Programme Specifications

Cymraeg Proffesiynol


1 : Awarding Institution / Body
Aberystwyth University

2a : Teaching Institution / University
Aberystwyth University

2b : Work-based learning (where appropriate)


Information provided by Department of Welsh:



3a : Programme accredited by
Aberystwyth University

3b : Programme approved by
Aberystwyth University

4 : Final Award
Bachelor of Arts

5 : Programme title
Cymraeg Proffesiynol

6 : UCAS code
Q5P0

7 : QAA Subject Benchmark


Information provided by Department of Welsh:

Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.



8 : Date of publication


Information provided by Department of Welsh:

Medi 2023



9 : Educational aims of the programme


Information provided by Department of Welsh:

  • Rhoi i’r myfyrwyr y cyfle i astudio’r iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth ar wastad academaidd uchel, gan roi iddynt y moddion i’w deall, eu dadansoddi a’u gwerthfawrogi fel rhan ganolog o hanes meddwl, dychymyg a mynegiant y Cymry.

  • Meithrin mewn myfyrwyr y gallu i adnabod teithi’r iaith Gymraeg, a’u galluogi i’w mynegi eu hunain ynddi, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn hyderus, yn rhugl ac yn gywir.

  • Cynorthwyo myfyrwyr i ddeall ac i werthfawrogi grym mynegiannol iaith, yn arbennig mewn cyd-destun cyhoeddus a phrofesiynol.

  • Meithrin dealltwriaeth o’r broses greadigol ac o werth gweithiau llenyddol.

  • Meithrin mewn myfyrwyr y gallu i feddwl drostynt eu hunain, i feithrin barn feirniadol a golygwedd hanesyddol, ac i ysgrifennu Cymraeg addas i'w ddefnyddio mewn cyd-destun cyhoeddus a phrofesiynol.

  • Ennyn mewn myfyrwyr frwdfrydedd tuag at y pwnc.

  • Darparu profiad cyffrous a boddhaus o ran dysgu ac addysgu.

  • Meithrin sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn berthnasol i ddatblygiad personol y myfyrwyr ac a fydd yn gaffaeliad iddynt pan gyflogir hwy maes o law.

  • Paratoi myfyrwyr ar gyfer ymateb i ofynion cyflogwyr mewn gyrfaoedd lle byddant yn arddel cymhwyster yn y Gymraeg a lle disgwylir iddynt ddefnyddio’r iaith yn gyson ar wastad uchel.

  • Gosod sylfaen ar gyfer astudio pellach o fewn cwmpas y pwnc ei hun ac o fewn meysydd perthynol.



10 : Intended learning outcomes


Information provided by Department of Welsh:

Canlyniadau Dysgu arfaethedig - mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, doniau a nodweddion eraill yn y meysydd canlynol:



10.1 : Knowledge and understanding


Information provided by Department of Welsh:

  • A1. Gwybodaeth drylwyr o deithi’r iaith Gymraeg, yn enwedig fel t'i defnyddir mewn cyd-destun swyddogol a chyhoeddus.

  • A2. Gwybod sut i ddisgrifio a dadansoddi iaith gan ddefnyddio’r eirfa dechnegol briodol, yn arbennig felly mewn cyd-destun lle defnydir yr iaith mewn gweithle proffesiynol.

  • A3. Ymwybyddiaeth gyffredinol o ddatblygiad yr iaith Gymraeg drwy’r oesoedd ac o brif gyfnodau hanesyddol yr iaith, fel sail i'r ymwybyddiaeth o'r defnydd cyfoes ohoni mewn cymdeithas heddiw.

  • A4. Gwybodaeth o lenyddiaeth Gymraeg hen a diweddar fel cefndir i'r ymwybyddiaeth gyhoeddus o dreftadaeth lenyddol y Cymry.

  • A5. Gwybodaeth ynghylch hanes llenyddiaeth Gymraeg ac o’r ffactorau hanesyddol, cymdeithasol a deallusol a ddylanwadodd arni drwy’r oesoedd fel cefndir i'r ymwybyddiaeth gyhoeddus a'r defnydd o iaith mewn cyd-destun profesiynol.

  • A6. Gwybodaeth sut i drin yr iaith yn greadigol, gan ddefnyddio geirfa dechnegol lle bo hynny’n briodol.

  • A7. Adnabyddiaeth o wahanol gyweiriau'r iaith pan ddefnyddir hi mewn cyd-destun cyhoeddus a phroffesiynol.

  • A8. Ymwybyddiaeth o’r gwahanol ddulliau o astudio llenyddiaeth, gan gynnwys amgyffrediad o berthnasedd cysyniadau beirniadol.

  • A9. Gwybodaeth ynghylch y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth Gymraeg a llenyddiaeth mewn ieithoedd eraill ac o le testunau llenyddol Cymraeg o fewn patrymau diwylliannol rhyngwladol.

  • A10. Ymwybyddiaeth o swyddogaeth iaith a llenyddiaeth mewn perthynas â meithrin, cynnal a datblygu’r hunaniaeth genedlaethol Gymreig.

  • A11. Ymwybyddiaeth o sefyllfa gymdeithasol bresennol yr iaith ac o’r dulliau a ddefnyddir i’w hyrwyddo a’i hadfer.

  • A12. Cynefindra â ffynonellau cyfeirio safonol yn ymwneud â’r Gymraeg a’i diwylliant, ar ffurf brintiedig ac electronig.

Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:

Darlithoedd; darllen dan gyfarwyddyd; seminarau; dosbarthiadau tiwtorial; dosbarthiadau iaith; dosbarthiadau darllen testun; gweithdai; paratoi ac ysgrifennu traethodau; gweithio ar draethawd hir neu brosiect; rhoi cyflwyniadau a thrafod cyflwyniadau myfyrwyr eraill; gwaith maes.

Dull asesu:

Arholiadau ysgrifenedig; profion llafar; gwaith cwrs (yn bennaf, traethodau); gwaith prosiect; profion iaith; traethawd estynedig; gwaith ffolio (gan gynnwys ysgrifennu creadigol, ymarferion iaith, datganiadau i'r wasg, cyfweliadau, cyfieithiadau a chrynodebau)



10.2 : Skills and other attributes


Information provided by Department of Welsh:

  • B1. Sgiliau ieithyddol ymarferol a fydd yn cynnwys y gallu i drafod pynciau cymhleth yn raenus, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

  • B2. Medrau dadansoddi iaith a’r defnydd ohoni mewn cyd-destun cyhoeddus a phroffesiynol.

  • B3. Y gallu i gynnull ac i gyfleu gwybodaeth ynghylch y defnydd o'r iaith yn broffesiynol ac i ymdrin â hi yn feirniadol yn ysgrifenedig ac ar lafar.

  • B4. Y gallu i ymateb yn briodol i’r defnydd o iaith mewn bywyd ac mewn llenyddiaeth.

  • B5. Y gallu i ystyried llenyddiaeth ac iaith yn e u cyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a syniadol.

  • B6. Y gallu i adnabod confensiynau ieithyddol ac i werthfawrogi eu defnydd a’u swyddogaeth mewn perthynas â chyd-destunau cyhoeddus a phroffesiynol.

  • B7. Llunio llyfryddiaethau a chyfeirio mewn modd safonol a chyson at ffynonellau.

Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:

Darlithoedd; darllen dan gyfarwyddyd; seminarau; dosbarthiadau tiwtorial; dosbarthiadau iaith; dosbarthiadau darllen testun; gweithdai; paratoi ac ysgrifennu traethodau; gweithio ar draethawd hir neu brosiect; rhoi cyflwyniadau a thrafod cyflwyniadau myfyrwyr eraill; gwaith maes.

Dull asesu:

Arholiadau ysgrifenedig; profion llafar; gwaith cwrs (yn bennaf, traethodau); gwaith prosiect; profion iaith; traethawd estynedig; gwaith ffolio (gan gynnwys ysgrifennu creadigol, ymarferion iaith, datganiadau i'r wasg, cyfweliadau, cyfieithiadau a chrynodebau).



10.3 : Transferable/Key skills


Information provided by Department of Welsh:

  • D1. Gallu mynegiant graenus yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig.

  • D2. Gallu i gyfleu dadleuon yn gydlynus ac yn groyw ac mewn modd argyhoeddiadol.

  • D3. Gallu i feddwl yn annibynnol.

  • D4. Gallu i ymagweddu’n feirniadol ac i ddadansoddi a chrynhoi dadleuon a safbwyntiau a gyflwynir gan eraill.

  • D5. Gallu i weithio’n annibynnol ac i gywain gwybodaeth yn drefnus a phwrpasol o amryw ffynonellau, i’w chloriannu’n feirniadol gan ddethol elfennau arwyddocaol a dilys, a’i chyflwyno i eraill ar ffurf gydlynus ac ystyrlon.

  • D6. Gallu i ddeall ac i ddatblygu cysyniadau cymhleth ac i ymdrin â hwynt yn feirniadol ac yn ddadansoddol.

  • D7. Gallu i weithio yn fanwl ac yn drylwyr.

  • D8. Medrau trefniadol mewn perthynas â thasgau gosodedig, gan gynnwys rheoli amser yn effeithiol.

  • D9. Sgiliau technoleg gwybodaeth sylfaenol, gan gynnwys prosesu geiriau, a’r gallu i gywain gwybodaeth o ffynonellau electronig.

  • D10. Golygu gwaith cyn ei gyflwyno mewn diwyg clir a graenus.

  • D11. Gallu i ddeall hanfodion deunydd a luniwyd mewn iaith arall/ieithoedd eraill ac i’w gyfieithu i’r Gymraeg neu ei ailfynegi yn y Gymraeg.

Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:

Yn gyffredinol dysgir sgiliau trosglwyddadwy/allweddol drwy ddilyn y modiwlau a astudir, hynny yw, y mae eu meithrin yn gysylltiedig â dulliau dysgu’r modiwlau.

Ymhlith y dulliau hynny y mae darlithiau, darllen dan gyfarwyddyd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial, paratoi ac ysgrifennu traethodau, a rhoi cyflwyniadau.

Asesir y sgiliau hyn mewn arholiadau ffurfiol, profion iaith, gwaith cwrs, ac asesu llafar.

Y mae mesur gallu’r myfyrwyr i’w mynegi eu hunain yn raenus yn y Gymraeg yn rhan o asesu pob modiwl.



11 : Program Structures and requirements, levels, modules, credits and awards



BA Cymraeg Proffesiynol [Q5P0]

Academic Year: 2023/2024Single Honours scheme - available from 2011/2012

Duration (studying Full-Time): 3 years

Part 1 Rules

Year 1 Core (40 Credits)

Compulsory module(s).

Semester 1
CY11400

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

CY12700

Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol

Semester 2
CY11420

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

CY12720

Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol

Year 1 Options

Rhaid dewis modiwlau gwerth o leiaf 20 credyd o blith y canlynol:

Semester 1
CY11120

Themau a Ffigurau Llen c.550-1900

CY13120

Sgiliau Astudio Iaith a Llên

GC10100

Gwyddeleg Modern: Cyflwyniad

GC11800

Cymru a'r Celtiaid

IR11720

Introduction to the Literature of Gaelic Ireland

Semester 2
CY11220

Beirdd a Llenorion o 1900 hyd heddiw

GC10120

Gwyddeleg Modern: Cyflwyniad

GC11820

Cymru a'r Celtiaid

Part 2 Rules

Year 2 Core (60 Credits)

Compulsory module(s).

Semester 1
CY20100

Gloywi Iaith

CY25600

Y Gymraeg yn y Gweithle

CY25800

Bro a Bywyd: Dehongli Treftadaeth Lenyddol y Cymry

Semester 2
CY20120

Gloywi Iaith

CY25620

Y Gymraeg yn y Gweithle

CY25820

Bro a Bywyd: Dehongli Treftadaeth Lenyddol y Cymry

Year 2 Options

Dewiswch 60 o gredydau o blith modiwlau Lefel 2 yr Adran

Final Year Core (60 Credits)

Compulsory module(s).

Semester 1
CY35800

Bro a Bywyd: Dehongli Treftadaeth Lenyddol y Cymry

CY35900

Prosiect Hir

Semester 2
CY35820

Bro a Bywyd: Dehongli Treftadaeth Lenyddol y Cymry

CY35940

Prosiect Hir

Final Year Options

Dewiswch 60 o gredydau o blith modiwlau Lefel 3 yr Adran


12 : Support for students and their learning
Every student is allocated a Personal Tutor. Personal Tutors have an important role within the overall framework for supporting students and their personal development at the University. The role is crucial in helping students to identify where they might find support, how and where to seek advice and how to approach support to maximise their student experience. Further support for students and their learning is provided by Information Services and Student Support and Careers Services.

13 : Entry Requirements
Details of entry requirements for the scheme can be found at http://courses.aber.ac.uk

14 : Methods for evaluating and improving the quality and standards of teaching and learning
All taught study schemes are subject to annual monitoring and periodic review, which provide the University with assurance that schemes are meeting their aims, and also identify areas of good practice and disseminate this information in order to enhance the provision.

15 : Regulation of Assessment
Academic Regulations are published as Appendix 2 of the Academic Quality Handbook: https://www.aber.ac.uk/en/aqro/handbook/app-2/.

15.1 : External Examiners
External Examiners fulfill an essential part of the University’s Quality Assurance. Annual reports by External Examiners are considered by Faculties and Academic Board at university level.

16 : Indicators of quality and standards
The Department Quality Audit questionnaire serves as a checklist about the current requirements of the University’s Academic Quality Handbook. The periodic Department Reviews provide an opportunity to evaluate the effectiveness of quality assurance processes and for the University to assure itself that management of quality and standards which are the responsibility of the University as a whole are being delivered successfully.