Perfformiad artistig yn craffu ar y berthynas rhwng gwyddoniaeth a byd natur

08 Mai 2024

Bydd cynhyrchiad theatr newydd gan artist a darlithydd o Aberystwyth, a gynhelir fis nesaf yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, yn craffu ar y berthynas gymhleth rhwng pobl a byd natur.

Mae ‘When Earth Speaks: A Dirty Ensemble’ yn berfformiad amlgyfrwng a gyfarwyddir gan Miranda Whall sy'n ceisio dangos sut y gall y celfyddydau godi ymwybyddiaeth am argyfwng yr hinsawdd. 

Bydd y cynhyrchiad aml-ddimensiwn yn cydblethu gwyddoniaeth, byd natur, technoleg, a chelf.

Daw â cherddorion, dawnsiwr Butoh, artist celfyddyd weledol, a roboteg ynghyd, a bydd y perfformiad hefyd yn defnyddio data a gynhyrchir gan synwyryddion a osodwyd yn y pridd ym Mynyddoedd y Canolbarth, 600m uwch lefel y môr.

Meddai Miranda Whall: "Bydd hwn yn berfformiad trochol nas gwelwyd ei fath o’r blaen, wrth i’r artistiaid a’r gynulleidfa brofi cysylltiad ar y pryd unigryw â'r amgylchedd naturiol.

"Wrth i’r data o Fynyddoedd y Canolbarth gael ei ddarlledu’n fyw i’r theatr, bydd y perfformiad yn esblygu ar y pryd yn ddatblygol a deinamig mewn modd nad oes modd ei ragweld wrth i'r perfformwyr ymateb i'r dirwedd, i’w gilydd, ac i amrywiadau a phatrymau’r data, newidiadau a rhythmau'r ddaear, ac ecosystem y pridd.

“Bydd y perfformiad yn cynnig dadansoddiad amserol ynghylch sut yr ydym yn deall ac yn rheoli'r gydberthynas gymhleth rhwng byd natur, data gwyddonol, a phobl, a sut y mae pob un o’r elfennau hyn yn dylanwadu ar ei gilydd.“

Deilliodd When Earth Speaks o ddau brosiect ymchwil trawsddisgyblaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth, a ariannwyd gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol: ‘Making the invisible visible: Instrumenting and interpreting an upland landscape for climate change resilience’ a arweiniwyd gan yr Athro Mariecia Fraser o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig a ‘Multispecies Politics in Action’ a arweiniwyd gan yr Athro Milja Kurki o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Ariennir y perfformiad gan yr Asiantaeth Datblygu Celf Fyw.

Cynhelir ‘When Earth Speaks: A Dirty Ensemble', am 7pm ddydd Sadwrn 8 Mehefin yn Theatr y Werin, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.  Mae tocynnau ar gael yn: https://aberystwythartscentre.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173645939