Yn ôl i Hafan PA.
 
Cymraeg Access News Exhibitions Collections About Us
 
 
 
Amgueddfa ac Orielau PA yn yr Ysgol Gelf. Lluniau o'r casgliad.

Hyrwyddo Rhagoriaeth mewn Addysgu ac Ymchwil

Croeso i wefan Oriel ac Amgueddfa Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth. Yn ogystal â’r newyddion diweddaraf ynglŷn â’r casgliadau a’r rhaglen arddangos, mae’r safle hwn yn cynnwys cyflwyniad i’n Casgliad Celf a Chrefft, gan amlinellu ei ddatblygiad a’r unigolion sydd, gyda’u brwdfrydedd personol, wedi siapio’r Casgliad ers 1872.

Ymddiheurwn nad yw'r wefan hon ar gael yn Gymraeg hyd yn hyn. Lansiwyd y wefan newydd yn 2005 ac y mae hi wrthi'n cael ei chyfieithu.

Hunan bortread – ysgythriad gan Edgar Holloway.

Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio ar gynllunio a gweithredu dwy system gronfa ddata gysylltiedig i gyflawni ein gofynion o ran rheoli’r casgliad a hygyrchedd cyhoeddus, a chyn bo hir rydyn ni’n gobeithio gallu cynnig Cronfa Ddata ddarluniadol chwiliadwwy o’r Casgliadau ar y Rhyngrwyd.

Mae ein horielau yn arddangos detholiad diddorol ac amrywiol o arddangosfeydd newidiol o blith y casgliadau celfyddyd gain, gan artistiaid gwadd a sioeau teithiol.

mwy

Arddangosfa o baentiadau a ffotograffau.
Llestr Raku gan David Roberts.

Mae’r Ysgol yn gartref i gasgliad addysgu ac ymchwil eang sy’n cynnwys celfyddyd gain ac addurniadol ac sy’n estyn o’r bymthegfed ganrif i’r cyfoes.

mwy

Cyfran fach yn unig o’r arteffactau sydd yn ein meddiant a gaiff eu harddangos ar yr un pryd; mae’n bosibl gweld y casgliadau astudio drwy drefniant.

mwy

Mae’r Ysgol Gelf yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau gradd ac uwchraddedig mewn Celfyddyd Gain, Hanes Celf ac Astudiaethau Amgueddfa ac Oriel.

mwy

Mae’r Ysgol Gelf, ei horielau a’i chasgliad oll wedi’u lleoli mewn adeilad Edwardaidd godidog sy’n edrych dros y dref a Bae Ceredigion.

mwy

Adeilad Edward Davies.

Rhagor am yr Amgueddfa ac Orielau yn yr Ysgol Gelf

ar dop

Map o'r safle   Amdanom ni   Casgliadau   Arddangosfeydd   Newyddion   Mynediad   Saesneg