Module Information
			 Cod y Modiwl
		
CC22120
			 Teitl y Modiwl
	 
			 CYLCH BYWYD DATBLYGIAD MEDDALWEDD
	 
		 	Blwyddyn Academaidd
	 
			 2010/2011
	 
			 Cyd-gysylltydd y Modiwl
	 
			 Semester
	 
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
 Cofrestru yn yr Adran
 
			 Staff Eraill sy'n Cyfrannu
	 
Manylion y cyrsiau
| Math o Ddysgu | Manylion / Hyd Dysgu | 
|---|---|
| Darlithoedd | 18 awr | 
| Eraill | Gweithdai. Hyd at 24 | 
Dulliau Asesu
| Math o Assessiad | Manylion / Hyd Assessiad | Cyfran | 
|---|---|---|
| Asesiad Semester | Gwaith cwrs a asesir. | 75% | 
| Arholiad Semester | 2 Awr arholiad ysgrifenedig ar ddiwedd Semester 1 - ddiwedd Semester 1 | 25% | 
| Arholiad Ailsefyll | 2 Awr Nid oes cyfle Allanol NAC Atodol i ailsefyll elfen prosiect y modiwl hwn. Y mae'r arholiad atodol ar gael. | 25% | 
| Asesiad Ailsefyll | Nid oes cyfle Allanol NAC Atodol i ailsefyll elfen prosiect y modiwl hwn - bydd y marc am yr elfen hon yn cael ei gario ymlaen. | 
Canlyniadau Dysgu
 
 Prif ganlyniad dysgu'r modiwl hwn yw y dylai'r myfyriwr fod yn gallu: 
 1. Cymryd rhan mewn prosiect ar raddfa ddiwydiannol.
 
 Yn ogystal, are ol cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, dylai myfyrwyr fod yn gallu:
 2. Cymhwyso elfennau cylchoedd bywyd meddalwedd, cyferbynnu amrediad o fodelau cylch bywyd a dewis modelau priodol ar gyfer ystod o brosiectau nodweddiadol;
 
3. Cymhwyso gweithdrefnau ansawdd meddalwedd ac argyhoeddi eraill o'u gwerth;
4. Defnyddio rheoli fersiwn a ffurfwedd ac argyhoeddi eraill o'u gwerth;
5. Cynhyrchu'r deilliannau allweddol mewn cylchoedd bywyd meddalwedd.
Disgrifiad cryno
 
 Amcanion y cwrs darlithoedd yn gyntaf yw cyflwyno myfyrwyr i'r arferion traddodiadol gorau ar gyfer pennu, cynllunio, cyflwyno, profi a gweithredu systemau meddalwedd mawr; ac yn ail i ddarparu fframwaith ar gyfer y deunydd mwy manwl ar ddylunio a ddysgir mewn cyrsiau eraill. Prosiect grwp yw'r gwaith ymarferol. Mae'n bosibl y rhoddir prosiectau gwahanol i fyfyrwyr ar gynlluniau gradd gwahanol.
 
Modiwl hir a tenau. Dim darlithoedd yn Semester 2.
 
Caiff system diwtorial gyffredinol i fyfyrwyr Blwyddyn 2 ei gweinyddu drwy'r modiwl hwn.
 
Modiwl hir a tenau. Dim darlithoedd yn Semester 2.
Caiff system diwtorial gyffredinol i fyfyrwyr Blwyddyn 2 ei gweinyddu drwy'r modiwl hwn.
Nod
 
 Amcan y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i egwyddorion sylfaenol peirianneg meddalwedd a rhoi iddynt y profiad o ddatblygu system meddalwedd mewn tim. Yn benodol, mae'n anelu at wneud y canlynol:
 
- dangos arferion gorau i fyfyrwyr yng ngweithgareddau peirianneg rheoli prosiect, sicrhau ansawdd a chydymffurfio a safonau;
- galluogi myfyrwyr i adnabod a defynyddio arferion priodol ar gyfer pennu, cynllunio, profi a gweithredu systemau meddalwedd mawr;
- darparu fframwaith ar gyfer disgyblaeth peirianneg meddalwedd, gan gynnwys y deunydd mwy manwl ar ddylunio a gweithredu a ddysgir mewn cyrsiau eraill;
- cynnwys myfyrwyr wrth ddatblygu darn o feddalwedd sydd mor agos ag sy'n bosibl mewn amgylchedd prifysgol i'r amgylchiadau datblygu meddalwedd a geir mewn diwydiant.
Cynnwys
 
 1.	Cyflwyniad : 1 Ddarlith
Ymagwedd ac ymrwymiadau'r peiriannydd proffesiynol. Meddalwedd fel arteffact peirianneg. Tebygrwydd rhwng meddalwedd a changhennau eraill o beirianneg.
 
2. Cylch Bywyd Meddalwedd : 3 Darlith
Disgrifio o'r cyfnodau mewn ystod o gylchoedd bywyd meddalwedd (gan gynnwys Rhaeadr, Prototeipio, Rhaglennu Eithafol a modelau Troell) a'r prif ddeilliannau a gweithgareddau sy'n gysylltiedig a phob cyfnod. Gwella proses meddalwedd.
 
3. Rheoli Prosiect : 2 Ddarlith
Cynllunio ac amcangyfrif costau. Monitro cynnydd. Strwythur tim a rheoli tim.
 
4. Rheoli Ansawdd : 2 Ddarlith
Dilysu, gwirio a phrofi. Cynlluniau ansawdd. Archwilio rhaglen, archwilio cod a mathau eraill o adolygu. Rol y grwp sicrhau ansawdd. Safonau (rhyngwladol, cenedlaethol a lleol).
 
5. Rheoli Ffurfwedd : 2 Ddarlith
Llinellau sylfaen. Gweithdrefnau rheoli newid. Rheoli fersiwn. Offer meddalwedd i gefnogi rheoli ffurfwedd.
 
6. Peirianneg Gofynion a HCI : 2 Ddarlith
Safon IEEE ar gyfer manylion gofynion. Dilysu gofynion drwy brototeipio, er enghraifft. Diffygion yn yr agwedd draddodiadol tuag at fanylion. Cyflwyniad i achosion Defnydd UML. Cyflwyniad i HCI.
 
7. Dylunio : 2 Darlith
Dylunio (pensaerniol) bras a dylunio manwl. Defnydd o haniaethu, celu gwybodaeth, dadelfennu swyddogaethol a hierarchaidd ar lefelau uwch na'r rhaglen unigol. Cynnwys dogfennau dylunio. Diagramau gwladol. Nodiannau UML perthnasol: pecynnau, diagramau cyfres a gweithgaredd, gwrthrychau gweithredol.
 
8. Gweithredu a chynnal : 2 Ddarlith
Dewis iaith. Trostorri. Dulliau o gynnal a chadw. Ail-ffactora.
 
9. Profi : 2 Ddarlith
Strategaethau profi. Offer profi: dadansoddwyr statig a deinamig, harneisiau prawf a chynhyrchwyr data, efelychwyr. Profi perfformiad. Profi atchweliad. Dogfennaeth a hyfforddiant i'r defnyddiwr.
 
10. Dosbarthiadau Tiwtorial
Bydd dosbarth tiwtorial wythnosol yn gysylltiedig a'r cwrs hwn. Bydd y dosbarth tiwtorial yn cael ei ddefnyddio i drefnu gweithgareddau prosiect grwp a thrafod materion peirianneg meddalwedd.
 
Sgiliau Modiwl
| Math o Sgiliau | Manylion Sgiliau | 
|---|---|
| Cyfathrebu | Bydd angen sgiliau ysgrifenedig i gwblhau dofgennau ategol i gyd-fynd a'r gwaith cwrs. | 
| Datblygu personol a chynllunio gyrfa | Bydd angen rheoli amser yn ofalus er mwyn galluogi myfyrwyr i gwblhau gwaith cwrs etc. | 
| Datrys Problemau | Mae hyn yn greiddiol yn y prosiect grwp ac yn y deunydd a arholir. | 
| Gwaith Tim | Yn rhan sylfaenol o'r modiwl. | 
| Gwella dysgu a pherfformiad ei hun | Gweler uchod. | 
| Sgiliau pwnc penodol | Gweler teitl a chynnwys y modiwl. | 
| Sgiliau ymchwil | Bydd angen i'r myfyrwyr chwilio am wybodaeth dechnegol berthnasol a'i defnyddio wrth gwblhau gwaith cwrs. | 
| Technoleg Gwybodaeth | Mae'r holl modiwl yn ymwneud a'r maes hwn. | 
Nodau
Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 5