Prifysgol Aberystwyth ar y brig yng Nghymru am ragoriaeth dysgu a bodlonrwydd myfyrwyr

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Aberystwyth

17 Medi 2022

Prifysgol Aberystwyth yw'r Brifysgol orau yng Nghymru am ragoriaeth dysgu a bodlonrwydd myfyrwyr, yn ôl The Times & The Sunday Times Good University Guide 2023.

Mae'r Brifysgol yn nhraean uchaf prifysgolion y Deyrnas Unedig sy'n cael sylw yn y canllaw, lle defnyddir y data diweddaraf i lunio tabl cynghrair o brifysgolion a rhoi golwg gynhwysfawr ar addysg uwch yn y Deyrnas Unedig. 

Ymhlith y dangosyddion perfformiad allweddol a ystyrir wrth bennu safleoedd mae bodlonrwydd myfyrwyr ag ansawdd y dysgu a phrofiad ehangach y myfyrwyr, ansawdd yr ymchwil, cymarebau myfyrwyr/staff, cyfraddau cwblhau graddau a rhagolygon graddedigion.

Daw'r llwyddiant diweddaraf hwn wedi perfformiad rhagorol Prifysgol Aberystwyth yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf ac a gadarnhaodd statws y sefydliad fel y brifysgol orau ar draws Cymru a Lloegr am fodlonrwydd myfyrwyr am y chweched flwyddyn yn olynol.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: "Rydym wrth ein boddau ein bod wedi cynnal yr enw da sydd gennym ers amser maith am fodlonrwydd rhagorol ein myfyrwyr ac ansawdd eithriadol y dysgu. Mae hyn yn dyst i waith caled ac ymroddiad ein staff, sy'n mynd yr ail filltir i sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael profiad rhagorol ac yn gwireddu eu potensial."

“Mae Prifysgol Aberystwyth yn dathlu ei phen blwydd yn 150 eleni. Yn ogystal â bod yn gyfle i goffáu cyfraniad sylweddol y sefydliad i'r byd ers agor fel prifysgol gyntaf Cymru yn 1872, mae hefyd yn adeg i ddathlu datblygiadau newydd ac uchelgeisiau'r dyfodol wrth i ni barhau i ymateb i'r heriau sy'n wynebu cymdeithas heddiw. Ymhlith y datblygiadau diweddar mae agor Ysgol Filfeddygaeth gyntaf Cymru a dechrau darparu  addysg gofal iechyd trwy gyfrwng ein graddau Nyrsio newydd. Bydd y ddau ddatblygiad cyffrous hyn yn creu gwydnwch yn yr economi wledig ac yn cefnogi twf gweithlu cynaliadwy yn y Canolbarth a thu hwnt."

Cyhoeddir The Times & The Sunday Times Good University Guide 2023 ar-lein heddiw (16 Medi), gydag atodiad 96 tudalen i ddilyn yn rhifyn y penwythnos hwn o’r Sunday Times (18 Medi).