Module Information

Cod y Modiwl
GY25210
Teitl y Modiwl
PROFIAD GWAITH
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 1 awr. 50 awr o brofiad gwaith. Dosbarthiadau Tiwtorial.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll Ail-gyflwyno y Portffolio  100%
Arholiad Semester Gwaith Cwrs  Portffolio  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi iddynt gwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr allu:

1. Dadansoddi eu sgiliau, eu cryfderau a'u gwendidau eu hunain

2. Canfod a chwblhau 50 awr o brofiad gwaith

3. Dangos dealltwriaeth o'r hyn y mae'r sefydliad sy'n eu cyflogi yn ei wneud, sut y caiff ei reoli, a beth yw eu rol hwy yn y sefydliad, ynghyd ag ymwybyddiaeth o reoliadau statudol megis Iechyd a Diogelwch.

4. Dangos y gallu i ddefnyddio sgiliau a gwybodaeth mewn sefyllfa waith, a gwerthuso hyn.

5. Creu cynllun gweithredu er mwyn datblygu sgiliau cyflogadwyedd personol yn y dyfodol.

Disgrifiad cryno


Disgrifiad cryno

Mae'r modiwl profiad gwaith wedi'i gynllunio i ganiatau i fyfyrwyr ddefnyddio 50 awr o waith cyflogedig neu wirfoddol yn gyfle i ddatblygu'u hunain ac i wella eu cyfle o ganfod swydd. Ar ddechrau'r modiwl bydd y myfyrwyr yn canfod profiadau gwaith posibl ac yn archwilio sgiliau, cryfderau a gwendidau personol. Yna bydd y modiwl yn parhau a chyfnod o brofiad gwaith, a hynny'n arwain at gyflwyno portffolio o ddeunydd er mwyn ei asesu. Gall y profiad gwaith fod mewn unrhyw fath o waith a gall ddigwydd ar unrhyw adeg, yn ystod y tymor neu'r gwyliau, rhwng diwedd y flwyddyn gyntaf a diwedd yr ail flwyddyn. Mae'r modiwl yn cael ei gefnogi'n llawn gan adnoddau ar-lein er mwyn gallu cadw cyswllt a rhoi arweiniad pryd bynnag a ble bynnag y gwneir y gwaith.

Cyn i fyfyrwyr wneud unrhyw brofiad gwaith rhaid i'r Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff gytuno bod y cyflogwr yn un addas. Rhaid iddynt sicrhau bod dwy adran holiadur iechyd a diogelwch y modiwl wedi'u cwblhau a bod llythyr wedi'i gynnwys gan frocer/cwmni yswiriant y cwmni yn nodi lefel yr yswiriant atebolrwydd ac yn datgan yn glir y dyddiadau pan fydd yr yswiriant yn ddilys. Rhaid cyflwyno copi o'r holiadur a'r llythyr i'r adran cyn cychwyn unrhyw brofiad gwaith, a rhaid cynnwys copi yn y portffolio a fydd yn cael ei asesu.

Nod


Amcanion

1. Cwblhau cyfnod o brofiad gwaith
2. Dadansoddi eich hun a datblygu sgiliau cyflogadwyedd
3. Paratoi portffolio o dystiolaeth

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5