Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Darlithoedd | 40 Hours. Yn Saesneg - tair darlith un awr yr wythnos yn ystod y ddau semester |
Seminarau / Tiwtorialau | 8 Hours. Seminarau. Yn Gymraeg - pum seminar un awr ym mhob semester |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Ailsefyll | 3 Awr Arholiad 3 awr adeg asesiad ychwanegol | 100% |
Arholiad Semester | 3 Awr Arholiad 3 awr ar ddiwedd Semester 2 | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Mae cyfraith camwedd yn gyfrwng delfrydol i feithrin sgiliau dadansoddi sy'r rhan hanfodol o hyfforddiant pob cyfreithiwr. Bydd y modiwl yn cyflwyno sgiliau dadansoddi rhesymegol, y gallu i gymhwyso gwybodaeth gyfreithiol wrth ddatrys problemau unigol, gwerthfawrogiad o faterion polisi, y gallu i ddefnyddio iaith yn fanwl gywir ac yn effeithiol, a'r gallu i ddadansoddi sefyllfaoedd cymhleth.
Disgrifiad cryno
Disgrifiad cyffredinol
Dechreuwn trwy astudio Cyfraith Tresmasiad, ac yna symudwn at Esgeuluster yn ei holl agweddau. Bydd myfyrwyr yn gweld nid yn unig sut mae polisiau cymdeithasol ac economaidd wedi cael effaith allweddol ar bwnc atebolrwydd am fai ac amrediad posibl yr atebolrwydd hwnnw, ond hefyd sut maent wedi effeithio ar strwythur dadansoddol camwedd Esgeuluster. Rhan fywiog o'r gyfraith yw hon. Mae wedi datblygu llawer yn ystod y blynyddoedd diweddar, ac mae'n faes dadleuol o hyd. Ar ol trafod amddiffyniadau ac atebolrwydd dirprwyol (sef atebolrwydd cyflogwr am gamwedd a gyflawnir gan ei weithwyr), mae'r cwrs yn ystyried camweddau eraill, yn enwedig y rhai sy'r ymwneud a dyletswyddau perchennog eiddo, megis niwsans ac atebolrwydd am lygredd. Mae'r cwrs yn ei grynswth yn trafod sut mae'r gyfraith yn gosod safonau ymddygiad personol a masnachol ar osgoi difrod, ac mae'n hanfodol nid yn unig yn ei rinwedd ei hun, ond hefyd yng nghyswllt llawer o feysydd eraill y gyfraith.
Nod
Yn ogystal a rhoi sylfaen gadarn yng nghyfraith camwedd, mae'r cwrs yn cynnig dealltwriaeth hanfodol o'r modd y mae'r gyfraith gyffredin yn gweithredu. Dyma gyfrwng perffaith i feithrin yn arbennig sgiliau dadansoddi sy'n rhan hanfodol o hyfforddiant pob cyfreithiwr. Mae'n cynnig hyfforddiant mewn dadansoddi problemau cymhleth a'r gallu i feddwl yn rhesymegol, yn ogystal a deall effeithiau ehangach y gyfraith a sut mae penderfyniadau wedi eu gwneud o blaid neu yn erbyn atebolrwydd. Mae'n bwnc sy'n rhoi pwys mawr ar gyfraith achosion, ac o'r herwydd byddwch yn meithrin sgiliau da mewn gwneud ymchwil i achosion, ar bapur a thrwy chwilio drwy amrywiaeth o gronfeydd data. Fe wnewch hyn nid yn unig wrth weld y rheolau cyfreithiol a sefydlwyd gan yr achosion, ond hefyd wrth ddeall sut y datblygir cynsail a sut y mae egwyddorion cyffredinol yn cael eu creu.
Cynnwys
Dysgir Cyfraith Camwedd trwy gyfrwng darlithiau a seminarau. Bydd y darlithiau'n cynnig golwg ar strwythur y gyfraith a sut y gellir dadansoddi achosion i greu'r egwyddorion sydd y tu ol i'r pwnc. Gan fod Cyfraith Camwedd yn rhoi pwys mawr ar gyfraith achosion, ni fydd y darlithiau'n cynnig datganiad diffiniadol o reolau'r gyfraith ond yn hytrach bydd myfyrwyr yn cael eu harwain i wneud eu hasesiad eu hunain o ystyron yr achosion. Mae darllen yr achosion a argymhellwyd yn hanfodol, a bydd seminarau'n cynnig fforwm i drafod sut mae deall a chymhwyso cyfraith achosion yn gywir. Trwy hynny bydd y myfyrwyr yn magu profiad o egluro syniadau cymhleth. Bydd cyfle hefyd i ysgrifennu dau draethawd yn ystod y flwyddyn, a bydd mynegiant eglur a dadansoddi gramadegol yn angenrheidiol.
Maes Llafur:
1. Egwyddorion Cyffredinol
2. Cyd-destun Cymdeithasol ac Economaidd Cyfraith Camwedd
TRESMASIAD
3. Tresmasiad ar yr Unigolyn
(a) Curo ac ymosod
(b) Peri gofid emosiynol yn fwriadol
(c) Camgarcharu
(ch) Amddiffyniadau i dresmasiad ar yr unigolyn
4. Tresmasiad ar Dir
5. Ymyrraeth Fwriadol a Theclynnau
(a) Tresmasiad ar Nwyddau
(b) Trosiant
6. Tresmasiad ac Esgeuluster
ESGEULUSTER - YR EGWYDDORION SYLFAENOL
7. Dyletswydd Gofal
(a) Ystyr dyletswydd
(b) Yr achwynydd na ellir mo'i ragweld
8. Safon Gofal
(a) Y dyn rhesymol
(b) Sgil y diffynnydd
(c) Ffactorau eraill
(ch) Eithriadau i wir wrthrychedd
9. Prawf o Esgeuluster
10. Achosiaeth a Phellenigrwydd Difrod
(a) Achosiaeth
(b) Pellenigrwydd difrod
11. Diwygiadau
(a) Comisiwn Pearson
(b) System Seland Newydd o atebolrwydd heb fai
ESGEULUSTER - PROBLEMAU DYLETSWYDD PELLACH
12. Anwaith
13. Atebolrwydd Cyrff Cyhoeddus
14. Sioc Nerfol
15. Camddatganiad Esgeulus
16. Colled Economaidd - Ymyrraeth esgeulus a mantais arfaethedig
17. Dyletswydd Gofal a Chontract
18. Atebolrwydd Cynhyrchion
(a) Contract
(b) Esgeuluster
(c) Deddf Gwarchod Defnyddwyr 1987
19. Plant Heb eu Geni
AMDDIFFYNIADAU
20. Esgeuluster Cyfrannol
21. Caniatad
(a) Effaith hysbysiad
(b) Caniatad - volenti non fit injuria
22. Ex turpi causa/anghyfreithlondeb
ATEBOLRWYDD DIRPRWYOL
23. Atebolrwydd Dirprwyol
(a) Y theori gyfreithiol
(b) Natur `cyflogaeth?
(c) Cwrs cyflogaeth
(ch) Contractwyr annibynnol/yr hunangyflogedig
CAMWEDDAU PELLACH
24. Tor-ddyletswydd Statudol
25. Atebolrwydd Deiliad
(a) Atebolrwydd i ymwelwyr
(b) Atebolrwydd i dresmaswyr ac eraill nad ydynt yn ymwelwyr
26. Niwsans
(a) Niwsans cyhoeddus
(b) Niwsans preifat
27. Atebolrwydd Caeth: Rylands v Fletcher
28. Atebolrwydd am Danau
29. Rheoli Mathau Arbennig o Lygredd
(a) Gollyngdod niwclear
(b) Cael gwared a gwastraff
30. Atebolrwydd am Anifeiliaid
31. Difenwad
Rhestr Ddarllen
Gweler LA36030
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6