Module Information

Cod y Modiwl
HA34620
Teitl y Modiwl
ARCHWILIO ARDDANGOSFEYDD Y BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG
Blwyddyn Academaidd
2009/2010
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2
Elfennau Anghymharus
HY34620, HY32320, HY32720, HY32820, HY33120, HY33320, HY33420, HY33520, HY34120, HY34320, HY34520, HY34720, HY34820

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Seminarau / Tiwtorialau 10 Seminar x 100 munud Tiwtorial unigol (10-15 munud) ar gyfer pob traethawd
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Semester 1 dadansoddiad o ffynhonnell (1500 o eiriau)  20%
Asesiad Semester 1 prosiect (5000 o eiriau)  60%
Asesiad Semester 1 traethawd (1500 o eiriau)  20%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Arddangos eu bod yn gyfarwydd a chorff o wybodaeth hanesyddol yn ymwneud ag arddangosfeydd a thechnoleg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Arddangos dealltwriaeth o rychwant o ffyrdd i astudio arddangosfeydd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan gynnwys dulliau o ddisgyblaethau eraill.

Darllen, deall a myfyrio'n feirniadol ar ffynonellau gwreiddiol perthnasol

Mynegi dealltwriaeth a thrafod y pwnc dan sylw yn ysgrifenedig.

Gweithio ar eu pennau eu hunain yn ogystal a gyda'i gilydd, ac i chwarae rhan mewn trafodaethau gyda'r grwp. (heb ei asesu)

Disgrifiad cryno

Bydd y modiwl yn datblygu ymwybyddiaeth feirniadol y myfyrwyr o ffynonellau a dulliau ymchwil drwy archwiliad o rychwant o ffynonellau sy'n berthnasol i arddangosfeydd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Edrychir ar y modd yr oedd arddangosfeydd a sioeau poblogaidd yn gweithredu fel ffyrdd o gategoreiddio, dofi a gwneud synnwyr o'r dieithr a'r anarferol. Archwilir y berthynas rhwng datblygiad hanesyddol yr arddangosfa a'r cynnydd mewn diwylliant y defnyddwyr yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Drwy banorama, llusern hud, galeriau o wyddoniaeth ymarferol ac arddangosfeydd diwydiannol, dysgodd cynulleidfaoedd sut i weld yr estron fel rhan o'u diwylliant a sut i ddeall cynnydd gwyddonol a thechnegol.

Nod

Bydd y modiwl yn darparu cyflwyniad i ddiwylliant arddangosfeydd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, i'w diwylliant materol ac i'r cynulleidfaoedd a oedd yn eu mynychu. Modiwl Sgiliau yw hwn, a'r bwriad yw i roi cyfle i fyfyrwyr yr ail flwyddyn i ddatblygu sgiliau a ffyrdd o astudio hanes.

Cynnwys

1. Ystyriaethau damcaniaethol
2. Golwg banoramig
3. Arddangos Gwyddoniaeth
4. Sut mae'n gwneud e?
5. Yr Arddangosfa Fawr
6. Pensaerniaeth Arddangos
7. Dofi Natur
8. Technoleg aruchel
9. Celfyddyd Taflunio
10. Lluniau'n symud
Tiwtorial unigol i ddychwelyd traethodau

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Datblygir sgiliau cyfathrebu ar lafar ac yn ysgrifenedig trwy'r seminarau a'r atborth ynglyn a'r gwaith ysgrifenedig. Asesir y medrau hyn.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Datblygir sgiliau defnyddiol gan y modiwl hwn, gan gynnwys sgiliau cyfathrebu ar lafar ac ysgrifenedig, sgiliau ymchwil, asesu gwybodaeth, ac ysgrifennu mewn ffordd clir a beirniadol
Datrys Problemau Bydd disgwyl i'r myfyrwyr ddod o hyd i ac asesu ffynonellau gwreiddiol. Asesir y medr hwn trwy'r gwaith asesiedig.
Gwaith Tim Datblygir sgiliau perthnasol drwy waith seminar.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Dychwelir y gwaith ysgrifenedig mewn tiwtorialau a rhoddir cyngor ar sut i wella medrau ymchwil a medrau ysgrifennu. Ni asesir y medrau hyn.
Rhifedd Cyflwynir rhywfaint o wybodaeth ystadegol yn ystod y seminarau a bydd defnydd addas o'r ystadegau tebyg yn ffurfio rhan o asesiad y gwaith ysgrifenedig
Sgiliau pwnc penodol Datblygu ymwybyddiaeth o rychwant o ffynonellau addas
Sgiliau ymchwil Bydd disgwyl i'r myfyrwyr wneud ymchwil ar gyfer y seminarau ac ar gyfer y gwaith asesiedig. Asesir y medrau hyn trwy'r gwaith ysgrifenedig.
Technoleg Gwybodaeth Anogir y myfyrwyr i chwilio am ffynonellau yng nghatalogau llyfrgell a databasau ar-lein. Anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth greu eu gwaith. Ni asesir y sgiliau hyn.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6