Module Information

Cod y Modiwl
ADM5100
Teitl y Modiwl
DYSGU AC ADDYSGU (CYMRAEG)
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 1 (Dysgwyd dros 2 semester)
Cyd-Ofynion
Cyd-Ofynion
Dewis un modiwl dull opsiwn o: AD36110, AD36210, AD36310, AD36410, AD36510.
Cyd-Ofynion
Rhagofynion
Gofynion Mynediad ar gyfer y TAR

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd 8 awr x 10 wythnos
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Aseiniad Ysgrifenedig 2 (5000 gair)  Bydd yn rhaid ailsefyll pob elfen or asesiad a fethwyd os yw cyfartaledd y marc yn is nar marc pasio gofynnol, sef 50%. Gosodir Teitl Newydd.   50%
Asesiad Ailsefyll Aseiniad Ysgrifenedig 1 (3500 gair)  Bydd yn rhaid ailsefyll pob elfen or asesiad a fethwyd os yw cyfartaledd y marc yn is nar marc pasio gofynnol, sef 50%. Gosodir Teitl Newydd.   50%
Asesiad Semester Aseiniad ysgrifenedig 1A (2000 gair) ac 1B (1500 gair)  50%
Asesiad Semester Aseiniad Ysgrifenedig 2 (5000 gair)  50%

Canlyniadau Dysgu

Ar ol cwblhau'r modiwl hwn, dylai myfyrwyr fod yn gallu:

1. Cysylltu theoriau ysgogiadol mewn modd beirniadol ag arferion ysgol ac ystafelloedd dosbarth drwy ddefnyddio enghreifftiau o'u profiadau arsylwi a'r harferion ym Mhrofiad Ysgol 1;

2. Gwerthuso mewn modd beirniadol y modd y mae disgyblion yn dysgu ac yn cynllunio'n unol a hyn;

3. Trafod mewn modd beirniadol unrhyw agwedd ar eu pwnc a allai arwain at gamddealltwriaeth ymhlith disgyblion neu sy'n anodd ei deall neu sy'n ddadleuol;

4. Dadansoddi mewn modd beirniadol y modd y mae disgyblion yn dysgu drwy ddefnyddio enghreifftiau amrywiol o waith y disgyblion a aseswyd.

Disgrifiad cryno

Mae'r Cwrs Dull Dysgu ac Addysgu (Cymraeg) wedi'i gynllunio fel ei fod yn bodloni disgwyliadau Cylchlythyr 41/2006 Llywodraeth Cynulliad Cymru. Yn y modiwl hwn, mae gofyn i ddarpar athrawon ddangos bod ganddynt wybodaeth a dealltwriaeth gadarn ynglyn a Chymraeg fel eu pwnc addysgu. Yn ogystal, mae gofyn iddynt wybod a deall Rhaglenni Astudio'r Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyferCymraeg yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4, ynghyd a'r Llwybrau Dysgu ar gyfer y cyfnod 14-19.
Fel rhan o'u datblygiad proffesiynol parhaus, bydd gofyn i ddarpar athrawon adolygu'n barhaus (drwy gynnal awdit) yr hyn y maent yn ei wybod a'i ddeall am eu pwnc ynghyd a Sgiliau Allweddol. Yn ogystal, bydd gofyn iddynt ddiweddaru'u Cynllun Gweithredu Datblygiad Proffesiynol yn unol a hyn. Drwy amrywiol weithdai rhyngweithiol, (fel unigolion, mewn parau neu mewn grwpiau), cyflwynir y darpar athrawon i ystod o strategaethau addysgu ac asesu.

Cynnwys

Yn y modiwl hwn, trafodir y testunau canlynol sy'r ymwneud a Safonau Statws Athro Cymwysedig ar gyfer y prif ddulliau pwnc.
Dyma'r themau ar gyfer y 10 wythnos (dros 2 semester) a byddant yn defnyddio enghreifftiau o adnoddau dysgu ac addysgu sy'r berthnasol i ddysgu Cymraeg.

1. Dealltwriaeth ynghylch anghenion dysgu amrywiol disgyblion
2. Gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch Cymraeg yng Nghyfnod Allweddol 3, 4 a 5.
3. Gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch y Cwricwlwm Cenedlaethol, gan gynnwys y Cwricwlwm Cymreig
4. Gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch asesu allanol yng Nghyfnod Allweddol 3, 4 a 5, gan gynnwys y Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol a'r Llwybrau Dysgu.
5. Y gallu i ddefnyddio TGCh yn effeithiol
6. Gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch strategaethau rheoli dosbarthiadau
7. Y gallu i gynllunio a pharatoi adnoddau ar gyfer gwersi effeithiol sy'r heriol ac sy'r berthnasol i bob disgybl
8. Y gallu i ddysgu gwersi sydd a strwythur, sy'r amrywiol, sy'r cymell y disgyblion ac sy'r rhyngweithiol
9. Y gallu i wahaniaethu er mwyn bodloni anghenion pob disgybl, gan gynnwys y rhai sydd ag AAA
10. Y gallu i fonitro, asesu a chofnodi cynnydd y disgyblion

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Drwy weithdai, bydd gofyn i ddarpar athrawon rannu profiadau datblygiad proffesiynol a chânt eu hannog i fynegi'u barn am faterion addysgiadol (ni chaiff hyn ei asesu). Bydd adolygu'u datblygiad proffesiynol yn agwedd allweddol ar y modiwl hwn a chaiff ei asesu.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Mae cryfderau a blaenoriaethau darpar athrawon ar gyfer datblygiadau proffesiynol yn y dyfodol yn elfen o'r Portffolio Datblygiad Proffesiynol. Bydd cwblhau'r PDP yn galluogi myfyrwyr i adnabod yn well y dystiolaeth sy'n cadarnhau'u cyraeddiadau (cryfderau, galluoedd, sgiliau), dyheadau a'r blaenoriaethau o ran eu datblygiad proffesiynol, a bydd o gymorth iddynt gwblhau Adran A y Proffil Dechrau Gyrfa a fydd yn grynodeb o'u Hyfforddiant Cychwynnol i Athrawon yn ogystal â'u paratoi ar gyfer eu cyfnod Cyflwyno.
Datrys Problemau Bydd gofyn i ddarpar athrawon ddewis y strategaethau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol ar gyfer y testunau yn eu pwnc. Byddant hefyd yn ystyried y modd y dylid dysgu testunau dadleuol i ddisgyblion yn ogystal ag ymdrin â chamddealltwriaeth ymhlith disgyblion.
Gwaith Tim Bydd y darpar athrawon yn ymgymryd â thasgau gr¿p yn y modiwl hwn. Anogir rhannu arferion da a phrofiadau ysgol drwy drafodaethau grwp.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Mae'r modiwl yn gofyn i ddarpar athrawon gynnal archwiliad o'r hyn y maent yn ei wybod a'i ddeall am eu pwnc, ynghyd â'r Sgiliau Allweddol. Caiff y cynnydd ei fonitro drwy'r Cynlluniau Gweithredu Datblygiad Proffesiynol (CGDP).
Rhifedd Ymdrinnir â'r sgil allweddol hwn mewn rhai pynciau megis gwyddoniaeth
Sgiliau pwnc penodol Sgiliau sy¿n ymwneud â dysgu Cymraeg i ddisgyblion.
Sgiliau ymchwil Bydd gofyn i ddarpar athrawon ddod â gwybodaeth ynghyd sy'n gysylltiedig â materion perthnasol wrth ddysgu eu pwnc opsiynol a gwerthuso'r wybodaeth honno mewn modd beirniadol.
Technoleg Gwybodaeth Defnyddio'r We at ddibenion ymchwil yn ogystal â theipio aseiniadau. Datblygu hunanhyder wrth ddefnyddio TGCh yn y gwaith o gynllunio a chyflwyno gwersi.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 7