Programme Specifications

Ysgrifennu Creadigol a'r Diwydiant Cyhoeddi


1 : Awarding Institution / Body
Aberystwyth University

2a : Teaching Institution / University
Aberystwyth University

2b : Work-based learning (where appropriate)


Information provided by Department of Welsh:



3a : Programme accredited by
Aberystwyth University

3b : Programme approved by
Aberystwyth University

4 : Final Award
Bachelor of Arts

5 : Programme title
Ysgrifennu Creadigol a'r Diwydiant Cyhoeddi

6 : UCAS code
W840

7 : QAA Subject Benchmark


Information provided by Department of Welsh:

Cymraeg



8 : Date of publication


Information provided by Department of Welsh:

Medi 2023



9 : Educational aims of the programme


Information provided by Department of Welsh:

Nod y rhaglen yw datblygu diddordeb a gallu myfyrwyr sy’n astudio Ysgrifennu Creadigol, gan feithrin ynddynt wybodaeth a dealltwriaeth ddyfnach o’r maes, ynghyd â’u galluogi i werthfawrogi arwyddocâd diwylliannol a chreadigol y Gymraeg. Enynnir brwdfrydedd dros y pwnc drwy gyfrwng cwricwlwm eang a chytbwys. Mae’r rhaglen yn cynnig dewis eang o fodiwlau creadigol, ieithyddol, llenyddol feirniadol a phroffesiynol sy’n ymwneud â iaith ac â llenyddiaeth mewn gwahanol gyfnodau hanesyddol, o’r cyfnod cynharaf hyd heddiw. Mae modiwlau craidd y rhaglen yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau creu, ymchwilio a dadansoddi iaith a llên sylfaenol, ac ar feithrin dealltwriaeth o gyweiriau a theithi’r iaith Gymraeg. Gan hynny, nod y rhaglen yw cynhyrchu graddedigion a fydd yn meddu ar sgiliau creadigol, sgiliau ymchwilio, sgiliau beirniadol a sgiliau cyfathrebu o safon uchel, ac a fydd yn defnyddio’r sgiliau hynny i gyfoethogi eu bywydau diwylliannol a phroffesiynol mewn cyd-destun Cymraeg a dwyieithog.



10 : Intended learning outcomes


Information provided by Department of Welsh:

Gellir crynhoi canlyniadau dysgu arfaethedig y rhaglen fel a ganlyn: cyflwynir seiliau cadarn ar gyfer meithrin sgiliau ysgrifennu yn y flwyddyn gyntaf, ac adeiledir ar hynny yn yr ail a’r drydedd flwyddyn drwy roi cyfle i’r myfyrwyr weithio’n fwy annibynnol dan gyfarwyddyd. Bydd y modiwl craidd Cyflwyniad i Ysgrifennu Creadigol yn cyflwyno’r myfyrwyr yn Rhan 1 i ystod eang o wahanol ffurfiau llenyddol creadigol, ynghyd â’r diwydiant creadigol yn gyffredinol. Yn yr ail flwyddyn, rhoir cyfle iddynt ganolbwyntio ar rai ffurfiau creadigol mewn mwy o fanylder yn y modiwl CY20420 Gweithdai Ysgrifennu Creadigol ac, erbyn y drydedd flwyddyn, bydd modd iddynt arbenigo ar un neu fwy o ffurfiau drwy weithio’n fwy annibynnol yn y modiwl CY30420 Portffolio Ysgrifennu Creadigol Annibynnol. Cefnogir y llwybr hwnnw drwy Ran 1 a Rhan 2 gan fodiwlau craidd a dewisol sy’n rhoi sail ieithyddol a llenyddol gadarn iddynt gyflawni’r gwaith. Mewn byr eiriau, fe’u dysgir i ysgrifennu’n gryno, yn fwriadus ac yn ddiwastraff; i hunanfyfyrio’n aeddfed feirniadol; i ddadansoddi’n drylwyr destunau llenyddol a phroffesiynol.



10.1 : Knowledge and understanding


Information provided by Department of Welsh:

  • A1 Dealltwriaeth o wahanol ffurfiau llenyddol a phrofiad o’u harfer.

  • A2 Y gallu i ysgrifennu Cymraeg safonol mewn modd eglur ac effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.

  • A3 Ymwybyddiaeth drylwyr o lenyddiaeth Gymraeg o wahanol gyfnodau, sef o’r oesoedd canol hyd y presennol.

  • A4 Dealltwriaeth o amrywiadau lleol a chymdeithasol Cymraeg cyfoes ac ymagweddau tuag atynt.

  • A5 Y gallu i ddeall, i ddisgrifio ac i werthuso effaith amryfal ddatblygiadau economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol ar yr iaith Gymraeg ac ar y modd y llunnir ac y dehonglir testunau llenyddol.

  • A6 Datblygu syniadau cymhleth a dehongliadau annibynnol a deallus, gan ddeall eu perthynas â sefyllfaoedd hanesyddol penodol.

  • A7 Dealltwriaeth o berthynas y Gymraeg â thechnoleg a chyfryngau o bob math.

  • A8 Ymwybyddiaeth o wahanol feysydd ieithyddiaeth gymwysedig, megis cynllunio a pholisi iaith, caffael iaith, dwyieithrwydd ac amlieithrwydd, dadansoddi disgwrs a chyfieithu.

  • A9 Dadansoddi testunau a disgyrsiau gan ddefnyddio methodolegau, damcaniaethau a therminoleg ieithyddol a llenyddol addas, gan gynnwys rhai a gysylltir yn arbennig â’r Gymraeg (yn benodol, y gynghanedd).

  • A10 Dealltwriaeth o berthynas y Gymraeg a’i llenyddiaeth â diwylliannau ac ieithoedd eraill.

Dysgu ac Addysgu:

Defnyddir ystod o ddulliau dysgu, yn unol ag amcanion modiwlau unigol: darlithoedd, seminarau, dosbarthiadau tiwtora, dosbarthiadau iaith, dosbarthiadau darllen testun, gwaith maes, profiad gwaith, gweithdai, traethawd estynedig neu brosiect (dan gyfarwyddyd), dysgu cyfeiriedig, dysgu annibynnol, e-ddysgu. Dysgir 1–5, 7–8, 10 ym modiwlau creiddiol a dewisol Rhan 1, a rhoddir cyfle i fyfyrwyr ddatblygu 1–10 ym modiwlau dewisol Rhan 2. Disgwylir i fyfyrwyr gadarnhau ac ymestyn yr wybodaeth a ddysgir mewn darlithoedd, seminarau, gwaith maes ac ati drwy ddarllen yn annibynnol. Ceir cymorth ac adnoddau ychwanegol i fyfyrwyr yn Llyfrgell y Brifysgol ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Strategaethau a Dulliau Asesu:

Defnyddir y dulliau asesu canlynol ar fodiwlau’r rhaglen, a hynny mewn gwahanol gyfuniadau: arholiadau, profion ac ymarferion iaith, gwaith cwrs (traethodau ac adolygiadau), gwaith prosiect (gall fod ar y cyd), traethawd estynedig, asesu llafar (gan gynnwys cyflwyniadau ffurfiol a chyfraniadau mewn seminar), profiad gwaith (gan gynnwys adroddiadau ffurfiol a chadw dyddiadur adfyfyriol), gweithgareddau sy’n asesu sgiliau arbennig (gan gynnwys defnyddio ffurfiau llenyddol, technoleg gwybodaeth, llunio llyfryddiaeth a chyfeiriadau, llunio holiadur, trefnu gwaith maes), gwaith ffolio, gan gynnwys ysgrifennu creadigol ac ymarferion cyfieithu.



10.2 : Skills and other attributes


Information provided by Department of Welsh:

  • B1 Ysgrifennu’n greadigol i safon uchel drwy ddefnyddio amrywiaeth eang o ffurfiau llenyddol, gan arbenigo mewn un neu ddwy ffurf benodol

  • B2 Canfod a dadansoddi gwybodaeth, safbwyntiau a dadleuon cymhleth ac amrywiol y pwnc gan arfer sgiliau ymchwil a thechnoleg gwybodaeth addas.

  • B3 Dangos sgiliau ieithyddol ymarferol a fydd yn cynnwys y gallu i drafod pynciau cymhleth yn briodol ac yn raenus, ar lafar ac yn ysgrifenedig.

  • B4 Medru dadansoddi iaith a dadansoddi’r defnydd a wneir ohoni mewn amrywiol sefyllfaoedd.

  • B5 Gallu gwerthuso llenyddiaeth yn ei chyd-destun llenyddol, generig, hanesyddol, cymdeithasol a syniadol.

Dysgu ac Addysgu:

Datblygir sgiliau creadigol a deallusol drwy gydol y rhaglen mewn amrywiol ffyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys datblygu sgiliau gwrando mewn darlithoedd, sgiliau deall wrth ddarllen a chymryd nodiadau (1, 3–4), seminarau, trafodwersi, traethodau estynedig a gwaith cwrs (1–5). Y mae 3 a 4 yn annatod i fodiwlau gramadegol creiddiol Rhan 1 a Rhan 2.

Strategaethau a Dulliau Asesu:

Mae pob un o’r dulliau asesu a ddefnyddir yn mesur gallu’r myfyriwr ym mhob un o’r sgiliau deallusol uchod drwy ymatebion ysgrifenedig. Asesir cyflwyniadau llafar yn ffurfiol hefyd mewn ystod o fodiwlau creadigol, ieithyddol a phroffesiynol.

Sgiliau proffesiynol ymarferol / Sgiliau penodol i ddisgyblaeth

Erbyn diwedd eu rhaglen, disgwylir i'r holl fyfyrwyr allu dangos:

  • C1 Dealltwriaeth o rym mynegiannol a chreadigol y Gymraeg, ynghyd â dealltwriaeth o gyweiriau a theithi’r Gymraeg, gan eu defnyddio’n briodol (i’r dasg neu i’r cyd-destun proffesiynol) ar lafar ac yn ysgrifenedig

  • C2 Arddangos hunanddisgyblaeth wrth gynllunio, trefnu, llunio, golygu a chyflwyno gwaith â diwyg proffesiynol o fewn terfynau amser penodedig

  • C3 Medru gwerthuso testunau cynradd ac eilaidd yn feirniadol yn eu cyd-destun llenyddol, generig, hanesyddol, cymdeithasol a syniadol.

  • C4 Arddangos hunanddisgyblaeth wrth reoli amser ac wrth weithio’n annibynnol

  • C5 Arddangos y gallu i gydweithio ac i gyd-drafod yn effeithiol ag eraill, gan ddangos sensitifrwydd diwylliannol ac ieithyddol.

Dysgu ac Addysgu:

Cyflwynir y sgiliau ymarferol a disgyblaethol hyn i bob myfyriwr ym modiwlau craidd Rhan 1, ac fe’u datblygir ymhellach yn y modiwlau sy’n rhan o arlwy Rhan 2. Mae’r modiwl sy’n cynnig cyfle i fyfyrwyr weithio’n annibynnol (Portffolio Creadigol Annibynnol) yn cynnwys hyfforddiant ymchwil. Mae sgil 1 yn annatod i fodiwlau gramadegol creiddiol Rhan 1 a Rhan 2.

Strategaethau a Dulliau Asesu:

Asesir sgiliau 1–3 yn bennaf drwy waith cwrs ac arholiadau, ond nid asesir gwaith grŵp yn ffurfiol. O ran sgil 4, cosbir gwaith cwrs a gyflwynir ar ôl y dyddiad cyflwyno a gytunwyd.



10.3 : Transferable/Key skills


Information provided by Department of Welsh:

  • D1 Dealltwriaeth o ffurfiau creadigol, o gyweiriau ac o rym mynegiannol y Gymraeg, ynghyd â’r cyd-destun priodol ar gyfer eu defnyddio

  • D2 Medru mynegi eu syniadau eu hunain a syniadau eraill mewn modd cryno, graenus, manwl-gywir ac argyhoeddiadol, a hynny ar lafar ac yn ysgrifenedig

  • D3 Arddangos hunangyfeiriad a hynangymhelliant wrth gychwyn ar eu gwaith, a chymryd cyfrifoldeb drosto

  • D4 Gwerthuso eu harferion a’u rhagdybiaethau eu hunain a myfyrio arnynt

  • D5 Golygu gwaith, a’i gyflwyno mewn diwyg eglur a phroffesiynol

  • D6 Y gallu i ddeall hanfodion deunydd mewn iaith arall (neu ieithoedd erail) ac i’w gyfieithu i’r Gymraeg, neu ei ailfynegi yn y Gymraeg

  • D7 Gweithio’n adeiladol mewn grwpiau, ac asesu gwerth a pherthnasedd syniadau a dadleuon eraill.

Dysgu ac Addysgu:

Mae’r Rhaglen yn datblygu’r rhinweddau hyn wrth fynd rhagddi. Dysgir 1 a 2 yn bennaf drwy baratoi traethodau a thasgau creadigol, a thrwy baratoi ar gyfer seminarau a thrafodaethau; dysgir sgiliau 3 a 4 drwy lunio traethodau a phrosiectau, a thrwy gyflwyniadau llafar. Datblygir 5 wrth baratoi pob darn o waith ysgrifenedig i’w asesu. Mae sgil 6 yn elfen gref o fodiwlau sy’n ymwneud â chyfieithu ac â gramadeg. Meithrinnir sgil 7 ym mhob modiwl, ond nid asesir gwaith grŵp yn ffurfiol. Mae sgiliau 1 a 2 yn annatod i fodiwlau gramadegol creiddiol Rhan 1 a Rhan 2.

Strategaethau a Dulliau Asesu:

Mae’r meini prawf a ddatblygwyd ar gyfer marcio aseiniadau llafar, gwrando ac ysgrifenedig y rhaglen yn gwobrwyo safon a ddangosir drwy 1–6 yn ffurfiannol ac yn gyfansymiol, ond nid asesir sgil 7 yn ffurfiol.



11 : Program Structures and requirements, levels, modules, credits and awards



BA Ysgrifennu Creadigol a'r Diwydiant Cyhoeddi [W840]

Academic Year: 2023/2024Single Honours scheme - available from 2021/2022

Duration (studying Full-Time): 3 years

Part 1 Rules

Year 1 Timetable Core/Student Option

Rhaid i fyfyrwyr iaith gyntaf gyda Lefel A gymryd y modiwlau hyn

Semester 1
CY11400

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

CY13120

Sgiliau Astudio Iaith a Llên

Semester 2
CY11420

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

Year 1 Timetable Core/Student Option

Rhaid i fyfyrwyr ail iaith gymryd y modiwlau hyn

Semester 1
CY10900

Trafod y Byd Cyfoes twy'r Gymraeg

CY11700

Ysgrifennu Cymraeg Graenus

Semester 2
CY10920

Trafod y Byd Cyfoes twy'r Gymraeg

CY11720

Ysgrifennu Cymraeg Graenus

Year 1 Timetable Core/Student Option

Rhaid i fyfyrwyr iaith gyntaf heb Lefel A gymryd y modiwlau hyn

Semester 1
CY11700

Ysgrifennu Cymraeg Graenus

CY13120

Sgiliau Astudio Iaith a Llên

Semester 2
CY11720

Ysgrifennu Cymraeg Graenus

Year 1 Options

Dewiswch 60 credyd o blith modiwlau awdurdodedig Rhan 1 Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd neu adran arall.

Part 2 Rules

Year 2 Timetable Core/Student Option

Llwybr: * Iaith gyntaf ‘gyda’ Lefel A – modiwlau craidd yw: CY20420, CY20120. * Iaith gyntaf ‘heb’ Lefel A – modiwlau craidd yw: CY21420, CY20420. * Ail iaith – modiwlau craidd yw: CY21420, CY20420.

Semester 1
CY20100

Gloywi Iaith

CY20400

Gweithdai Ysgrifennu Creadigol

CY21400

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

Semester 2
CY20120

Gloywi Iaith

CY20420

Gweithdai Ysgrifennu Creadigol

CY21420

Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar

Year 2 Options

Rhaid i bob myfyriwr ddewis modiwl craidd CY26120 yn yr ail flwyddyn, neu CY36120 yn y drydedd flwyddyn.

Year 2 Options

Dewis 60-80 credyd o blith modiwlau awdurdodedig Rhan 2 Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd neu adran arall.

Semester 1
CY20620

Pedair Cainc y Mabinogi

CY22720

Testunau'r Enfys: llunio profiadau LHDT+

CY23220

Dafydd ap Gwilym a'i Gyfoeswyr

Semester 2
CY20720

Beirdd a Noddwyr: Llên a Hanes c.1300-1500

CY25220

Barddoniaeth Gymraeg Ddiweddar, 1979-

Final Year Options

Llwybr: * Iaith gyntaf ‘gyda’ Lefel A – modiwl craidd yw: CY30420. * Iaith gyntaf ‘heb’ Lefel A – modiwlau craidd yw: CY31120, CY30420. * Ail iaith – modiwlau craidd yw: CY31120, CY30420.

Semester 1
CY30400

Portffolio Ysgrifennu Creadigol Annibynnol

CY31100

Gloywi Iaith yr Ail Iaith

Semester 2
CY30420

Portffolio Ysgrifennu Creadigol Annibynnol

CY31120

Gloywi Iaith yr Ail Iaith

Final Year Options

Rhaid i bob myfyriwr ddewis modiwl craidd CY36120 yn y drydedd flwyddyn os nad ydynt wedi dilyn CY26120 yn yr ail flwyddyn.

Final Year Options

Dewis 60-100 credyd o blith modiwlau awdurdodedig Rhan 2 Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd neu adran arall.

Semester 1
CY30620

Pedair Cainc y Mabinogi

CY32720

Testunau'r Enfys: llunio profiadau LHDT+

CY33220

Dafydd Ap Gwilym a'i Gyfoeswyr

CY35600

Y Gymraeg yn y Gweithle

CY36000

Traethawd Estynedig

Semester 2
CY30720

Beirdd a Noddwyr: Llên a Hanes c.1300 - 1500

CY35220

Barddoniaeth Gymraeg Ddiweddar (1979-)

CY35620

Y Gymraeg yn y Gweithle

CY36040

Traethawd Estynedig


12 : Support for students and their learning
Every student is allocated a Personal Tutor. Personal Tutors have an important role within the overall framework for supporting students and their personal development at the University. The role is crucial in helping students to identify where they might find support, how and where to seek advice and how to approach support to maximise their student experience. Further support for students and their learning is provided by Information Services and Student Support and Careers Services.

13 : Entry Requirements
Details of entry requirements for the scheme can be found at http://courses.aber.ac.uk

14 : Methods for evaluating and improving the quality and standards of teaching and learning
All taught study schemes are subject to annual monitoring and periodic review, which provide the University with assurance that schemes are meeting their aims, and also identify areas of good practice and disseminate this information in order to enhance the provision.

15 : Regulation of Assessment
Academic Regulations are published as Appendix 2 of the Academic Quality Handbook: https://www.aber.ac.uk/en/aqro/handbook/app-2/.

15.1 : External Examiners
External Examiners fulfill an essential part of the University’s Quality Assurance. Annual reports by External Examiners are considered by Faculties and Academic Board at university level.

16 : Indicators of quality and standards
The Department Quality Audit questionnaire serves as a checklist about the current requirements of the University’s Academic Quality Handbook. The periodic Department Reviews provide an opportunity to evaluate the effectiveness of quality assurance processes and for the University to assure itself that management of quality and standards which are the responsibility of the University as a whole are being delivered successfully.