Module Information

Cod y Modiwl
CC39440
Teitl y Modiwl
PROSIECT HIR
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Semester 2 (Dysgwyd dros 2 semester)
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus
Rhagofynion
Cofrestru yn yr Adran

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Eraill Prosiect dan oruchwyliaeth. Mae 4 darlithoedd yn gysylltiedig a'r modiwl hwn.
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Asesiad Ailsefyll Ailsefyll arholiad a fethwyd a/neu ailgyflwyno elfennau'r gwaith cwrs a fethwyd/nas cyflwynwyd neu elfennau cyfwerth.  100%
Asesiad Semester Prosiect Hir  (o leiaf 10,000 o eiriau)  100%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

bod wedi cwblhau darn o waith, o dan arweiniad goruchwyliwr, ond gan ddangos hunanddisgyblaeth, trefniadaeth a meddwl annibynnol;

bod wedi dangos gallu i feithrin arbenigedd mewn maes astudio penodol a hynny'n bennaf drwy astudio dan arweiniad;

bod wedi llunio gwerthusiad beirniadol o'u gwaith, gan werthuso pob agwedd ar eu dulliau o weithio.

Disgrifiad cryno

Rhaid i fyfyrwyr gwblhau darn sylweddol o waith, dan arweiniad goruchwyliwr, ond gan ddangos hunanddisgyblaeth, trefniadaeth a meddwl annibynnol. Fel arfer, mi fydd y prosiectau'n gofyn am ddatblygu darn o feddalwedd o'r datganiad cychwynnol o ofynion drwy gamau manylu a dylunio, hyd at ei weithredu a'i brofi'n llwyddiannus. Mae'n bosibl y ceir elfen o galedwedd yn achos myfyrwyr a chefndir addas.

Pwrpas prosiect CC39440 yw rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddwyn ynghyd y sgiliau ymarferol a'r ddealltwriaeth o ddamcaniaethau a feithrinwyd ganddynt, trwy ddatblygu cynnyrch cyflawn o'r cam o fanylu ar ofynion hyd at ddangos bod y cynnyrch yn medru bodloni'r gofynion hynny. Mae'r broses hon yn cynnwys paratoi'r dogfennau priodol, gan gynnwys dogfennu'r penderfyniadau a wnaed ynghylch dylunio.

Cynnwys

Mae 4 darlith ffurfiol yn gysylltiedig a'r prosiect.

Deunydd Ysgrifenedig

Bydd deunyddiau ysgrifenedig amrywiol sy'n rhoi arweiniad ar sut i gyflawni'r prosiect, pynciau'n ymwneud ag asesiad a chyflwyno'r prosiect yn cael eu darparu gan yr adran. Disgwylir i fyfyrwyr dreulio tua deg awr yr wythnos ar gyfartaledd ar y prosiect a chyfarfod yn rheolaidd a'r goruchwyliwr. Caiff y cwrs hwn ei asesu ar sail cyflawni'n dechnegol, yn ol tystiolaeth adroddiad interim, arddangosiad ffurfiol o'r prosiect, ac adroddiad ysgrifenedig sylweddol.

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Dylai'r modiwl hwn fod yn fanteisiol i'w sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig (traethawd estynedig) a llafar (arddangosiad).
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Dylai'r modiwl hwn gynorthwyo'r myfyriwr i ddeall yr hyn sy'n bosibl iddo/iddi ei wneud a'r radd.
Datrys Problemau Mae datrys problemau yn elfen gynhenid wrth weithredu systemau Cyfrifiadura.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Gofynnir i'r myfyriwr ystyried yr hyn a ddysgwyd ganddo/ganddi a'i b/pherfformiad.
Rhifedd Mae Cymhwyso Rhifau yn elfen gynhenid wrth astudio Cyfrifiadura.
Sgiliau ymchwil Bydd angen iddynt archwilio ac ysgrifennu ynghylch parth cymhwyso ar gyfer systemau cyfrifiadura.
Technoleg Gwybodaeth Mae Technoleg Gwybodaeth yn elfen gynhenid wrth astudio Cyfrifiadura.

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6