Aberystwyth yw Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru
20 Medi 2019
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ei henwi’n Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru ar gyfer 2020 gan The Times / The Sunday Times Good Unviersity Guide.
Mae’r wobr ddiweddaraf hon yn golygu bod y Brifysgol wedi cael ei chydnabod gan The Times / The Sunday Times Good Unviersity Guide am y drydedd flwyddyn yn olynol.
Ym mis Medi 2018 enwyd Aberystwyth yn Brifysgol y Flwyddyn am Ansawdd y Dysgu, ac felly’r brifysgol cyntaf i dderbyn y wobr ddwy flynedd yn olynol.
Cyhoeddir rhifyn diweddarafThe Times / The Sunday Times Good Unviersity Guide ar ddydd Sul 22 Medi 2019 lle gwelir Aberystwyth yn ail yn y DU am Brofiad Myfyrwyr ac am Ansawdd y Dysgu.
Mae Aberystwyth wedi dringo tri lle i safle 45, gan atgyfnerthu ei statws ymhlith 50 prifysgol orau y DU.
Dywedodd Alastair McCall, Golygydd The Times / The Sunday Times Good Unviersity Guide: “Wedi iddi ennill gwobr Prifysgol y Flwyddyn am Ansawdd y Dysgu ddwy flynedd yn olynol, mae Aberystwyth eleni yn cipio’r wobr genedlaethol yng Nghymru. Ni fydd hyn yn syndod i’w myfyrwyr, sydd o’r farn taw hi yw’r orau yng Nghymru am ansawdd y dysgu a’r profiad myfyrwyr ehangach ers pedair blynedd. Hi oedd y dewis amlwg i fod yn Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2020.
“Mae’r brifysgol wedi dringo tua 50 lle yn ein tablau cynghrair y DU yn y blynyddoedd diweddar, trawsnewidiad sy’n cael ei atgyfnerthu gan raglen gwariant cyfalaf uchelgeisiol. Daeth canmoliaeth yn sgil ennill yr Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniad Myfyrwyr am y modd mae ei rhaglenni gradd yn herio myfyrwyr i gyflawni eu llawn botensial. Mae adnewyddu’r llyfrgell a Chanolfan y Celfyddydau wedi helpu i sicrhau bod cyfleusterau myfyrwyr o’r radd flaenaf, ac mae gwelliannau pellach, megis y Campws Arloesi a Menter newydd, ar y gweill ar gyfer y flwyddyn nesaf, a ddylai sicrhau anrhydeddau pellach i’r brifysgol yn y dyfodol.”
Meddai’r Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Dyma newyddion gwych ac rwy’n falch iawn bod gwaith caled cydweithwyr ar draws y Brifysgol bellach wedi’i gydnabod am dair blynedd yn olynol. Mae’r cyhoeddiad am Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru ar ôl bod yn Brifysgol y Flwyddyn am Ansawdd y Dysgu am ddwy flynedd yn olynol yn gamp yn ei hun, a hoffwn ddiolch i bawb ym Mhrifysgol Aberystwyth am eu cyfraniad at sicrhau hyn. Ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd, mae’r gwaith i ddatblygu a chyfoethogi profiad myfyrwyr yn parhau wrth i ni alluogi’n myfyrwyr i ddatgloi eu potensial fel dysgwyr annibynnol yn ogystal ag elwa ar bob agwedd o fywyd prifysgol. Fel Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru gallwn adeiladu ar ein treftadaeth gyfoethog a’n hymrwymiad cenedlaethol at addysg wrth i ni groesawu myfyrwyr a staff o Gymru, y Deyrnas Unedig ac ar draws y byd.”
Dywedodd Llywydd Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Dhanjeet Ramnatsing: “Nid yw’n syndod o gwbl i’n myfyrwyr bod Prifysgol Aberystwyth wedi’i chydnabod fel Prifysgol y Flwyddyn yng Nghymru ar gyfer 2020. Rydym wedi profi trawsnewidiad amlwg yn Aberystwyth dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Prifysgol Aberystwyth wedi gweithio’n galed i gyflawni hyn ac mae’n dangos yn glir bod ein Prifysgol yn symud i gyfeiriad cadarnhaol. Rydym yn gobeithio y bydd y Brifysgol yn parhau i gael ei chydnabod yn y dyfodol; gall ddarpar fyfyrwyr edrych ymlaen at brosiectau fel yr Hen Goleg yn ogystal â chyfleusterau a llety newydd Pantycelyn, a bydd rhain yn gwella profiad y myfyrwyr ac yn sicrhau bod y Brifysgol yn parhau i gael ei chydnabod yn haeddiannol fel un o sefydliadau gorau Addysg Uwch y wlad.”
Ar ôl derbyn Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr (FfRhA), fe ddaeth Aberystwyth i’r y brig o blith prifysgolion Cymru a Lloegr am fodlonrwydd cyffredinol myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF) yng Ngorffennaf 2019.
I grynhoi’r llwyddiannau, Aberystwyth oedd y brifysgol orau yng Nghymru am foddhad myfyrwyr am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.