Module Information
Cod y Modiwl
BG10810
Teitl y Modiwl
ECOLEG
Blwyddyn Academaidd
2008/2009
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Rhagofynion
Fel arfer bydd angen Bioleg lefel A neu AS, neu gymhwyster cyfwerth.
Staff Eraill sy'n Cyfrannu
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 20 Hours. 20 awr (arbrofion a sesiynau adferol) |
Sesiwn Ymarferol | 3 Hours. 3 x 1 awr mewn darlithfeydd |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr | 100% |
Arholiad Semester | 1.5 Awr | 70% |
Asesiad Semester | Arolwg Adar | 30% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Ar ol cwblhau'r modiwl bydd myfyrwyr:
- yn gyfarwydd gyda adar lleol ac yn gwybod sut i gyflawni arolwg
- yn deall cysyniadau ecolegol sylfaenol, ac yn gallu eu hesbonio
- yn gallu esbonio'r gwahanol ffyrdd y mae gweithgareddau dynol yn dibynnu ar egwyddorion ecolegol sylfaenol, a sut y gall y gweithgareddau hyn effeithio ar brosesau ecolegol.
Nod
I archwilio natur cydrannau a phrosesau o fewn yr ecosystem.
Cynnwys
Yr ecosystem yw'r uned sylfaenol wrth astudio ecoleg, ac ar lefel yr ecosystem y gellid deall orau nifer fawr o gydberthnasau pwysig rhwng organeddau (yn blanhigion ac yn anifeiliaid) a'r hamgylchedd anfiotig. I gychwyn byddwn yn archwilio ecosystem seml, twndra yr Arctig, o safbwynt cyfannol, gan ystyried sut mae ein gwybodaeth am y system hon wedi esblygu a disgrifio'r cydberthnasau sylfaenol sy'r bodoli rhwng ei chydrannau amrywiol. Mae angen hefyd, er hynny, osod cysyniad yr ecosystem o fewn cyd-destun yr hierarchaeth ecolegol sy'r ystyried pob lefel o drefniant ecolegol o'r unigolyn hyd at y biosffer. Mae'r prif themau sy'r cael eu cyflwyno yn y darlithoedd cynnar yn gosod y fframwaith ar gyfer gweddill y modiwl.
Yn y gr'r cyntaf o ddarlithoedd, dadansoddir ynni o fewn ecosystemau gan ganolbwyntio'r benodol ar systemau sy'r dibynnu ar olau haul a phlanhigion gwyrdd, a'r rheiny sy'r dibynnu ar sylwedd organig marw. Rhoddir pwyslais arbennig ar drosglwyddo ynni rhwng lefelau troffig gwahanol. Mae trosglwyddo ynni drwy sylwedd organig yn golygu hefyd, yn anochel, drosglwyddo deunydd rhwng cydrannau'r ecosystem. Mae maetholion yn cynrychioli'r rhan fwyaf o'r deunydd hwn, ond gellid hefyd drosglwyddo llygryddion, er enghraifft. Dadansoddir cylchu maetholion o fewn systemau gyda phwyslais ar rol allweddol priddoedd. Mae'r rhyngweithiadau cymhleth rhwng llystyfiant a phriddoedd yn cael dylanwad cryf ar y broses hon.
Mae natur y pridd yn ddim ond un ymhlith llawer o ffactorau sy'r effeithio ar ddosbarthiad gofodol planhigion ac anifeiliaid. Trafodir ystod y ffactorau anfiotig wrth ddechrau'r gr'r nesaf o ddarlithoedd, cyn symud ymlaen i drafod ffactorau biotig, yn enwedig ysglyfaethu a chystadlu. Mae ysglyfaethu yn un o'r ffactorau sy'r cyfyngu poblogaethau a'r hatal rhag tyfu'r esbonyddol, anfeidraidd; mae cystadlu am adnoddau yn ffactor arall sydd yr un mor bwysig. Yn ogystal, mae astudio'r modd mae rhywogaethau'r defnyddio adnoddau yn ein helpu i ddeall eu safle o fewn systemau ecolegol, a hwnnw'r cael ei ddiffinio fel arfer fel y gilfach (niche). Serch hynny, bydd rhywogaethau'r dangos yn aml addasiadau penodol ar gyfer sefyllfaoedd arbennig o fewn eu dosbarthiad; trafodir enghreifftiau o'r fath amrywiaeth ecoteipaidd.
Mae yna rai agweddau ar ecoleg rhywogaethau unigol o blanhigion ac anifeiliaid, serch hynny, y gellid eu deall orau drwy astudio eu hawtecoleg. Defnyddir rhywogaethau unigol o blanhigion ac anifeiliaid i egluro cysyniad awtecoleg.
Y thema olaf i gael ei thrafod yn y modiwl yw'r newid mewn ecosystemau gyda threigl amser, yr hyn sy'r cael ei alw'r olyniaeth (succession). Mae'r cwestiwn a oes modd rhagfynegi'r olyniaethau hyn ai peidio, a chwestiynau ynghylch beth sy'r gyrru'r newidiadau, wedi bod yn bynciau llosg ers amser maith. Trafodir enghreifftiau o olyniaethau, a'r damcaniaethau cystadleuol a geid yn eu cylch.
Manylion pellach: http://www.aber.ac.uk/gwydd-cym/modiwlau/ecoleg.htm
Rhestr o dermau Cymraeg ar gyfer Ecoleg: http://www.aber.ac.uk/gwydd-cym/termau-ecoleg.htm

Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydAllaby, M. (1994) The Concise Oxford Dictionary of Ecology. Oxford University Press Chwilio Primo Beeby, A. & Brennan, A.M. (1997) First ecology London: Chapman & Hall Chwilio Primo Begon, M., Harper, J. L. & Townsend, C. R. (1987) Ecology: Individuals, Populations and Communities Oxford: Blackwell Scientific Publications Chwilio Primo Krebbs, C. J. (2001) Ecology 5th San Francisco: Addison Wesley Longman Chwilio Primo Smith, R. L. & Smith, T. M. (2000) Elements of Ecology 4th San Francisco: Addison Wesley Longman Chwilio Primo http://www.aber.ac.uk/ornithology
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4