Module Information
			 Cod y Modiwl
		
HA30100
			 Teitl y Modiwl
	 
			 TRAETHAWD ESTYNEDIG
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2009/2010
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
HY30100 
			 Staff Eraill sy'n Cyfrannu
	 
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Darlithoedd | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Disgrifiad cryno
 
 Cynigia rhan gyntaf y modiwl rhagbaratoad i fyfyrwyr Anrhydedd Sengl Hanes er mwyn cynllunio ac ymchwilio ar gyfer traethawd estynedig ar lefel israddedig. Yn ystod y semester cyntaf bydd myfyrwyr yn diffinio'u testun gan ymgynghori gyda goruchwyliwr o blith staff yr Adran ac yn cyflwyno cynllun o'r traethawd arfaethedig. Darperir darlithoedd a gweithdai yn Semester 1 yn trafod problem diffinio testun traethawd estynedig ac ar gynllunio'r ymchwil a'r ysgrifennu. Cynigir cymorth priodol ar leoli ffynonellau a llunio llyfryddiaethau. Erbyn diwedd Sesiwn 4 disgwylir i fyfyrwyr benderfynu ar eu testun a dewisir goruchwyliwr ar eu cyfer ar sail y testun hwnnw. Bydd sesiynau 6-8 yn gyfarfodydd seminar mewn grwpiau gyda'r goruchwylwyr.
 
Bydd myfyrwyr wedyn yn ymchwilio ac ysgrifennu traethawd estynedig 12,000 o eiriau ar draws dau semester ar destun a gymeradwywyd, o dan oruchwyliaeth aelod penodol o'r staff, gan ddibynnu ar natur y testun dan sylw.
 
 
Bydd myfyrwyr wedyn yn ymchwilio ac ysgrifennu traethawd estynedig 12,000 o eiriau ar draws dau semester ar destun a gymeradwywyd, o dan oruchwyliaeth aelod penodol o'r staff, gan ddibynnu ar natur y testun dan sylw.
Nod
Pwrpas y modiwl yw i roi arweiniad i fyfyrwyr ar sut i fynd ati i gynllunio darn o waith hanesyddol, eu paratoi gogyfer a'r dasg o gynhyrchu'r traethawd estynedig, a'u cyfarwyddo drwy'r broses o ysgrifennu'r gwaith. Bydd myfyrwyr yn astudio sut i ddiffinio testun addas, sut i chwilio am ffynonellau a sut i osod eu hymchwil mewn cyd-destun hanesyddiaethol.
Cynnwys
 
 Semester 1: wyth sesiwn:
Sesiwn 1: Cyflwyniad Cyffredinol (2 awr)
Sesiwn 2: TG a Sgiliau Gwybodaeth (2 awr)
Sesiwn 3: Ffynonellau ac Ymchwil (2 awr)
Sesiwn 4: Diffinio'r Pwnc: Gweithdy i fyfyrwyr i drafod eu syniadau, gyda chyngor oddi wrth aelodau o'r staff. (2 awr)
Sesiwn 5: Cyfarfod unigol gyda'r goruchwyliwr (30 munud)
Sesiwn 6: Dadansoddi Ffynonellau (2 awr)
Sesiwn 7: Materion Hanesyddiaethol (2 awr)
Sesiwn 8: Cynllunio (2 awr)
 
 
Sesiwn 1: Cyflwyniad Cyffredinol (2 awr)
Sesiwn 2: TG a Sgiliau Gwybodaeth (2 awr)
Sesiwn 3: Ffynonellau ac Ymchwil (2 awr)
Sesiwn 4: Diffinio'r Pwnc: Gweithdy i fyfyrwyr i drafod eu syniadau, gyda chyngor oddi wrth aelodau o'r staff. (2 awr)
Sesiwn 5: Cyfarfod unigol gyda'r goruchwyliwr (30 munud)
Sesiwn 6: Dadansoddi Ffynonellau (2 awr)
Sesiwn 7: Materion Hanesyddiaethol (2 awr)
Sesiwn 8: Cynllunio (2 awr)
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Datblygir medru cyfathrebu llafar drwy gyfrwng y gweithdy, y seminarau a'r tiwtorialau lle mae gofyn i fyfyrwyr drafod eu ffynonellau, eu methodoleg a'u cynnydd. Datblygir y gallu i gyfathrebu'n effeithiol ar bapur drwy'r ymarferion yn semester 1 a thrwy'r broses o ysgrifennu'r traethawd estynedig. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Datblygu ymwybodaeth o medrau personol, safbwyntiau a nodweddion personol; profiad uniongyrchol o gynllunio a chyflwyno gwaith hanesyddol a all fod o ddefnydd ar gyfer gyrfa yn y dyfodol. | 
| Datrys Problemau | Rhoddir cyfarwyddyd i fyfyrwyr i'w cynorthwyo i adnabod y problemau posib a all godi wrth gynllunio ac ymchwil i brosiect ymchwil hanesyddol a byddant yn trafod problemau ac atebion posib yn y grwpiau seminar a gyda'r goruchwyliwr. | 
| Gwaith Tim | Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd yn ystod y gweithdy a'r seminarau. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Disgwylir i fyfyrwyr fedru trefnu'u gwaith ac adrodd yn ôl i'w goruchwyliwr ar eu cynnydd. Drwy'r broses hon, disgwylir iddynt ddatblygu'r gallu i fyfyrio'n feirniadol ar eu gwaith. | 
| Rhifedd | Heb fod yn berthnasol, onibai fod y traethawd wedi seilio ar hanes economaidd gyda gogwydd mesurol amlwg. | 
| Sgiliau ymchwil | Seilir y traethawd ar ymchwil wreiddiol ac y mae datblygu dulliau ymchwil effeithiol yn rhan hanfodol o¿r modiwl. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-Rom, ac i'w ddefnyddio mewn ffordd addas er mwyn darganfod ffynonellau addas ar gyfer eu testun ymchwil. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth ysgrifennu'r gwaith. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6
