Module Information

Cod y Modiwl
CF37520
Teitl y Modiwl
DATBLYGIAD MEDDYGAETH FODERN, C.1750-2000
Blwyddyn Academaidd
2010/2011
Cyd-gysylltydd y Modiwl
Semester
Bwriedir ar Gyfer Blynyddoedd i Ddod
Elfennau Anghymharus
Elfennau Anghymharus

Manylion y cyrsiau

Math o Ddysgu Manylion / Hyd Dysgu
Darlithoedd
Seminarau / Tiwtorialau
 

Dulliau Asesu

Math o Assessiad Manylion / Hyd Assessiad Cyfran
Arholiad Ailsefyll ARHOLIAD CAEEDIG AC UNRHYW WAITH YSGRIFENEDIG SYDD AR GOLL 
Arholiad Semester 2 Awr   ARHOLIAD YSGRIFENEDIG  60%
Asesiad Semester 2 X TRAETHAWD O 2,500 O EIRIAU  40%

Canlyniadau Dysgu

Wedi cwblhau'r modiwl dylai'r myfyrwyr:

Disgrifio ac asesu datblygiadau modern ym maes meddygaeth a gwasanaethau iechyd yn Ewrop a gogledd America

Adolygu'n feirniadol gyd-destunau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol y datblygiadau meddygol a'r gwasanaethau iechyd

Gwerthuso effaith meddygaeth wyddonol ar fywydau pobl gyffredin

Dadansoddi tystiolaeth wreiddiol mewn ffordd feirniadol a deallus

Trafod dadleuon hanesyddol trwy waith ysgrifenedig a llafar

Gweithio'n annibynnol ac fel rhan o grwp

Disgrifiad cryno

Mae'r cwrs hwn yn cyflwyno myfyrwyr i hanes gwleidyddol, cymdeithasol a deallusol meddygaeth a gofal-iechyd gan ddilyn eu datblygiad yng Ngorllewin Ewrop ac America yn y cyfnod modern. Byddant yn archwilio sut y defnyddiodd meddygon confensiynol syniadau'r Dadeni o reswm, rhesymoledd a'r gwir gwyddonol yn eu brwydrau nhw gyda chyfundrefnau meddygol eraill, a sut yr enillodd y gyfundrefn hon gydnabyddiaeth swyddogol ac uchafiaeth wleidyddol a chymdeithasol. O fewn y modiwl hwn, bydd myfyrwyr yn ennill dealltwriaeth ehangach o ddatblygiad y proffesiwn meddygol a gwybodaeth feddygol yng nghyd-destun twf y genedl-wladwriaeth fodern a diwydianmu a threfoli Prydain

Nod

Bydd y modiwl yn llenwi bwlch pwysig oddi fewn maes Hanes drwy'r Gymraeg yn Rhan Dau

Cynnwys

1. Clio a'r Meddygon: Hanesyddiaeth Meddygaeth.
2. Y Farchnadfa Feddygol yn y Ddeunawfed Ganrif.
3. Hanes Meddygol 'oddi isod': Syniadau Lleyg y Corff ac Iechyd.
4. 'Geni y Clinig': Hanes Ysbytai.
5. Meddygon, Cenedl a Menywod.
6. Addysg Feddygol.
7. Proffesiynoli ac Arbenigaeth Feddygol.
8. Cyfundrefnau Meddygaeth Amgen yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg.
9. 'Satanic Mills': Diwydiannu, Trefoli a Iechyd Cyhoeddus.
10. Gwallgofrwydd a Chymdeithas.
11. Theori Cell, Bacterioleg a Thwf y Theori Germ.
12. Gofal Cynradd.
13. Imperialaeth a Lledaeniad Meddygaeth Orllewinol.
14. Gwrthwynebiad i Feddygaeth Wyddonol.
15. Gwyddor Ewgenig yn yr Ugeinfed Ganrif.
16. Meddygaeth a Rhyfel.
17. Meddygaeth a'r Wladwriaeth yn yr Ugeinfed Ganrif.
18. Buddugoliaeth Meddygaeth Orllewinol ers yr Ail Ryfel Byd

Sgiliau Modiwl

Math o Sgiliau Manylion Sgiliau
Cyfathrebu Asesir sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig trwy arholiad a dau draethawd. Bydd y tiwtorial traethawd yn nodi problemau a rhoddir cyngor addas i¿r myfyrwyr. Datblygir sgiliau cyfathrebu ar lafar trwy¿r trafodaethau seminar. Disgwylir y myfyrwyr i wneud cyflwyniadau yn y seminarau hefyd. Ni asesir y sgiliau llafar hyn.
Datblygu personol a chynllunio gyrfa Bydd y modiwl hwn yn datblygu sgiliau ysgrifenedig a llafar. Bydd yn helpu¿r myfyrwyr i ddatblygu sgiliau pwysig, gan gynnwys gwneud ymchwil, asesu gwybodaeth ac ysgrifennu mewn ffordd ffurfiol. Ni asesir y sgiliau hyn.
Datrys Problemau Nodi problemau; nodi ffactorau a allai effeithio ar atebion posibl; datblygu meddylfryd creadigol tuag at ddatrys problemau; gwerthuso manteision ac anfanteision atebion posibl; llunio cynnig rhesymegol wrth ymateb i broblem.
Gwaith Tim Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda¿i gilydd yn y seminarau trwy drafod testunau sydd dan sylw. Ni asesir y medr hwn.
Gwella dysgu a pherfformiad ei hun Bydd y myfyrwyr yn gyfrifol am eu gwaith eu hunain. Bydd disgwyl i¿r myfyrwyr baratoi cyn seminarau, cyfrannu yn y seminarau, gwneud ymchwil ar gyfer y traethodau, ac ysgrifennu a chyflwyno traethodau yn brydlon cyn y dyddiad cau. Ni asesir y medrau hyn yn ffurfiol.
Rhifedd Cyflwynir y myfyrwyr i rai ystadegau sylfaenol yn y darlithiau, gan gynnwys cyfraddau marwolaethau, ac asesir y medrau hyn fel rhan o¿r traethodau
Sgiliau ymchwil Datblygir hyn trwy¿r ymchwil bydd y myfyrwyr yn gwneud cyn y seminarau a thrwy¿r traethodau. Asesir y medrau hyn trwy¿r traethodau.
Technoleg Gwybodaeth Anogir y myfyrwyr i chwilio am ddeunydd ar y we ac oddi ar CD-Rom. Hefyd, anogir y myfyrwyr i ddefnyddio prosesydd geiriau wrth greu eu gwaith..

Nodau

Mae'r modiwl hwn yn cydymffurfio a FfCChC Lefel 6