Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Seminarau / Tiwtorialau | Dau ddosbarth tiwtorial unigol un yn gynnar yn y semester i gynghori ar ddadansoddi data a strwythur yr adroddiad; un yn nes ymlaen yn y semester i gynghori ynghylch drafft yr adroddiad prosiect. |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Asesiad Ailsefyll | Ail-gyflwynor adroddiad prosiect aflwyddiannus, gydag adolygiadau os yn briodol. | 100% |
Asesiad Semester | Cyflwyno adroddiad o 4,000 o eiriau ar y prosiect. | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. Cynllunio, dylunio a chyflawni darn o ymchwil neu ymholiad daearyddol trwyadl.
2. Cyflawni ymchwil empiraidd effeithiol ac addas, gan gynnwys casglu data cynradd a/neu grynhoi gwybodaeth o ffynonellau eilaidd
3. Dadansoddi data'n drwyadl, gan ddefnyddio technegau addas a dehongli canlyniadau yng nghyd-destun gwybodaeth a theoriau sy'n bodoli.
4. Cynhyrchu adroddiad ysgrifenedig ar yr ymchwil mewn dull academaidd addas.
5. Dangos hunangymhelliad, gallu i gynllunio a blaengarwch wrth weithio'n annibynnol
Disgrifiad cryno
Modiwl yw hwn ar ffurf prosiect ymchwil annibynnol sy'n cael ei arwain gan y myfyriwr. Bydd pwnc addas o berthnasedd daearyddol yn cael ei gynnig gan y myfyiwr a'i gymeradwyo gan gyd-gysylltydd y modiwl. Mae tair rhan i'r prosiect; (i) ymchwil empiraidd i gasglu data cynradd a/neu gasglu gwybodaeth o ffynonellau eilaidd, fel bo'n briodol ar gyfer y gwaith ymchwil. (ii) dadansoddi data a gwybodaeth, gan gynnwys dehongli canlyniadau yng nghyd-destun gwybodaeth a theoriau sy'n bodoli; (iii) creu adroddiad o 4,000 o eiriau. Pennir ymgynghorydd ar gyfer pob myfyriwr a fydd yn darparu arweiniad i'r myfyriwr ar ddatblygiad y prosiect a sut y dylid adrodd amdano.
Cynnwys
Mae'r modiwl ar ffurf prosiect ymchwil annibynnol yn cael ei arwain gan y myfyriwr. Cynigir y pwnc gan y myfyriwr a'i gymeradwyo gan gyd-gysylltydd y modiwl. Bydd pob myfyriwr yn cael ymgynghorydd ei hun a fydd yn darparu arweiniad ar ddatblygiad y prosiect a sut i gyflwyno adroddiad arno.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | Datblygir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig trwy greu adroddiad o 4,000 o eiriau (a asesir). Datblygir sgiliau cyfathrebu llafar trwy drafod yr ymchwil mewn dosbarthiadau tiwtorial (nas asesir); a gellir eu datblygu trwy ymchwil empiraidd lle defnyddir dulliau ymchwil geiriol |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Ni fydd sgiliau datblygiad personol a chynllunio gyrfa yn cael eu datblygu'n benodol drwy'r modiwl hwn; serch hynny, bydd llawer o'r sgiliau generig a ddatblygir trwy'r prosiect ymchwil yn drosglwyddadwy iawn i ystod eang o yrfaoedd. |
Datrys Problemau | Datblygir sgiliau datrys problemau trwy nodi cwestiynau ymchwil, methodoleg addas a chynllun ymchwil, a thrwy ymatebion i anawsterau a brofir yn ystod casglu'r data. |
Gwaith Tim | Nis datblygir yn y modiwl hwn. |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Bydd myfyrwyr yn cael eu hannog i fyfyrio ar eu profiad o gynllunio ac ymgymryd ag ymchwil yn nhrafodaethau'r dosbarthiadau tiwtorial. |
Rhifedd | Os yn addas i'r pwnc ymchwil a ddewisir, gall myfyrwyr ddatblygu sgiliau rhifyddol trwy gasglu, dadansoddi a chyflwyno data meintiol. |
Sgiliau ymchwil | Datblygir sgiliau ymchwil trwy gasglu a dadansoddi data sy'n briodol ar gyfer ymchwilio i'r cwestiynau ymchwil |
Technoleg Gwybodaeth | Bydd disgwyl i fyfyrwyr ddefnyddio adnoddau TG priodol wrth ddynodi ffynonellau data a chasglu data (e.e. y rhyngrwyd, adnoddau gwybodaeth electronig), wrth ddadansoddi data (e.e. pecynnau ystadegol), ac wrth wneud adroddiad ar y prosiect (e.e. prosesu geiriau, pecynnau GIS a mapio). |
Rhestr Ddarllen
Testun A ArgymhellwydFlowerdew, R. & Martin, D (1997) Methods in Human Geography: a guide to students doing a research project. Longman Chwilio Primo Hoggart, K., Lees, L. & Davies, A. (2002) Researching Human Geography. Arnold Chwilio Primo Kennedy, B. A., yn A. Rogers, H. Viles & A. Goudie (golygyddion) (2002) First catch your hare... research designs for individual projects, The Student's Companion to Geography. Blackwell Chwilio Primo Kneale, P. (1999) Study Skills for Geography Students: a practical guide. Arnold Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6