Programme Specifications

Cymraeg / Astudiaethau Ffilm a Theledu


1 : Awarding Institution / Body
Aberystwyth University

2a : Teaching Institution / University
Aberystwyth University

2b : Work-based learning (where appropriate)


Information provided by Department of Welsh:


Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:



3a : Programme accredited by
Aberystwyth University

3b : Programme approved by
Aberystwyth University

4 : Final Award
Bachelor of Arts

5 : Programme title
Cymraeg / Astudiaethau Ffilm a Theledu

6 : UCAS code
QWM6

7 : QAA Subject Benchmark


Information provided by Department of Welsh:

Datganiad Meincnodi’r Gymraeg gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.


Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:

Dance, Drama and Performance Studies

Dance, Drama and Performance Studies



8 : Date of publication


Information provided by Department of Welsh:

Medi 2023


Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:

September 2023

9 : Educational aims of the programme


Information provided by Department of Welsh:

  • Rhoi i’r myfyrwyr y cyfle i astudio’r iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth ar wastad academaidd uchel, gan roi iddynt y moddion i’w deall, eu dadansoddi a’u gwerthfawrogi fel rhan ganolog o hanes meddwl, dychymyg a mynegiant y Cymry.

  • Meithrin mewn myfyrwyr y gallu i adnabod teithi’r iaith Gymraeg, a’u galluogi  i’w mynegi eu hunain ynddi, ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn hyderus, yn rhugl ac  yn gywir

  • Cynorthwyo myfyrwyr i ddeall ac i werthfawrogi grym mynegiannol iaith.

  • Meithrin dealltwriaeth o’r broses greadigol ac o werth gweithiau llenyddol.

  • Meithrin mewn myfyrwyr y gallu i feddwl drostynt eu hunain, i feithrin barn feirniadol a golygwedd hanesyddol, a, lle bo’n berthnasol, i feithrin eu doniau llenyddol.

  • Ennyn mewn myfyrwyr frwdfrydedd tuag at y pwnc.

  • Darparu profiad cyffrous a boddhaus o ran dysgu ac addysgu.

  • Meithrin sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn berthnasol i ddatblygiad personol y myfyrwyr ac a fydd yn gaffaeliad iddynt pan gyflogir hwy maes o law.

  • Paratoi myfyrwyr ar gyfer ymateb i ofynion cyflogwyr mewn gyrfaoedd lle byddant yn arddel cymhwyster yn y Gymraeg a lle disgwylir iddynt ddefnyddio’r iaith yn gyson ar wastad uchel.

  • Gosod sylfaen ar gyfer astudio pellach o fewn cwmpas y pwnc ei hun ac o fewn meysydd perthynol.

Y mae’r amcanion uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.

 

 


Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:

  • Cyflwyno a datblygu cyfres o sgiliau technegol, dehongliadol, beirniadol academaidd, cyfathrebol a chreadigol ym maes astudiaethau ffilm a theledu

  • Darparu cyfleon i ddadansoddi ffilm, teledu a chyfryngau fel prosesau a chynnyrch yn ogystal â datblygu a meithrin ymwybyddiaeth o’r cyfryngau fel moddau o gynrychioli ac o ddeall a dehongli’r byd

  • Amlygu, dehongli a chymhwyso cynnyrch cyfryngol Cymreig o fewn ei gyd-destun diwylliannol, gwleidyddol, ieithyddol a chymdeithasol

  • Cynnig cyfleon i fyfyrwyr fanteisio ar brofiadau ymarferol gan gynnwys prosiectau unigol neu mewn grwpiau penodol, a chynnig cyfleon cyfatebol ym meysydd damcaniaeth ac ymchwil annibynnol

  • Datblygu gwybodaeth a medrau i ystyried yn feirniadol safle, swyddogaeth ac effaith cyfryngau newydd a chydgyfeiriant o fewn cymdeithas gyfoes

  • Cynorthwyo’r broses o ddatblygu sgiliau deallusol personol sydd yn angenrheidiol ar gyfer ymchwil annibynnol mewn cyd-destun academaidd

  • Cynnig cyfleon i gynorthwyo’r broses o ddatblygu sgiliau deallusol rhyngbersonol a sgiliau gwaith tîm sydd yn angenrheidiol mewn prosiectau cydweithredol

  • Cynnig cyfuniadau ar agweddau damcaniaethol ac ymarferol wrth astudio ffilm a theledu

  • Paratoi llwybrau ar gyfer astudio pellach yn y meysydd hyn.



10 : Intended learning outcomes


Information provided by Department of Welsh:

Canlyniadau Dysgu arfaethedig - mae’r rhaglen yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth a dealltwriaeth, sgiliau, doniau a nodweddion eraill yn y meysydd canlynol:


Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:



10.1 : Knowledge and understanding


Information provided by Department of Welsh:

  • A1. Gwybodaeth drylwyr o deithi’r iaith Gymraeg.

  • A2. Gwybod sut i ddisgrifio a dadansoddi iaith gan ddefnyddio’r eirfa dechnegol briodol.

  • A3. Ymwybyddiaeth gyffredinol o ddatblygiad yr iaith Gymraeg drwy’r oesoedd ac o brif gyfnodau hanesyddol yr iaith.

  • A4. Gwybodaeth o lenyddiaeth Gymraeg hen a diweddar.

  • A5. Gwybodaeth ynghylch hanes llenyddiaeth Gymraeg ac o’r ffactorau hanesyddol, cymdeithasol a deallusol a ddylanwadodd arni drwy’r oesoedd.

  • A6. Gwybodaeth sut i drin gweithiau llenyddol yn feirniadol, gan ddefnyddio geirfa dechnegol lle bo hynny’n briodol.

  • A7. Adnabyddiaeth o wahanol ddulliau a genres llenyddol a’r teithi a’r nodweddion a berthyn iddynt.

  • A8. Ymwybyddiaeth o’r gwahanol ddulliau o astudio llenyddiaeth, gan gynnwys amgyffrediad o berthnasedd  cysyniadau beirniadol.

  • A9. Gwybodaeth ynghylch y cysylltiadau rhwng llenyddiaeth Gymraeg a llenyddiaeth mewn ieithoedd eraill ac o le testunau llenyddol Cymraeg o fewn patrymau diwylliannol rhyngwladol.

  • A10. Ymwybyddiaeth o swyddogaeth iaith a llenyddiaeth mewn perthynas â meithrin, cynnal a datblygu’r hunaniaeth genedlaethol Gymreig.

  • A11. Ymwybyddiaeth o sefyllfa gymdeithasol bresennol yr iaith ac o’r dulliau a ddefnyddir i’w hyrwyddo a’i hadfer.

  • A12. Cynefindra â ffynonellau cyfeirio safonol yn ymwneud â’r Gymraeg a’i diwylliant, ar ffurf brintiedig ac electronig.

Y mae’r elfennau a nodir uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.

Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:

Darlithoedd; darllen dan gyfarwyddyd; seminarau; dosbarthiadau tiwtorial; dosbarthiadau iaith; dosbarthiadau darllen testun; gweithdai; paratoi ac ysgrifennu traethodau; gweithio ar draethawd hir neu brosiect; rhoi cyflwyniadau a thrafod cyflwyniadau myfyrwyr eraill; gwaith maes.

Dull asesu:

Arholiadau ysgrifenedig; profion llafar; gwaith cwrs (yn bennaf, traethodau); gwaith prosiect; profion iaith; traethawd estynedig; gwaith ffolio (gan gynnwys ysgrifennu creadigol, ymarferion iaith).


Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:

Bwriedir i fyfyrwyr ddatblygu a dangos gwybodaeth, dealltwriaeth a dirnadaeth:

  • o’r cysyniadau a’r damcaniaethau allweddol wrth astudio a dadansoddi cynnyrch y diwydiant ffilm, teledu a’r cyfryngau

  • o’r strwythurau a’r prosesau sydd ynghlwm â’r cyfryw ddiwydiannau

  • o swyddogaeth a chyfraniad y cyfryngau mewn cyd-destun diwylliannol, cymdeithasol a gwleidyddol

  • o agweddau ar hanes a datblygiad y cyfryngau, yn benodol yng Nghymru, y Deyrnas Gyfunol, Ewrop, yr Unol Daleithiau ac, yn achlysurol, y tu hwnt i hynny

  • o gynnyrch y cyfryngau mewn perthynas ag arddull, genre, cod ac arfer, wrth greu ac wrth ddefnyddio’r cynnyrch hwnnw

  • o’r disgyrsiau a gaiff eu creu a’u cynnal gan a thrwy’r cyfryngau

  • o brosesau, arferion, rheolau a phroblemau a geir wrth greu cynnyrch cyfryngol creadigol, mewn grŵp a/neu fesul unigolyn.



10.2 : Skills and other attributes


Information provided by Department of Welsh:

  • B1. Sgiliau ieithyddol ymarferol a fydd yn cynnwys y gallu i drafod pynciau cymhleth yn raenus, yn ysgrifenedig ac ar lafar.

  • B2. Medrau dadansoddi iaith a’r defnydd ohoni mewn amrywiol sefyllfaoedd.

  • B3. Y gallu i gynnull ac i gyfleu gwybodaeth ynghylch testunau llenyddol ac i ymdrin â hwy yn feirniadol yn ysgrifenedig ac ar lafar.

  • B4. Y gallu i ymateb yn briodol i’r defnydd o iaith ac o’r dychymyg mewn llenyddiaeth.

  • B5. Y gallu i ystyried llenyddiaeth yn ei chyd-destun hanesyddol, cymdeithasol a syniadol.

  • B6. Y gallu i adnabod confensiynau llenyddol ac i werthfawrogi eu defnydd a’u swyddogaeth mewn perthynas â genres  llenyddol arbennig.

  • B7. Llunio llyfryddiaethau a chyfeirio mewn modd safonol a chyson at ffynonellau.        

   

Y mae’r elfennau a nodir uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch. 

Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:

Darlithoedd; darllen dan gyfarwyddyd; seminarau; dosbarthiadau tiwtorial; dosbarthiadau iaith; dosbarthiadau darllen testun; gweithdai; paratoi ac ysgrifennu traethodau; gweithio ar draethawd hir neu brosiect; rhoi cyflwyniadau a thrafod cyflwyniadau myfyrwyr eraill; gwaith maes.

Dull asesu:

Arholiadau ysgrifenedig; profion llafar; gwaith cwrs (yn bennaf, traethodau); gwaith prosiect; profion iaith; traethawd estynedig; gwaith ffolio (gan gynnwys ysgrifennu creadigol, ymarferion iaith).


Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:

Bwriedir i fyfyrwyr ddatblygu a dangos sgiliau deallusol:

  • Wrth archwilio ac astudio ystod o sefyllfaoedd ac o ffurfiau ar ffilm a theledu ac adnabod a dehongli eu hystyron a’u harwyddocâd, gan ddangos ymwybyddiaeth feirniadol o ‘ystyr’ a’r modd y’i creir yn y cyd-destun clyweledol

  • Wrth geisio canfod a chyflwyno ystod eang o ffynonellau priodol wrth ymchwilio a chyflwyno dadleuon ynghyd ag ystyried a thafoli gwybodaeth a honiadau o wybodaeth a gyflwynir yn y meysydd astudio o safbwynt eu statws, eu dilyniant, eu gwerth a’u gwreiddiau

  • Wrth gymhwyso geirfa feirniadol ac arbenigol i’r astudiaeth o’r meysydd hyn

  • Wrth gymhwyso dealltwriaeth o un cyd-destun i gyd-destun arall, boed o un cyfrwng i’r llall neu o un cyfnod hanesyddol, diwylliannol neu wleidyddol i’r llall

  • Wrth ffurfio, datblygu a gweithredu cynlluniau i greu cynyrchiadau ymarferol fel unigolion neu mewn grŵp.



10.3 : Transferable/Key skills


Information provided by Department of Welsh:

  • D1. Gallu mynegiant graenus yn y Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig.

  • D2. Gallu i gyfleu dadleuon yn gydlynus ac yn groyw ac mewn modd argyhoeddiadol.

  • D3. Gallu i feddwl yn annibynnol.

  • D4. Gallu i ymagweddu’n feirniadol ac i ddadansoddi a chrynhoi dadleuon a safbwyntiau a gyflwynir gan eraill.

  • D5. Gallu i weithio’n annibynnol ac i gywain gwybodaeth yn drefnus a phwrpasol o amryw ffynonellau, i’w chloriannu’n feirniadol gan ddethol elfennau arwyddocaol a dilys, a’i chyflwyno i eraill ar ffurf gydlynus ac ystyrlon.

  • D6. Gallu i ddeall ac i ddatblygu cysyniadau cymhleth ac i ymdrin â hwynt yn feirniadol ac yn ddadansoddol.

  • D7. Gallu i weithio yn fanwl ac yn drylwyr.

  • D8. Medrau trefniadol mewn perthynas â thasgau gosodedig, gan gynnwys rheoli amser yn effeithiol.

  • D9. Sgiliau technoleg gwybodaeth sylfaenol, gan gynnwys prosesu geiriau, a’r gallu i gywain gwybodaeth o ffynonellau electronig.

  • D10. Golygu gwaith cyn ei gyflwyno mewn diwyg clir a graenus.

  • D11. Gallu i ddeall hanfodion deunydd a luniwyd mewn iaith arall/ieithoedd eraill ac i’w gyfieithu i’r Gymraeg neu ei ailfynegi yn y Gymraeg.

Y mae’r elfennau a nodir uchod yn gyson â Datganiad Meincnodi’r Gymraeg a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch. 

Y dulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir i gyflawni a dangos y canlyniadau dysgu yr anelir atynt:

Yn gyffredinol dysgir sgiliau trosglwyddadwy/allweddol drwy ddilyn y modiwlau a astudir, hynny yw, y mae eu meithrin yn gysylltiedig â dulliau dysgu’r modiwlau.    

Ymhlith y dulliau hynny y mae darlithiau, darllen dan gyfarwyddyd, seminarau, dosbarthiadau tiwtorial, paratoi ac ysgrifennu traethodau, a rhoi cyflwyniadau.

Asesir y sgiliau hyn mewn arholiadau ffurfiol, profion iaith, gwaith cwrs, ac asesu llafar.

Y mae mesur gallu’r myfyrwyr i’w mynegi eu hunain yn raenus yn y Gymraeg yn rhan o asesu pob modiwl. 


Information provided by Department of Theatre, Film and Television Studies:

  • Meithrin sgiliau berniadol a dadansoddol

  • Datblygu syniadau, ffurfio dadleuon a’u cyflwyno ar lafar, yn ysgrifenedig a/neu yn glyweledol

  • Casglu gwybodaeth, ymchwilio, dethol a threfnu deunydd deallusol a chreadigol

  • Gweithredu a chwblhau prosiectau fesul unigolyn ac mewn grŵp

  • Arddangos sgiliau cyfathrebol ar lafar, yn ysgrifenedig a/neu yn glyweledol

  • Cynllunio a chyflawni prosiectau o fewn cyfyngiadau amser ac adnoddau

  • Adnabod a datrys problemau ymarferol a deallusol mewn cyd-destunau niferus ac amrywiol

  • Ymateb yn gadarnhaol i feirniadaeth adeiladol ac arddangos y gallu i fod yn hunan-feirniadol

  • Gallu defnyddio ystod o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth yn y cyd-destunau priodol

  • Datblygu a chymhwyso sgiliau ymchwil



11 : Program Structures and requirements, levels, modules, credits and awards



BA Cymraeg / Astudiaethau Ffilm a Theledu [QWM6]

Academic Year: 2023/2024Joint Honours scheme - available from 2000/2001

Duration (studying Full-Time): 3 years
Last intake year: 2022/2023

Part 1 Rules

Year 1 Core (40 Credits)

Compulsory module(s).

Semester 1
TC10520

Creu Ffilm

Semester 2
TC10820

Cydweithio Ensemble

Year 1 Timetable Core/Student Option

Rhaid i bob myfyriwr iaith gyntaf gymryd y modiwlau hyn:

Semester 1
CY11400

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

CY13120

Sgiliau Astudio Iaith a Llên

Semester 2
CY11420

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

Year 1 Timetable Core/Student Option

Rhaid i bob myfyriwr ail iaith gymryd y modiwlau hyn:

Semester 1
CY10900

Trafod y Byd Cyfoes twy'r Gymraeg

CY11700

Ysgrifennu Cymraeg Graenus

Semester 2
CY10920

Trafod y Byd Cyfoes twy'r Gymraeg

CY11720

Ysgrifennu Cymraeg Graenus

Year 1 Timetable Core/Student Option

Rhaid i bob myfyriwr iaith gyntaf ddewis modiwlau gwerth 20 credyd o blith y canlynol:

Semester 1
CY11120

Themau a Ffigurau Llen c.550-1900

Semester 2
CY11220

Beirdd a Llenorion o 1900 hyd heddiw

Year 1 Timetable Core/Student Option

Rhaid i bob myfyriwr ail iaith astudio 20 credyd o blith y modiwlau canlynol:

Semester 1
CY11500

Llenyddiaeth Gymraeg: cyfoes a hanesyddol

CY13120

Sgiliau Astudio Iaith a Llên

Semester 2
CY11520

Llenyddiaeth Gymraeg: cyfoes a hanesyddol

Year 1 Options

Yn amodol ar ofynion eu cynllun gradd gall myfyrwyr Astudiaethau Ffilm a Theledu (Anrhydedd Cyfun) ddewis y modiwl canlynol:

Semester 1
TC11220

Sylfeini Perfformio: Corff, Cymeriad a Thestun

TC11320

Creu Cynyrchiadau Amlgyfrwng

Semester 2
TC10620

Gweithio yn y Diwydiannau Creadigol

TC10720

Gweithio ar Gamera

Part 2 Rules

Year 2 Core (20 Credits)

Compulsory module(s).

Semester 1
TC21120

Ymarfer Cynhyrchu 1: Cyfryngau

Semester 2

Year 2 Timetable Core/Student Option

Mae Gloywi Iaith yn orfodol i fyfyrwyr Iaith Gyntaf yn eu hail flwyddyn:

Semester 1
CY20100

Gloywi Iaith

Semester 2
CY20120

Gloywi Iaith

Year 2 Timetable Core/Student Option

Mae CY20520 a CY21420 yn orfodol i fyfyrwyr Ail Iaith yn eu hail flwyddyn:

Semester 1
CY20520

Cymraeg y Gweithle Proffesiynol

CY21400

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

Semester 2
CY21420

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

Year 2 Options

Gall myfyrwyr Astudiaethau Ffilm a Theledu (Anrhydedd Cyfun) ddewis rhwng 20 a 60 credyd o'r modiwlau canlynol:

Semester 1
TC20320

Sylfeini Hunan-Gyflwyno

TC21220

Ymarfer Cynhyrchu: Gorffen

Semester 2
TC20620

Theatr a Ffilm Gyfoes: Cymru a'r Byd

TC21420

Ymchwil Creadigol Ymarferol

TC29920

Ffilm a Theatr Americanaidd

Year 2 Options

Dewiswch rhwng 20 a 40 o gredydau o blith modiwlau Lefel 2 yr Adran / Choose between 20 and 40 credits of Level 2 modules in the Department

Final Year Timetable Core/Student Option

Mae'r modiwl yma yn orfodol i fyfyrwyr Ail Iaith yn eu blwyddyn olaf:

Semester 1
CY31100

Gloywi Iaith yr Ail Iaith

Semester 2
CY31120

Gloywi Iaith yr Ail Iaith

Final Year Options

Gall myfyrwyr Astudiaethau Ffilm a Theledu (Anrhydedd Cyfun) ddewis rhwng 40 ac 80 credyd o'r modiwlau canlynol:

Semester 1
TC31120

Ymarfer Cynhyrchu 2: Cyfryngau

TC31220

Ymarfer Cynhyrchu 2: Gorffen

TC36100

Prosiect Ymchwil Creadigol

Semester 2
TC30620

Theatr a Ffilm Gyfoes: Cymru a'r Byd

TC36140

Prosiect Ymchwil Creadigol

TC39920

Ffilm a Theatr Americanaidd

Final Year Options

Dewiswch rhwng 40 a 60 o gredydau o blith modiwlau Lefel 3 yr Adran / Choose between 40 and 60 credits of Level 3 modules in the Department


12 : Support for students and their learning
Every student is allocated a Personal Tutor. Personal Tutors have an important role within the overall framework for supporting students and their personal development at the University. The role is crucial in helping students to identify where they might find support, how and where to seek advice and how to approach support to maximise their student experience. Further support for students and their learning is provided by Information Services and Student Support and Careers Services.

13 : Entry Requirements
Details of entry requirements for the scheme can be found at http://courses.aber.ac.uk

14 : Methods for evaluating and improving the quality and standards of teaching and learning
All taught study schemes are subject to annual monitoring and periodic review, which provide the University with assurance that schemes are meeting their aims, and also identify areas of good practice and disseminate this information in order to enhance the provision.

15 : Regulation of Assessment
Academic Regulations are published as Appendix 2 of the Academic Quality Handbook: https://www.aber.ac.uk/en/aqro/handbook/app-2/.

15.1 : External Examiners
External Examiners fulfill an essential part of the University’s Quality Assurance. Annual reports by External Examiners are considered by Faculties and Academic Board at university level.

16 : Indicators of quality and standards
The Department Quality Audit questionnaire serves as a checklist about the current requirements of the University’s Academic Quality Handbook. The periodic Department Reviews provide an opportunity to evaluate the effectiveness of quality assurance processes and for the University to assure itself that management of quality and standards which are the responsibility of the University as a whole are being delivered successfully.