

  • B5. Y gallu i ystyried llenyddiaeth yn ei chyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a syniadol.

  • B6. Y gallu i adnabod confensiynau llenyddol ac i werthfawrogi eu defnydd a'u swyddogaeth mewn perthynas â genres llenyddol arbennig.

  • B7. Llunio llyfryddiaeth a chyfeeirio mewn modd safonol a chyson at ffynonellau.

Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:

Darlithoedd; darllen dan gyfarwyddyd; seminarau; dosbarthiadau tiwtorial; dosbarthiadau iaith; dosbarthiadau dallen testun; gweithdai; paratoi ac ysgrifennu traethodau; gweithio ar draethawd hir neu brosiect; rhoi cyflwyniadau a thrafod cyflwyniadau myfyrwyr eraill; gwaith maes.

Dull asesu:

Arholiadau ysgrifenedig; profion llafar; gwaith cwrs; (yn bennaf, traethodau); gwaith prosiect; profion iaith; traethawd estynedig; gwaith ffolio (gan gynnwys ysgrifennu creadigol, ymarferion iaith).



10.3 : Transferable/Key skills


Information provided by Department of Welsh:

  • D1. Gallu mynegiant graenus yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig.

  • D2. Gallu i gyfleu dadleuon yn gydlynus ac yn groyw ac mewn modd argyhoeddiadol.

  • D3. Gallu i feddwl yn annibynnol.

  • D4. Gallu i ymagweddu'n feirniadol ac i ddadansoddi a chrynhoi dadleuon a safbwyntiau a gyflwynir gan eraill.

  • D5. Gallu i weithio'n annibynnol ac i gywain gwybodaeth yn drefnus a phwrpasol o amryw ffynonellau, i'w chloriannu'n feirniadol gan ddethol elfennau arwyddocaol a dilys, a'i chyflwyno i eraill ar ffurf gydlynus ac ystyrlon.

  • D6. Gallu i ddeall ac i ddatblygu cysyniadau cymhleth ac i ymdrin â hwynt yn feirniadol ac yn ddadansaddol.

  • D7. Gallu i weithio yn fanwl ac yn drylwyr.

  • D8. Medrau trefniadol mewn perthynas â thasgau gosodedig, gan gynnwys rheoli amser yn effeithiol.

  • D9. Sgiliau technoleg gwybodaeth sylfaenol, gan gynnwys prosesu geiriau, a'r gallu i gywain gwybodaeth o ffynonellau electronig;

  • D10. Golygu gwaith cyn ei gyflwyno mewn diwyg clir a graenus.

  • D11. Gallu i ddeall hanfodion deunydd a luniwyd mewn iaith arall/ieithoedd eraill ac i'w gyfieithu neu ei ailfynegi yn y Gymraeg.

Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:

Yn gyffredinol dysgir sgiliau trosglwyddadwy/allweddol drwy ddilyn y modiwlau a astudir, hynny yw, y mae eu meithrin yn gysylltiedig â dulliau dysgu'r modiwlau.

Ymhlith y dulliau hynny y mae darlithiau, darllen dan gyfarwyddyd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial, paratoi ac ysgrifennu traethodau, a rhoi cyflwyniadau.

Asesir y sgiliau hyn mewn arholiadau ffurfiol, profion iaith, gwaith cwrs, ac asesu llafar. Y mae mesur gallu'r myfyrwyr i'w mynegi eu hunain yn raenus yn y Gymraeg yn rhan o asesu pob modiwl.



11 : Program Structures and requirements, levels, modules, credits and awards



BA Cymraeg a'r Ieithoedd Celtaidd [Q562]

Academic Year: 2023/2024Single Honours scheme - available from 2005/2006

Duration (studying Full-Time): 3 years

Part 1 Rules

Year 1 Timetable Core/Student Option

Iaith Gyntaf: Rhaid i'r myfyrwyr astudio o leiaf 60 credyd CY/GC/IR/LL gan gynnwys o leiaf 20 credyd CY allan o fodiwlau craidd y Radd Gymraeg + o leiaf 20 credyd naill ai GC/IR neu LL

Semester 1
CY11120

Themau a Ffigurau Llen c.550-1900

CY11400

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

CY13120

Sgiliau Astudio Iaith a Llên

GC10100

Gwyddeleg Modern: Cyflwyniad

GC11800

Cymru a'r Celtiaid

IR11720

Introduction to the Literature of Gaelic Ireland

Semester 2
CY11420

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

GC10120

Gwyddeleg Modern: Cyflwyniad

GC11820

Cymru a'r Celtiaid

Year 1 Timetable Core/Student Option

Ail Iaith: Rhaid i'r myfyrwyr astudio o leiaf 60 credyd CY/GC/IR/LL gan gynnwys o leiaf 20 credyd CY allan o fodiwlau craidd y radd Gymraeg + o leiaf 20 credyd naill ai GC/IR neu LL

Semester 1
CY11500

Llenyddiaeth Gymraeg: cyfoes a hanesyddol

CY11700

Ysgrifennu Cymraeg Graenus

CY13120

Sgiliau Astudio Iaith a Llên

GC10100

Gwyddeleg Modern: Cyflwyniad

GC11800

Cymru a'r Celtiaid

IR11720

Introduction to the Literature of Gaelic Ireland

IR11800

The Celts: A Contested Legacy

Semester 2
CY11520

Llenyddiaeth Gymraeg: cyfoes a hanesyddol

CY11720

Ysgrifennu Cymraeg Graenus

GC10120

Gwyddeleg Modern: Cyflwyniad

GC11820

Cymru a'r Celtiaid

IR11820

The Celts: A Contested Legacy

Part 2 Rules

Year 2 Timetable Core/Student Option

Mae Gloywi Iaith yn orfodol i fyfyrwyr Iaith Gyntaf yn eu hail flwyddyn.

Semester 1
CY20100

Gloywi Iaith

Semester 2
CY20120

Gloywi Iaith

Year 2 Timetable Core/Student Option

Mae Cymraeg Llyfr a Llafar yn orfodol i fyfyrwyr Ail Iaith yn eu hail flwyddyn.

Semester 1
CY31100

Gloywi Iaith yr Ail Iaith

Semester 2
CY31120

Gloywi Iaith yr Ail Iaith

Final Year Timetable Core/Student Option

Mae'r modiwl yma yn orfodol yn y drydedd flwyddyn i fyfyrwyr Ail Iaith.

Semester 1
CY31100

Gloywi Iaith yr Ail Iaith

Semester 2
CY31120

Gloywi Iaith yr Ail Iaith

Final Year Options

Yn semester 1, blwyddyn 3, byddwch yn astuio Gwyddeleg neu Lydaweg mewn Prifysgol Dramor, trwy'r rhaglen ERASMWS+.

Semester 1
CYS0000

Modiwl Dramor Ffug

Semester 2

Final Year Options

Ar gael yn y flwyddyn olaf yn unig

Semester 1
CY35600

Y Gymraeg yn y Gweithle

Semester 2
CY35620

Y Gymraeg yn y Gweithle

Available both years Options

Dewisiwch o leiaf 160 credyd (Iaith Gyntaf) neu 140 credyd (Ail Iaith) CY/GC/IR/LL gan gynnwys oleiaf 60 credyd CY + o leiaf 60 credyd naill ai GC neu LL

Semester 1
GC22100

Gwyddeleg Modern (Iaith a Llên) 1+2

Semester 2
GC22120

Gwyddeleg Modern (Iaith a Llên) 1+2

GC33520

Gwyddeleg Modern (iaith a llen) 3 + 4


12 : Support for students and their learning
Every student is allocated a Personal Tutor. Personal Tutors have an important role within the overall framework for supporting students and their personal development at the University. The role is crucial in helping students to identify where they might find support, how and where to seek advice and how to approach support to maximise their student experience. Further support for students and their learning is provided by Information Services and Student Support and Careers Services.

13 : Entry Requirements
Details of entry requirements for the scheme can be found at http://courses.aber.ac.uk

14 : Methods for evaluating and improving the quality and standards of teaching and learning
All taught study schemes are subject to annual monitoring and periodic review, which provide the University with assurance that schemes are meeting their aims, and also identify areas of good practice and disseminate this information in order to enhance the provision.

15 : Regulation of Assessment
Academic Regulations are published as Appendix 2 of the Academic Quality Handbook: https://www.aber.ac.uk/en/aqro/handbook/app-2/.

15.1 : External Examiners
External Examiners fulfill an essential part of the University’s Quality Assurance. Annual reports by External Examiners are considered by Faculties and Academic Board at university level.

16 : Indicators of quality and standards
The Department Quality Audit questionnaire serves as a checklist about the current requirements of the University’s Academic Quality Handbook. The periodic Department Reviews provide an opportunity to evaluate the effectiveness of quality assurance processes and for the University to assure itself that management of quality and standards which are the responsibility of the University as a whole are being delivered successfully.