Module Information
Manylion y cyrsiau
Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
---|---|
Sesiwn Ymarferol | |
Darlithoedd | 20 sesiwn 1-awr o ddarlithoedd MP14010 a dosbarthiadau enghreifftiau (darlithoedd drwy gyfrwng y Saesneg) |
Dulliau Asesu
Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
---|---|---|
Arholiad Semester | 2 awr: arholiad ysgrifenedig | 70% |
Asesiad Semester | Gwaith cwrs: 2 daflen asesiad | 30% |
Asesiad Ailsefyll | 2 awr: arholiad ysgrifenedig | 100% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
1. disgrifio egwyddorion sylfaenol dynameg a pherthnasedd arbennig.
2. modelu problemau mewn dynameg a pherthnasedd arbennig gyda hafaliadau mathemategol, cymhwyso technegau datrys elfennol i'r hafaliadau hyn a dehongli'r canlyniadau yn y cyd-destun ffisegol.
3. datrys problemau rhifol mewn dynameg a pherthnasedd arbennig.
Disgrifiad cryno
Mae'r modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i ddamcaniaeth glasurol dynameg a damcaniaeth perthnasedd arbennig. Bydd y problemau sy'n cael eu trafod mewn dynameg yn cynnwys cinemateg glasurol, Deddfau Newton, egni a momentwm a mudiant mewn maes disgyrchedd. Bydd goblygiadau egwyddorion perthnasedd arbennig ar gyfer y cysyniadau o ofod ac amser hefyd yn cael eu hastudio.
Nod
Mae'r modiwl yn datblygu egwyddorion a thechnegau dynameg a pherthnasedd. Bydd pwyslais ar ddatrys problemau, a bydd taflenni enghreifftiau yn cynnwys ymarferion rhifol. Mae'r modiwl yn addas fel modiwl craidd ar gyfer cynlluniau gradd anrhydedd mewn Mathemateg a Ffiseg. Mae'r modiwl hefyd yn paratoi myfyrwyr ar gyfer astudiaeth uwch o'r testunau hyn yn MP21010.
Cynnwys
Mesurau sgalar a fector, fector lleoliad, cydrannau fector, fector uned, lluoswm sgalar a fector.
DYNAMEG
Cinemateg: cyflymiad cyson, mudiant teflyn.
Deddfau mudiant Newton: momentwm, pwysau, grymoedd cyffwrdd ar solidau, ffrithiant, mudiant mewn cylch a grym mewngyrchol, grym gwrthiannol.
Gwaith ac Egni: gwaith a wneir gan rym, egni cinetig, pwer, grym cadwrol, egni potensial, cadwraeth egni mecanyddol.
Cadwraeth Momentwm: craidd mas, gwrthdrawiadau, cyfernod adfer, gwthiad roced.
Disgyrchiant: Deddfau Kepler, Deddf disgyrchedd Newton, egni potensial disgyrchedd.
PERTHNASEDD
Cyflwyniad a thrafodaeth ar ddiffygion ffiseg cyn perthnasedd, sy'n arwain at gynosodiadau Perthnasedd Arbennig a chanlyniadau pellgyrhaeddol yn ein deall o ofod ac amser. Caiff trawsffurfiadau Lorentz-Einstein eu deillio o'r cynosodiadau, gan arwain at ddeall o helaethiad amser a chyfangiad Lorentz.
Sgiliau Modiwl
Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
---|---|
Cyfathrebu | |
Datblygu personol a chynllunio gyrfa | |
Datrys Problemau | Datblygir sgiliau datrys problemau drwy gydol y modiwl yma a chant eu hasesu drwy aseiniadau ac yn yr arholiad ysgrifenedig. |
Gwaith Tim | |
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | |
Rhifedd | |
Sgiliau pwnc penodol | |
Sgiliau ymchwil | |
Technoleg Gwybodaeth |
Rhestr Ddarllen
Testun A CyffredinolFrench, A. P. (1968 [unspecifi) Special relativity /A.P. French. CRC Press Chwilio Primo Testun A Argymhellwyd
Tipler, Paul Allen (c2004.) Physics for scientists and engineers /[Paul A. Tipler, Gene Mosca] 5th ed. W.H. Freeman and Co Chwilio Primo
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4