Module Information

Cod y Modiwl
AG11720
Teitl y Modiwl
ECOLEG CYNEFINOEDD
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1
Elfennau Anghymharus
RS11720
Staff Eraill sy'n Cyfrannu

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 2 x darlith 1 awr bob wythnos
Darlithoedd 1 x darlith 2 awr bob wythnos
Sesiwn Ymarferol 5 x sesiwn ymarferol 3 awr yn ystod y semester
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester GWAITH CWRS: LLYFR ADRODDIADAU YMARFEROL  50%
Arholiad Semester 1.5 Awr   Arholiad  50%
Arholiad Ailsefyll 1.5 Awr   100%
Asesiad Ailsefyll

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Egluro cysyniadau esblygiad, poblogaethau, cymunedau, ecosystemau, cynefinoedd, niche, dilyniant ecolegol, cylchu sylwedd a llif egni;

Dangos eu bod yn gyfarwydd a nodweddion amrywiaeth o gynefinoedd tirol, dwr croyw a morol ac yn gallu egluro eu dosbarthiad daearyddol a'r datblygiad hanesyddol;

Defnyddio allweddau adnabod a dangos gwybodaeth yngl'r a systemau dosbarthu organebau a chynefinoedd;

Dangos gwybodaeth am sut mae planhigion, anifeiliaid a micro-organebau yn addasu i'r amgylchedd;

Defnyddio technegau addas i gofnodi, cyflwyno, dadansoddi a dehongli data maes ecolegol.

Disgrifiad cryno

Trwy amrywiaeth o ddarlithoedd, sesiynau ymarferol ac ymweliadau a'r maes, bydd y modiwl yma yn cyflwyno'r prosesau a'r egwyddorion biolegol ac ecolegol sylfaenol sydd ar waith mewn amrywiaeth o gynefinoedd ym Mhrydain. Amlinellir yr egwyddorion gwyddonol sylfaenol sy'n sail i bob system fiolegol a bydd sgiliau sylfaenol dosbarthu organebau a chynefinoedd yn cael eu cyflwyno. Drwy ddefnyddio technegau maes a labordy mewn sesiynau ymarferol byddwn yn eich cynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth o gysyniadau niche, cynefinoedd, poblogaethau a chymunedau a fydd yn sail i'ch astudiaeth o amrywiaeth o gynefinoedd pwysig Prydain. Telir sylw arbennig i'r rhan y mae pobl yn ei chwarae yn natblygiad a rheolaeth y cynefinoedd allweddol hyn.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Rhifedd Bydd ymarferion yn y maes yn cynnwys casglu data. Bydd data yn cael ei fapio, ei ddadansoddi a'i ddehongli yn rhan o'r adroddiadau ymarferol a asesir.
Sgiliau ymchwil Bydd angen ysgrifennu'r adroddiadau maes ar ffurf adroddiadau gwyddonol safonol.
Technoleg Gwybodaeth Bydd canlyniadau rhai ymarferion yn y maes yn cael eu casglu a'u dadansoddi gan ddefnyddio taenlenni. Bydd gwybodaeth atodol ar gyfer y modiwl yn cael ei darparu trwy gyfrwng y rhyngrwyd.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4