Module Information
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu |
|---|---|
| Darlithoedd | 2 x darlith 1 awr bob wythnos |
| Darlithoedd | 1 x darlith 2 awr bob wythnos |
| Sesiwn Ymarferol | 5 x sesiwn ymarferol 3 awr yn ystod y semester |
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran |
|---|---|---|
| Asesiad Semester | GWAITH CWRS: LLYFR ADRODDIADAU YMARFEROL | 50% |
| Arholiad Semester | 1.5 Awr Arholiad | 50% |
| Asesiad Ailsefyll | GWAITH CWRS | 50% |
| Arholiad Ailsefyll | 1.5 Awr | 50% |
Canlyniadau Dysgu
Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:
Egluro cysyniadau esblygiad, poblogaethau, cymunedau, ecosystemau, cynefinoedd, niche, dilyniant ecolegol, cylchu sylwedd a llif egni;
Dangos eu bod yn gyfarwydd a nodweddion amrywiaeth o gynefinoedd tirol, dwr croyw a morol ac yn gallu egluro eu dosbarthiad daearyddol a'r datblygiad hanesyddol;
Defnyddio allweddau adnabod a dangos gwybodaeth yngl'r a systemau dosbarthu organebau a chynefinoedd;
Dangos gwybodaeth am sut mae planhigion, anifeiliaid a micro-organebau yn addasu i'r amgylchedd;
Defnyddio technegau addas i gofnodi, cyflwyno, dadansoddi a dehongli data maes ecolegol.
Disgrifiad cryno
Trwy amrywiaeth o ddarlithoedd, sesiynau ymarferol ac ymweliadau a'r maes, bydd y modiwl yma yn cyflwyno'r prosesau a'r egwyddorion biolegol ac ecolegol sylfaenol sydd ar waith mewn amrywiaeth o gynefinoedd ym Mhrydain. Amlinellir yr egwyddorion gwyddonol sylfaenol sy'n sail i bob system fiolegol a bydd sgiliau sylfaenol dosbarthu organebau a chynefinoedd yn cael eu cyflwyno. Drwy ddefnyddio technegau maes a labordy mewn sesiynau ymarferol byddwn yn eich cynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth o gysyniadau niche, cynefinoedd, poblogaethau a chymunedau a fydd yn sail i'ch astudiaeth o amrywiaeth o gynefinoedd pwysig Prydain. Telir sylw arbennig i'r rhan y mae pobl yn ei chwarae yn natblygiad a rheolaeth y cynefinoedd allweddol hyn.
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau |
|---|---|
| Rhifedd | Bydd ymarferion yn y maes yn cynnwys casglu data. Bydd data yn cael ei fapio, ei ddadansoddi a'i ddehongli yn rhan o'r adroddiadau ymarferol a asesir. |
| Sgiliau ymchwil | Bydd angen ysgrifennu'r adroddiadau maes ar ffurf adroddiadau gwyddonol safonol. |
| Technoleg Gwybodaeth | Bydd canlyniadau rhai ymarferion yn y maes yn cael eu casglu a'u dadansoddi gan ddefnyddio taenlenni. Bydd gwybodaeth atodol ar gyfer y modiwl yn cael ei darparu trwy gyfrwng y rhyngrwyd. |
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 4
