Module Information

Cod y Modiwl
DD25910
Teitl y Modiwl
THEATR MEWN ADDYSG: RHAN 1
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Disgrifiad cryno

Fe fydd y modiwl yn trafod hanes a theori Theatr-mewn-Addysg rhwng 1960 a 2004. Gan ddefnyddio elfen ymarferol gref er mwyn hyrwyddo datblygiad a dealltwriaeth academaidd, bwriad y modiwl fyth paratoi'r myfyrwyr ar gyfer y profiad ymarferol estynedig o Theatr-mewn-Addysg a geir yn y drydedd flwyddyn; at hynny, bwriedir gosod sail gadarn i bob myfyriwr yn egwyddorion ac ymarfer Theatr-mewn-Addysg; a'i berthynas a theatr, addysg ac Astudiaethau Theatr.

Nod

Fe fydd y modiwl hwn, trwy ddulliau ymarferol a theoretig, yn caniatau i'r myfyrwyr ddarganfod ac archwilio'r technegau a'r methodolegau arbenigol sy'n berthnasol i'r gangen hon o Astudiaethau Theatr. Fe fydd y myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i hanes Theatr-mewn-Addysg, o'i ddechreubwynt fel amrawf yng Nghofentri yn y 1960au hyd at y presennol. Fe fydd y modiwl yn olrhain achau gwahanol fathau o Theatr-mewn-Addysg ac yn galluogi myfyrwyr, trwy gyfres o ddarlithoedd, seminarau a gweithdai, i archwilio'r strwythurau a'r cyd-destunau amrywiol sy'n berthnasol i'r pwnc. Er mwyn hyrwyddo a datblygu'r astudiaethau hyn, disgwylir i'r myfyrwyr ymweld a chwmniau Theatr-mewn-Addysg er mwyn arsylwi ar eu gwaith ac i fynychu'r dangosiadau DVD/fideo a ddarperir er mwyn deall y cymhlethdodau a'r man-wahaniaethau a geir o fewn y math hwn ar theatr (er enghraifft, wrth weithio yn y sector iechyd mewn carchardai neu gyda'r gwasanaeth prawf).

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Mae'r medrau hyn yn ran allweddol o'r gwaith theoretig ac ymarferol, ac yn rhan gynhenid o weithgarwch ThMA: fe'u harddangosir, eu datblygu a'u hasesu'n barhaol yn ystod y modiwl.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Fe ystyrir hyfforddiant a datblygiad proffesiynol fel rhan o'r modiwl. Fe fydd cyd-destunau addysgiadol a therapiwtig a archwilir ar y cwrs yn galluogi'r myfyrwyr i fod yn fwy ymwybodol o opsiynau gyrfaol.
Datrys Problemau Disgwylir i'r myfyrwyr ddadansoddi a chyfrannu i'r broses o ddatrys problemau, gan ragweld ac ol-fyfyrio ar y profiad yn ystod y gweithdai, y sesiynau ymarferol a'r ymarferion dyfeisio ar gyfer y modiwl. Mae'r gallu i ystyried ac archwilio problemau yn ddyfais addysgiadol allweddol bwysig o'r broses ThMA, a astudir yn ddwys yn ystod y modiwl.
Gwaith Tim Trafodir y medrau hyn yn uniongyrchol ar y modiwl ac fe'u gwerthusir a'u hasesir mewn perthynas a'u cyfraniad tuag at y gwaith dosbarth a chreu'r dernyn ThMA ymarferol.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Fel rhan o fethodoleg ThMA, a methodau addysgiadol darganfyddol y mae'n eu hyrwyddo, fe fydd y myfyrwyr yn gwerthuso eu proses a'u perfformiad eu hunain fel tystiolaeth o'u dealltwriaeth o'r modiwl.
Rhifedd Fe gyfeirir yn benodol at gyllido prosiectau ThMA fel rhan o'r modiwl, ond nid asesir y medrau hyn yn uniongyrchol.
Sgiliau pwnc penodol Fe fydd Theatr-mewn-Addysg: Rhan 1 yn codi ymwybyddiaeth ar ran y myfyrwyr o ffurf cyfoes ar y theatr ac Astudiaethau Theatr gyda chysylltiadau cryf o safbwynt cenedlaethol a rhyngwladol. Fe fydd y broses o hyrwyddo gwaith theoretig ac ymarferol gan fyfyrwyr yn y maes hwn yn creu profiad sy'n cwmpasu dadansoddi, theori ac ymarfer. Fe fydd y myfyrwyr sy'n cymryd y modiwl hwn yn gwerthuso'r cymhlethdodau, y cysylltiadau a'r cymhariaethau rhwng theatr ac addysg.
Sgiliau ymchwil Datblygir y medrau hyn wrth baratoi ar gyfer darlithoedd, gweithdai a gwaith ymarferol, ac fel canlyniad i'r ysgogiadau creadigol a geir yn y sesiynau hyn hefyd. Asesie y medrau hyn fel rhan o'r traethawd a'r dernyn ymarferol.
Technoleg Gwybodaeth Ni ddysgir y medrau hyn yn uniongyrchol ar y modiwl; fodd bynnag, fe ddatblygir y sgiliau hyn yn anffurfiol gan y myfyrwyr wrth iddynt ymchwilio, casglu a threfnu gwybodaeth a chysylltu a ffynonellau ac adnoddau priodol. Disgwylir y bydd y myfyrwyr yn gwneud defnydd helaeth o'r rhyngrwyd yn ystod y modiwl i'r perwyl hwn.

Rhestr Ddarllen

Hanfodol
Boal, A., Games for Actors and Non-Actors Routledge (1992) Chwilio Primo Jackson, T., Learning Through Theatre Routledge (1993) Chwilio Primo Oddey, A., Devising Theatre Routledge (2004) Chwilio Primo
Testun A Argymhellwyd
Casdagli, P., Gobey, F., gyda Griffin C., Only Playing Miss! Trentham Books (1990) Chwilio Primo Edwards, D., The Shakespeare Factory, Moon River: The Deal, David Seren (1998) Chwilio Primo Friere, P., Pedagogy of the Oppressed Penguin (1972) Chwilio Primo Johnson, L. & O'Neill, C., (goln.) Dorothy Heathcote: Collected Writings on Education and Drama Hutchinson (1984) Chwilio Primo O'Toole, J., The Process of Drama: Negotiating Art and Meaning Routledge (1992) Chwilio Primo O'Toole, J., Theatre in Education: New Objectives for Theatre - new techniques in education Unibooks (1976) Chwilio Primo Redington, C., Can Theatre Teach? Pergamon (1983) Chwilio Primo Robinson, K., Exploring Theatre and Education Heinemann (1980) Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5