Dulliau Darllen

MOR0510
Modiwl deuddydd dwys yw hwn sy'n rhoi cyflwyniad i wahanol ddulliau o ddehongli a dadansoddi testunau a gwahanol fathau o ddisgwrs, gan gynnwys dogfennau hanesyddol a chyfoes, y cyfryngau a'r gair llafar, deunydd llenyddol a thestunau cyfreithiol. Gan fod cyfathrebu cyfoes yn gynyddol amlfodd o ran ffurf, rhoddir sylw i'r dimensiynau gweledol a llafar mewn testun a'r cydgysylltiadau rhwng y gweledol a'r llafar mewn gwahanol fathau o destun a ffurfiau o gyfathrebu. Nod y modiwl yw galluogi myfyrwyr i weithio gyda gwahanol ddulliau o ddadansoddi testunau a disgyrsiau. Byddant hefyd yn deall sut mae'r dulliau hyn yn perthyn i wahanol draddodiadau damcaniaethol.