Module Information
			 Cod y Modiwl
		
CF34220
			 Teitl y Modiwl
	 
			 HUNANIAETHAU CENEDLAETHOL YN YNYSOEDD PRYDAIN 1801-1914
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2009/2010
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Elfennau Anghymharus
HC34230 
Elfennau Anghymharus
MW34220 
Elfennau Anghymharus
WH34230 
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Darlithoedd | |
| Seminarau / Tiwtorialau | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Arholiad Semester | 2 Awr | 60% | 
| Asesiad Semester | Traethodau: 2 draethawd 2,500 o eiriau yr un | 40% | 
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Dangos eu bod yn gyfarwydd a chorff sylweddol o wybodaeth hanesyddol, sy'r gysylltiedig a ffurfio hunaniaethau cenedlaethol ym Mhrydain ac Iwerddon yn y cyfnod 1800-1914.
Ystyried yn feirniadol ffurfiad hunaniaethau cenedlaethol y pedair cenedl yn Ynysoedd Prydain, a'r perthynas a hunaniaeth Brydeinig sy'n pontio trostynt.
Dangos eu bod yn gyfarwydd ag ystod eang o dechnegau hanesyddol, sy'r berthnasol i'r astudiaeth o hunaniaethau cenedlaethol yn y gorffennol.
Casglu a dadansoddi eitemau priodol o dystiolaeth hanesyddol.
Darllen, dadansoddi, ac ystyried yn feirniadol destunau eilaidd.
Disgrifiad cryno
 
 Nod y modiwl hwn yw archwilio datblygiad hunaniaethau cenedlaethol yn Ynysoedd Prydain wedi'r Uno rhwng Prydain ac Iwerddon yn 1801. Ymdrinir a themau penodol yng ngoleuni gwaith damcaniaethol ar genhedloedd fel 'cymunedau'r dychymyg'. Ymhlith y themau dan ystyriaeth fydd: y modd y crewyd hunaniaeth Brydeinig a'r tyndra rhyngddi ag hunaniaethau cenedlaethol eraill; dyfeisio 'traddodiadau' newydd; rhyfel ac imperialaeth boblogaidd; agweddau tuag at leiafrifoedd a gender; ac hunaniaeth genedlaethol mewn perthynas a gweithgareddau hamdden, megis chwaraeon. Trafodir yn ogystal y drafodaeth ddiweddar ar natur 'hanes Prydain'.
 
 
 
Llyfryddiaeth
 
Llyfryddiaeth
- Testun A Argymhellwyd Britons: Forging the Nation 1707-1837 - Linda Colley Nineteenth Century Britain - Keith Robbins
 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
