Sgiliau Ymchwil a Datblygiad Personol

MOR0320
Nod y modiwl hwn yw darparu myfyrwyr ymchwil ag ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd o ddefnydd iddynt mewn amryw o gyd-destunau ymchwil.  Bydd yn ymdrin â datblygiad personol, gan gynnwys sgiliau negodi a rhwydweithio, rheoli ymchwil, gweithio mewn tîm ac ysgrifennu a chyflwyno papur cynhadledd.  Bydd hefyd yn ymdrin â sgiliau TG, yn bennaf mewn cyd-destun ymchwil, a materion penodol sy'n codi wrth ymgymryd ag ymchwil yn y Gymraeg, yn ddwyieithog neu'n amlieithog.