Module Information

Cod y Modiwl
FT30220
Teitl y Modiwl
FFILMIAU GENRE
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Elfennau Anghymharus
TF23220

Manylion y cyrsiau

 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Ailgyflwynor elfenau a fethwyd (dewis o deitlau newydd) 
Asesiad Semester Traethawd 1. 2,000 o eiriau  40%
Asesiad Semester Traethawd 2. 3,000 o eiriau  60%

Canlyniadau Dysgu

Wrth gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fedru:

  1. arddangos gwybodaeth dda o'r genre a astudiwyd;
  2. trafod datblygiad hanesyddol genre sinemataidd benodol gyda sylw arbennig i'r dylanwadau cymdeithasol, hanesyddol a diwylliannol;
  3. Cymhwyso achosion a methodoleg theori ffilm i'r genre dan sylw

Nod

  1. Fe fydd y modiwl yn cyflwyno datblygiad hanesyddol un genre sinemataidd unigol, gan archwilio'r modd mae'r genre wedi esblygu wrth i'r cyd-destun hanesyddol, diwylliannol a chymdeithasol drawsffurfio.
  2. Fe fydd y modiwl yn rhoi cyflwyniad systematig i agweddau amrywiol o theori ffilm sy'n berthnasol i'r genre arbennig dan sylw.
  3. Er gwaetha'r ffaith mai un genre a drafodir, fe fydd ymwybyddiaeth o theori genre yn asgwrn cefn i'r modiwl, gyda ffocws ar y modd y'i defnyddir o fewn astudiaethau ffilm.

Disgrifiad cryno

Ers yr 1970au dadansoddwyd ffilmiau mewn perthynas a genre. Fe fydd y modiwl yn cynnig archwiliad dwfn o un genre arbennig (gall newid yn flynyddol), ac yn olrhain ei datblygiad dros gyfnod o amser, trwy astudiaeth o enghreifftiau 'Hollywoodaidd' a 'byd eang' o'r genre hynny. Mae gan bob un o'r 'prif genres' ystod eang o theoriau yn perthyn iddynt eisoes, a cheir yn ogystal theoriau mwy cyffredinol sy'n canolbwyntio ar yr astudiaeth o ffilmiau genre. Fe fydd y modiwl hwn yn cyflwyno'r theoriau a'r disgyrsiau hynny i'r myfyrwyr. Pa bynnag genre a ddewisir ei ddadansoddi, fe fydd y modiwl yn ffocysu ar y prif fudiadau artistig sydd wedi dylanwadu'r genre, y testunau allweddol, a'r disgyrsiau dominyddol a ddefnyddir i archwilio'r testunau hynny. Enghreifftiau o genres posib yw ffilmiau arswyd, 'Westerns', sioeau cerdd, ffilm noir, ffilmiau 'gangster'.

Cynnwys

Fe fydd cynnwys y modiwl yn amrywio o genre i genre, ond defnyddir ffilm noir fel enghraifft yma.

Gwreiddiau Ffilm Noir: Mudiad Mynegiadaethol yr Almaen The Cabinet of Dr Caligari (1920)
Ffilm Noir Glasurol: Amheuaeth a Pharanoia wedi'r Ail Ryfel Byd The Maltese Falcon (1941)
Welles a Ffilm Noir: Ochr Dywyll yr UDA A Touch of Evil (1958)
Dylanwad nofelau Raymond Chandler: The Big Sleep (1946)
Y 'Femme Fatale' Mildred Pierce (1945)
Dihirod Gwrywaidd: Rebecca (1940)
Croes beillio: Ffilm Noir 'Western' High Noon (1952)
Neo-Noir Chinatown (1964)
Ffilm Noir Gyfredol: L.A. Confidential (1997)
Tech Noir Teithiau i'r Dyfodol Bladerunner (1982)

Seminarau

  1. Perthnasedd Genre i Astudiaethau Ffilm
  2. Dadansoddi Ffilm Noir o safbwynt cyd-destun
  3. Dadansoddi techneg Ffilm Noir
  4. Dadansoddiad Ffilm Noir yn destunol
  5. Ffiniau'n pylu: Dyfodol y Cysyniad

Rhestr Ddarllen

Testun A Argymhellwyd
Altman, Rick (1999) Film/Genre London:BFI Chwilio Primo Braudy, Leo (1998) Film Theory and Criticism 5th Edition, Braudy, L & Cohen, M Genre: The Conventions of Connection Oxford: Oxford UP Chwilio Primo Buscombe, Edward (1970) The idea of genre in American cinema' Screen 2.2 Chwilio Primo Collins, Richard (1976) Movies and Methods Volume 1, Bill Nichols (ed) Genre: A reply to Ed Buscombe Berkeley: University California Press Chwilio Primo Grant, Barry (1995) Film Genre Reader II Austin: University of Texas Press Chwilio Primo Grant, Barry (1977) Film Genre: Theory and Criticism Metuchen, NJ: Scarecrow Press Chwilio Primo Griffith, Richard (1976) Cycles and Genres in Bill nichols ed Movies and Methods Volume 1 University of California Press Chwilio Primo Neale, Stephen (1980) Genre London: BFI Chwilio Primo Neale, Stephen (2002) Genre and Contemporary Hollywood London: BFI Chwilio Primo Neale, Stephen (2000) Genre and Hollywood Routledge Chwilio Primo Schatz, Thomas (1981) Hollywood Genres: Formulas, Film-making and the Studio System New York: Random House Chwilio Primo Tudor, Andrew (1976) Movies and Methods Volume I - Bill Nichols ed Genre and Critical Methodology Berkeley University of California Press Chwilio Primo

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6