Module Information
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Darlithoedd | 16 Hours. (16 x 1 awr) | 
| Seminarau / Tiwtorialau | 7 Hours. (7 x 1 awr) | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Arholiad Ailsefyll | ||
| Arholiad Semester | 2 Awr | 50% | 
| Asesiad Semester | 1 x traethawd 3,000 o eiriau | 50% | 
Canlyniadau Dysgu
 
 Erbyn cwblhau'r modiwl disgwylir y bydd myfyrwyr yn gallu: 
 
 - deall a dadansoddi'n feirniadol prif nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol y gwahanol gynlluniau a gafwyd cyn 1997 ar gyfer rhywfath o Senedd i Gymru; 
 - deall a dadansoddi'n feirniadol prif nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru; 
 - deall a gwerthuso'r natur y broses bolisi yn y Cynulliad Cenedlaethol;
 - ystyried yn ddeallus a thrafod y dystiolaeth parthed natur cystadleuaeth bleidiol yn y gyfundrefn ddatganoledig
 
 
Disgrifiad cryno
Bwriad y modiwl yw cyflwyno myfyrwyr i'r gyfundrefn lywodraethol ddatganoledig a sefydlwyd yn 1999.
Nod
- prif nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol y gwahanol gynlluniau a gafwyd cyn 1997 ar gyfer rhywfath o Senedd i Gymru;
- prif nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
- natur y broses bolisi yn y Cynulliad Cenedlaethol;
- natur cystadleuaeth bleidiol yn y gyfundrefn ddatganoledig.
Cynnwys
Bydd y modiwl arloesol yma'n bwrw golwg ar y gwahanol ymdrechion a gafwyd i sicrhau mesur o hunanlywodraeth i Gyrmu o ddyddiau Cymru Fydd yn niwedd y 19 ganrif hyd at 1997 gan roi sylw arbennig i nodweddion strwythurol a chyfansoddiadol y cynlluniau a osodwyd gerbron. Trafodir yn fwy manwl yr egwyddorion cyfansoddiadol sy'r sail i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ogystal a'r gwerthoedd a geiswyd eu hymgorffori yn ei strwythur mewnol. Rhoddir sylw hefyd i natur y broses bolisi yn y Cynulliad Cenedlaethol yn ogystal a natur cystadleuaeth bleidiol yn y gyfundrefn ddatganoledig.
Sgiliau trosglwyddadwy
10 Credydau ECTS
Rhestr Ddarllen
Testun A CyffredinolLlywodraeth y Cynulliad (2004) Adroddiad Comisiwn Richard HMSO Chwilio Primo Chaney, P., Hall, T., Pithouse (gol) (2001) New Governance - New Democracy? Post Devolution Wales Gwasg Prfiysgol Cymru, Caerdydd Chwilio Primo Hazell R (gol) (2003) The state of the Nations: The Third Year of Devolution in the United Kingdom Llundain, UCL, Imprint Academic Chwilio Primo Morgan, Kenneth O. (1998) Rebirth of a nation :a history of modern Wales /Kenneth O. Morgan. Chwilio Primo Osmond J and Barry Jones, J (gol) (2003) Birth of Welsh Democracy: The First Term of the National Assembly Caerdydd, Sefydliad Materion Cymreig Chwilio Primo Rawlings, Richard. (2003) Delineating Wales :constitutional, legal and administrative aspects of national devolution /by Richard Rawlings. Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
