Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 2 x darlith 2 awr bob wythnos |
Eraill | Trafodaeth, i'w threfnu gan gyd-gysylltydd y modiwl yn ystod y semester. |
Sesiwn Ymarferol | 3 x ymweliad 4 awr |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Semester | Aseiniad | 50% |
Arholiad Semester | 2 Awr Arholiad | 50% |
Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Arholiad | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Egluro'r broses ecolegol sy'n digwydd wrth gynhyrchu bwyd.
Trafod y pwysau ar y diwydiant cyflenwi bwyd.
Nodi effeithiau amgylcheddol dwysau amaethyddol.
Gwerthuso effeithiau polisi bwyd a globaleiddio marchnadoedd bwyd.
Trafod y cysyniad o gynaladwyedd wrth gynhyrchu bwyd.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl yn disgrifio'r wybodaeth wyddonol sydd ei hangen i ddeall yr agweddau ecolegol cymwysedig ar systemau cynhyrchu amaethyddol. Bydd y modiwl yma yn rhoi ymwybyddiaeth i'r myfyriwr o effaith amaethyddiaeth a systemau cyflenwi bwyd ar yr amgylchedd. Mae'r modiwl wedi'i lunio i dynnu sylw at faterion sy'n ymwneud a'r gadwyn fwyd ddynol gan gynnwys globaleiddio marchnadoedd bwyd, homogeneiddio systemau cynhyrchu, cynaladwyedd, effeithiau amgylcheddol dwysau amaethyddol a dyframaethyddol, datblygu polisi amaethyddol, pryder y cyhoedd am gynhyrchu bwyd ac iechyd, lles anifeiliaid, a'r galwadau gan gwsmeriaid a'r boblogaeth ar y diwydiant cynhyrchu bwyd yn y dyfodol.
Cynnwys
2. Disgrifio diwydiant cyflenwi bwyd y DU a materion allweddol ynghylch pryder y cyhoedd am y gadwyn fwyd.
3. Nodi effeithiau amgylcheddol dwysau amaethyddol.
4. Datblygu gwerthfawrogiad o faterion polisi bwyd a globaleiddio.
5. Datblygu dealltwriaeth o gynaladwyedd wrth gynhyrchu bwyd.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Yn rhan o'r aseiniad bydd angen cynhyrchu adroddiad ar fater penodol sy'n ymwneud â'r gadwyn fwyd ddynol a sut mae'n cael ei drafod mewn amrywiaeth o ffynonellau cyfryngol, gan ddatblygu sgiliau ysgrifennu academaidd y myfyriwr a chyfiawnhau dadansoddiadau beirniadol a chasgliadau. |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Nod canlyniadau'r modiwl yw darparu'r sgiliau a'r ymwybyddiaeth o egwyddorion a gwybodaeth y mae ymarferwyr eu hangen yn yr amgylchedd gwledig ehangach er mwyn trafod ac ymdrin â materion sy'n peri pryder yn y byd cyhoeddus a'r byd gwyddonol, a hynny yng nghyd-destun y gadwyn fwyd ddynol. |
Gwaith Tim | Bydd y drafodaeth ffurfiol yn datblygu gallu'r myfyrwyr i drafod a dadansoddi gwybodaeth mewn fforwm grwp rhyngweithiol. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Nod canlyniadau'r modiwl yw darparu'r sgiliau a'r ymwybyddiaeth o egwyddorion a gwybodaeth y mae ymarferwyr eu hangen yn yr amgylchedd gwledig ehangach er mwyn trafod ac ymdrin â materion sy'n peri pryder yn y byd cyhoeddus a'r byd gwyddonol, a hynny yng nghyd-destun y gadwyn fwyd ddynol. |
Rhifedd | I ddadansoddi'r llenyddiaeth berthnasol bydd angen i fyfyrwyr ddeall a dehongli gwybodaeth rifyddol, yn enwedig yng nghyd-destun data cynhyrchu, marchnata ac asesu risg. |
Sgiliau ymchwil | Bydd yr aseiniad yn datblygu gallu'r myfyriwr i weithio'n annibynnol gan gyfuno gwybodaeth wyddonol, cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd i werthuso'n feirniadol sut mae mater penodol sy'n ymwneud â'r gadwyn fwyd yn cael ei drafod mewn amrywiaeth o ffynonellau cyfryngol (asesir trwy waith cwrs). |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd angen defnyddio ffynonellau ar y rhyngrwyd yn helaeth er mwyn casglu gwybodaeth ar gyfer yr aseiniad (asesir yn rhan o waith cwrs). |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5